Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Canolfan CIST yn Llangefni yn Lansio Cyrsiau Hyfforddi Newydd mewn Cynaliadwyedd Amgylcheddol

Mae Canolfan CIST Busnes@LlandrilloMenai wedi cael ei chymeradwyo i fod yn ganolfan hyfforddi ISEP (Institute of Sustainability and Environmental Professionals).

Corff proffesiynol i ymarferwyr ym maes cynaliadwyedd yw ISEP, ac mae'n gosod safonau cydnabyddedig i'r rhai sy'n gweithio i gyflawni canlyniadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.

Esboniodd Gareth Hughes, Rheolwr CIST,

"Rydyn ni'n falch o gadarnhau bod Canolfan CIST bellach wedi cael ei chymeradwyo gan ISEP. Felly gallwn ehangu ein cyrsiau hyfforddi arbenigol i gynnwys cyrsiau rheoli a gydnabyddir yn genedlaethol ym maes cynaliadwyedd a'r amgylchedd. Cyrsiau ydi'r rhain sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion y gweithlu modern – o dimau gweithredol i uwch arweinwyr.

"Wrth i Gymru weithio tuag at fod yn sero net erbyn 2050, mae ar sefydliadau angen y sgiliau i ddeall eu cyfrifoldebau amgylcheddol a'u rhoi nhw ar waith. Mae'r cyrsiau newydd a achredir gan ISEP yn canolbwyntio ar gefnogi'r newid sydd ei angen, gyda'r ddarpariaeth yn cynnwys meysydd fel Tuag at Sero Net a Rheoli'r Amgylchedd."

Mae llawer o'r cyrsiau ISEP newydd yn cael ei hariannu'n llawn drwy raglen Cyfrif Dysgu Personol Llywodraeth Cymru. Gall cyflogwyr ac unigolion ddod i wybod rhagor am yr arian sydd ar gael drwy fynd i: https://www.gllm.ac.uk/cy/personal-learning-account

Mae CIST yn ddarparwr hyfforddiant blaenllaw yn y Deyrnas Unedig ym maes sgiliau adeiladu, seilwaith a thechnoleg. Wedi'i lleoli yn Llangefni, mae CIST yn ganolfan arloesol gwerth £2.4m sy'n darparu hyfforddiant proffesiynol i feithrin y sgiliau sydd eu hangen i weithio ar brosiectau mawr a thrawsnewid seilwaith. Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys hyfforddiant achrededig a gydnabyddir gan y diwydiant ym maes adeiladu, peirianneg sifil, lleihau carbon ac ôl-osod.

Meddai Gwenllian Roberts, Uwch Gyfarwyddwr Datblygiadau Masnachol:

“Mae cael yr achrediad hwn gan ISEP yn gam pwysig iawn i CIST. Mae'r ddarpariaeth newydd yn cefnogi busnesau ar draws pob sector wrth iddynt weithio tuag at fodloni gofynion yn ymwneud â chynaliadwyedd a'r amgylchedd mewn ffordd ymarferol a mesuradwy.

"Mae pwyslais Busnes@LlandrilloMenai ar gynnig hyfforddiant sy'n gwneud gwahaniaeth i fusnesau, gan gryfhau sgiliau, cefnogi gweithgarwch ymarferol a rhoi budd i gymunedau lleol."

Ceir rhagor o wybodaeth am raglen Cyfrif Dysgu Personol Llywodraeth Cymru a'r cyllid sydd ar gael yma: https://www.gllm.ac.uk/cy/personal-learning-account