Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gig Diwedd Blwyddyn Ashton yn codi £800 ar gyfer elusen New Start

Mae Ashton Allen, myfyriwr Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth Lefel 3 o Goleg Llandrillo, wedi llwyddo i godi £800 i elusen er cof am ei llysdad, Bayley, a fu farw o gyflwr ar ei ysgyfaint y llynedd.

Gwnaeth Ashton, sy'n 19 oed, a'i ffrind Jenny, sy'n fyfyrwraig Lefel 2, drefnu a chynnal 'Symffoni Rhoi' yn rhan o’u prosiect diwedd blwyddyn i godi arian ar gyfer elusen New Start (Cronfa Trawsblaniadau Ysbyty Wythenshawe).

Cynhaliwyd y gig yn gynharach ym mis Mai yn Theatr Alwyn ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos. Gwnaeth amrywiaeth o fandiau lleol gymryd rhan yn y Symffoni Rhoi, gan gynnwys Bluefin, Amidarla, Anyway Champion, Assembly Point a Glass Angels - pob un ohonynt yn cynnwys myfyrwyr o Goleg Llandrillo ynghyd â James, Tiwtor Cerdd y Coleg a gamodd i'r llwyfan gyda'i fand Bluefin.

Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i Ashton, a fydd yn gorffen yn y coleg yr haf hwn. Bu farw ei llysdad, Bayley, fis Awst diwethaf, “Mae wedi bod yn anodd i mi beidio â rhoi’r gorau iddi,” meddai.

Trefnodd Ashton y gig er cof am Bayley, gan ddweud mai ef oedd “y person cryfaf rydw i erioed wedi’i adnabod.”

"Dyma ffordd arbennig iawn i mi orffen fy nhrydedd flwyddyn - fy mlwyddyn olaf. Roedd y gig diwedd blwyddyn gwerth chweil hwn yn gyfle i bawb berfformio gyda’i gilydd am y tro olaf,” ychwanegodd.

Er ei bod yn teimlo'n nerfus am draddodi araith ar y noson, dywedodd Ashton “Ro’n i eisiau rhedeg i ffwrdd, ond unwaith i mi gyrraedd hanner ffordd, fe gymerais i anadl ddofn ac ymlacio. Roedd yn anhygoel gweld ymateb pawb. Ro’n i'n teimlo pawb yn fy nghefnogi, ac rydw i'n teimlo ein bod ni gyd wedi gwneud rhywbeth gwych.”

Mae Ashton rŵan yn bwriadu cymryd blwyddyn i ffwrdd i deithio, treulio amser gyda’i ffrindiau a’i theulu a gweithio ar ei sgiliau cerddorol cyn mynd i'r brifysgol. “Byddwn i wrth fy modd yn byw mewn dinas rhywbryd a dysgu mwy am y diwydiant,” meddai hi.

Llongyfarchiadau Ashton; am achos arbennig a ffordd wych o orffen dy daith yn y coleg.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth, mae amser o hyd i archebu eich lle ar gyfer mis Medi. Ewch i'n gwefan i weld yr ystod o gyrsiau sydd ar gael: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/music-and-music-technology