Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Llwyddiant i Elizabeth ar Raglen L'Oréal i Ddarlithwyr

Llongyfarchiadau i Elizabeth Keogh, Rheolwr Salon campws y Rhyl, am raddio o'r Rhaglen Rhagoriaeth Darlithwyr yn Academi L'Oréal yn Llundain.

Bellach mae'r darlithydd Trin Gwallt o Goleg Llandrillo ymhlith nifer dethol o addysgwyr sydd wedi cymhwyso i ddarparu'r ardystiad Colour Keys 1, cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant sy'n rhoi arbenigedd lliwio i ddysgwyr trin gwallt.

Roedd y cwrs yn golygu bod rhaid i Elizabeth deithio bob mis i Academi L’Oréal yn Llundain. Yno roedd hi a darlithwyr eraill o bob cwr o'r Deyrnas Unedig yn cael hyfforddiant i gwblhau'r rhaglen Colour Keys 1 yn llwyddiannus.

Teimla Elizabeth fod y cyfle wedi cyfrannu'n sylweddol at ei datblygiad proffesiynol fel darlithydd, ac ar y cyd â L’Oréal mae hi bellach yn gallu darparu hyfforddiant Colour Keys 1 i ddysgwyr trin gwallt ar draws y Grŵp.

Meddai Elizabeth: "Er bod y daith yn heriol, roedd yn werth ei chymryd. Mae'r profiad wedi cynyddu fy nealltwriaeth o'r diwydiant a chryfhau fy arferion addysgu. Rydw i'n awr yn gallu dod â'r safonau a'r technegau diweddaraf yn uniongyrchol i'r dosbarth."

Rhan o'r profiad oedd bod Elizabeth wedi mynd â dysgwyr o Goleg Llandrillo ar drip i Lundain iddynt gael gweld sut roedd y diwydiant y gweithio a manteisio ar gyfleoedd dysgu.

"Dw i'n falch o fod yn un o ddim ond 12 darlithydd yn y Deyrnas Unedig sydd wedi cymhwyso i gyflwyno'r ardystiad Colour Keys 1 i ddysgwyr coleg. Mae hwn yn gymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant sy'n helpu myfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth hanfodol am liwiau ynghyd â sgiliau ymarferol gwerthfawr," meddai Elizabeth.

Llongyfarchiadau mawr i Elizabeth. Mae hi'n ysbrydoliaeth i'w dysgwyr a golyga ei llwyddiant bod ein dysgwyr trin gwallt yn gallu manteisio ar y wybodaeth a'r sgiliau diweddaraf o'r diwydiant fel eu bod yn barod am eu cam nesaf ar ôl gadael y coleg.

I weld y dewis llawn o gyrsiau trin gwallt a therapi harddwch sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai, ewch i: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/hairdressing-and-beauty-therapy