Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ella yn ennill cystadleuaeth Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn Grŵp Llandrillo Menai 2026

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn hynod falch o gyhoeddi mai Ella Griffiths, myfyrwraig Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth yng Ngholeg Menai, yw enillydd cystadleuaeth Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn 2026.

Cynhaliodd Tîm Menter y Coleg ddigwyddiad arbennig ar gampws Coleg Menai ym Mangor i ddathlu ei llwyddiant. Cafodd Ella, sy'n bedair ar bymtheg oed, liniadur newydd sbon i'w helpu i lansio ei mentrau busnes yn y dyfodol. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwerthfawr iddi gael adborth proffesiynol gan y panel oedd yn beirniadu’r gystadleuaeth sef tri model rôl annibynnol o Syniadau Mawr Cymru.

Fe’u plesiwyd gan wreiddioldeb ei syniad busnes sef creu hamperi o nwyddau Cymreig. Ond bellach mae Ella am fynd gam ymhellach gyda'i syniadau entrepreneuraidd. Ers cymryd rhan yn y gystadleuaeth, mae Ella wedi parhau i weithio'n agos gyda'r Tîm Menter gan edrych am gyfleoedd ariannu, ac ehangu ei gorwelion gyda chynllun i lansio ail fenter: busnes tryc byrbrydau lleol.

Mae taith Ella yng Ngholeg Menai yn un o ymroddiad a chynnydd. Ar ôl ymuno â'r coleg ar gwrs Lefel 2 i ddechrau, mae hi wedi rhagori'n gyson, gan ennill teitl Myfyriwr y Flwyddyn yn 2025 yn ogystal â chipio'r brif wobr entrepreneuraidd eleni.

Canmolodd Sharon Jones, ei thiwtor personol, agwedd at waith a chymeriad Ella:

“Mae Ella yn cwblhau Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth a bydd yn gorffen ei chwrs eleni. Ymunodd â'r coleg ar y rhaglen Lefel 2 yn wreiddiol, ac mae hi wedi gwneud cynnydd eithriadol o dda drwy gydol ei hastudiaethau.

“Mae hi wedi bod yn datblygu a thrafod ei syniadau busnes ers cryn amser, gan lwyddo i gadw cydbwysedd rhwng hynny â'i hastudiaethau a'i gwaith cyflogedig. Mae Ella yn fyfyrwraig hynod o weithgar, a bob amser yn barod i helpu eraill yn ei dosbarth, a dw i'n falch iawn drosti.”

Wrth i gyfnod Ella yn y coleg ddod i ben yr haf yma, mae dyfodol entrepreneuraidd disglair o'i blaen. Rydyn ni'n dymuno pob lwc i Ella wrth iddi symud ymlaen i'w phennod nesaf!

Ydych chi'n entrepreneur ifanc sy'n llawn syniadau? P'un a ydych chi'n ystyried ailhyfforddi neu'n gadael yr ysgol ac yn meddwl am eich camau nesaf, dydi hi ddim yn rhy hwyr i ddechrau eich stori gyda ni ym mis Medi. Ewch i’n gwefan i ddysgu rhagor am yr amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael yn y Grŵp i bobl ifanc ac oedolion: https://www.gllm.ac.uk/