Eva Voma, cyn-fyfyrwraig o Goleg Menai, yn addysgu'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr
Mae bod yn fyfyriwr yng Ngholeg Menai mor werth chweil, mae rhai yn dewis aros yn y Coleg wrth gamu i’r byd gwaith! O fod yn arloeswr yn y diwydiant i ysbrydoli yn yr ystafell ddosbarth, dyma’r Darlithydd Peirianneg, Eva Voma, yn rhannu ei thaith i addysgu.
Dechreuodd stori Eva yng Ngholeg Menai pan oedd yn fyfyrwraig yn cwblhau Diploma Lefel 3 a Thystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg.
Cyn camu yn ôl i'r ystafell ddosbarth dair blynedd yn ôl, roedd Eva wedi ennill profiad ymarferol gwerthfawr yn y sector peirianneg ac wedi cwblhau prentisiaeth gradd gyda'r coleg wrth weithio yn International Safety Components yn Llandygai, gan raddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Systemau Mecanyddol Cymhwyso, a ddyfarnwyd gan Brifysgol Bangor.
Yn y pen draw, angerdd Eva i helpu eraill i dyfu a wnaeth ei hysbrydoli i addysgu.
"Rydw i’n credu bod addysgu yn gweddu i'm personoliaeth," meddai Eva. "Rydw i’n mwynhau trosglwyddo gwybodaeth i eraill a'u helpu i ddatblygu fel pobl."
Erbyn hyn, mae Eva yn dysgu'n llawn amser ar gampws y Coleg yn Llangefni. Dyma oedd ganddi i’w ddweud wrth adfyfyrio ar ei thaith o'r diwydiant i'r ystafell ddosbarth, llawenydd digwyddiadau hollbwysig a'i phrif awgrymiadau ar gyfer myfyrwyr newydd.
Dathlu'r buddugoliaethau bach a'r camau gyrfa mawr
Llwyddiant ei myfyrwyr y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth sydd fwyaf gwerth chweil i Eva am weithio ym maes addysg bellach.
"Gweld myfyrwyr yn symud ymlaen i’r byd gwaith a dechrau ar brentisiaethau yn eithaf buan ar ôl gorffen y cwrs ydy’r peth sydd fwyaf arbennig am weithio ym maes addysgu bellach," meddai. "Mae'n hyfryd eu gweld nhw’n cyfrannu i’r diwydiant. Dyna'r nod, ynte?"
Nid dim ond y datblygiadau gyrfaol arwyddocaol sy'n gwneud y swydd yn werth chweil, ond rhyngweithio gyda’i myfyrwyr bob dydd.
"Mae’n braf iawn gweld y myfyrwyr yn gwenu a chwerthin ar ddiwedd gwers ac yn diolch i mi, yn ogystal â digwyddiadau pwysig pan fydd rhywun yn dod i ddeall cysyniad, neu'r adegau pan fydd myfyrwyr yn cynhesu ata i."
Prif gyngor Eva i fyfyrwyr newydd
Gyda blwyddyn academaidd newydd ar y gweill, dyma dri darn o gyngor Eva i unrhyw un sy'n dechrau astudio yng Ngholeg Menai'r hydref hwn:
Ewch yr ail filltir: "Cymerwch ran mewn cystadlaethau, siaradwch â chyflogwyr, cyflwynwch waith y tu hwnt i'r lleiafswm. Byddwch chi'n teimlo'n well ynddo'ch hun a hefyd yn agor drysau i gyfleoedd gyrfa. Ceisiwch wneud argraff."
Rheolwch eich amser yn ddoeth: "Symudwch ddyddiadau cau 'yn agosach' yn eich meddwl - yn aml, bydd gennych chi lai o amser nag ydych chi’n feddwl i gwblhau gwaith!"
Gofynnwch am help pan fyddwch ei angen: "Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiwn neu ofyn am gymorth - mae'r staff yma i'ch helpu chi mewn unrhyw ffordd y gallwn!"
P'un a ydych chi'n awyddus i ddechrau gyrfa newydd, uwchsgilio, neu ddilyn ôl troed tiwtoriaid ysbrydoledig fel Eva, mae Coleg Menai yn cynnig amgylchedd cefnogol i'ch helpu i gyflawni eich nodau.
Nid yw'n rhy hwyr i ddechrau eich stori gyda ni ym mis Medi. Ewch i'n gwefan i ddysgu am yr amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael: https://www.gllm.ac.uk/course-type/full-time-further-education