Dewis Myfyriwr o Goleg Llandrillo i fod yn Ddyfarnwr Cynorthwyol yn un o Gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad
O oresgyn anaf i fod yng nghanol y bwrlwm ar y cae yn Stadiwm Principality, mae bywyd wedi newid i un myfyriwr na allai bellach chwarae'r gêm a garai.
Myfyriwr ar y cwrs Lefel 3 mewn Gwyddor Chwaraeon yw George Clemence ac mae'n rhan o Raglen Datblygu Dyfarnwyr URC y coleg. Yn sgil hynny, ddydd Sul 15 Chwefror, gwireddodd freuddwyd oes drwy gael ei ddewis i fod yn Ddyfarnwr Cynorthwyol yn y gêm rhwng Cymru a Ffrainc yn Stadiwm Principality, Caerdydd.
"Wnes i 'rioed feddwl y byddwn i'n sefyll ar y cae yn un o gemau'r Chwe Gwlad yn gwrando ar y ddwy anthem ac yn gwylio pobl fel Dewi Lake yn bloeddio canu," meddai George. "Roedd yn brofiad anhygoel!"
Mae taith George i ddyfarnu ar y lefel hon wedi bod yn un o benderfyniad i ddal ati wrth i fywyd fynd â chi i gyfeiriad gwahanol. Roedd George o Fae Colwyn yn chwaraewr rygbi dawnus ond bu'n rhaid iddo roi'r gorau i chwarae pan gafodd anaf i'w ysgwydd tua dwy flynedd yn ôl.
"Ond wnes i 'rioed adael y gêm yn gyfan gwbl," meddai George. "Mi wnes i gymryd amser i feddwl beth allwn i'w wneud i gael dal i fod yn rhan o'r gêm."
Yr ateb oedd dyfarnu. Tra oedd yn chwarae, roedd George wastad am wybod gymaint ag y gallai am y gamp oedd yn golygu cymaint iddo. Byddai'n sylwi ar y dyfarnwyr ac yn gwrando arnynt. "Dw i'n meddwl bod hynny wedi fy helpu i ddeall y gêm yn well ac mae wedi cael effaith ar y ffordd dw i fy hun yn dyfarnu," ychwanegodd.
Dechreuodd George drwy ddyfarnu gemau o dan 11 ei frawd bach. O gael ei weld yn gwneud hynny cafodd gyfleoedd pellach, fel dyfarnu yng ngemau cwpan Rygbi Gogledd Cymru.
Yn y coleg, dechreuodd George gymryd rhan yn Rhaglen Datblygu Dyfarnwyr RGC sy'n cael ei rhedeg gan Ollie Coles, Swyddog Llesiant Actif GLlM sy'n ddyfarnwr ei hun. Helpodd y rhaglen, sy'n bartneriaeth â'r Undeb Rygbi, ef i ddatblygu fel dyfarnwr ac i ennill cymhwyster dyfarnu Lefel 2.
"Rhoddodd Ollie gyfleoedd i mi wneud y cymhwyster Lefel 2 a dyfarnu mewn gemau ieuenctid a gemau yn y coleg, ac mae pethau wedi datblygu o hynny a dweud y gwir," meddai George. "Dw i wedi cael gymaint o gefnogaeth," ychwanegodd.
Dyma dymor llawn cyntaf George fel dyfarnwr ac mae ganddo lawer o gemau eraill i ddod lle bydd yn hogi ei sgiliau ac yn ennill mwy o brofiad. Bydd hefyd yn cael triniaeth ar ei ysgwydd yn ystod y misoedd nesaf ac mae'n bwriadu gweithio'n galed er mwyn gallu chwarae eto.
"Er 'mod i'n mwynhau dyfarnu, dw i ddim yn meddwl y baswn i lle'r ydw i rŵan oni bai 'mod i wedi chwarae rygbi. Felly, dw i'n mynd i drio chwarae eto, hyd yn oed tasa hi'n ddim ond un gêm, ac yna gweld pa mor bell alla i fynd efo'r dyfarnu," meddai George.
Yn y dyfodol mae George yn gobeithio cwblhau ei gymhwyster Lefel 3 mewn dyfarnu, ond does dim brys arno ar hyn o bryd. "Dw i'n ifanc," meddai. "Dw i yma i fwynhau’r profiad, i fwynhau pob gêm dw i'n ei dyfarnu ac i wneud yn siŵr fod gen i wên ar fy wyneb a 'mod i'n cael hwyl."
Mae llwyddiant George yn llwyddiant i'r bartneriaeth rhwng y Grŵp â'r Undeb Rygbi hefyd. Oni bai am y bartneriaeth honno, fyddai George ddim wedi cael y fath gefnogaeth. Rydyn ni'n gobeithio bod llawer rhagor o lwyddiannau i ddod wrth i'r bartneriaeth helpu mwy o fyfyrwyr ar eu taith i fod yn ddyfarnwyr.
Meddai Ollie Coles, Swyddog Llesiant Actif GLlM a Dyfarnwr Rygbi: "Mae llwyddiant George yn dysteb i'w waith caled a'i ymroddiad ar Raglen Datblygu Dyfarnwyr URC yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Mae George wedi manteisio'n llawn ar y gefnogaeth sydd ar gael yn y coleg a hefyd yn y gymuned ehangach, diolch i'n partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru, i ddatblygu a gwneud ei farc fel Swyddog Ifanc mewn Gemau. Dim ond y dechrau ydi dyfarnu yn y gêm Chwe Gwlad a dw i'n sicr bod gyrfa wych yn aros am George fel swyddog gemau yng ngogledd Cymru."
Llongyfarchiadau i ti George ar bopeth rwyt ti wedi'i gyflawni hyd yma. Rydyn ni'n dymuno'r gorau i ti efo dy rygbi yn y dyfodol!
I weld y dewis helaeth o gyrsiau chwaraeon sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai i ymadawyr ysgol ac oedolion, ewch i: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/sport-and-outdoor-education