Dechrau delfrydol: Llwyddiant i staff a myfyrwyr Gofal Anifeiliaid yn Sioe Frenhinol y Tair Sir
Tîm Gofal Anifeiliaid Glynllifon yn dathlu cystadlu am y tro cyntaf gyda'u geifr Boer wedi iddyn nhw oresgyn pob disgwyliad yn Sioe Frenhinol y Tair Sir.
Mae staff addysgu a myfyrwyr Gofal Anifeiliaid yng Nglynllifon yn dathlu llwyddiant eithriadol ar ôl arddangos eu geifr mewn cystadlaethau yn Sioe Frenhinol y Tair Sir ym Malvern, Swydd Gaerwrangon, rhwng 12 ac 14 Mehefin. Wrth gamu i'r cylch am y tro cyntaf erioed gyda 10 gafr Boer, fe wnaeth y tîm ragori ar eu disgwyliad yn erbyn cystadleuwyr o'r radd flaenaf.
Roedd llawer yn y fantol, gyda'r gystadleuaeth yn cael ei beirniadu gan Mr Johan Strauss, sy'n meddu ar enw da'n rhyngwladol.
"Mae cyrraedd y brig dan feirniad o safon Mr Strauss yn garreg filltir enfawr i unrhyw fridiwr, heb sôn am dîm yn dangos eu hanifeiliaid am y tro cyntaf," meddai'r tiwtor Gofal Anifeiliaid, Sian Thomas.
Y gwaith caled y tu ôl i'r llenni
Er i'r staff lywio'r tîm i fuddugoliaeth yn y sioe, gosodwyd y sylfaen ar gyfer y llwyddiant hwn fisoedd yn ôl ar gampws y coleg.
"Mae cael gafr sioe lwyddiannus yn dechrau ymhell cyn diwrnod y sioe, ac yng Nglynllifon myfyrwyr ymroddedig sy'n cymryd y cyfrifoldeb," eglurodd Sian.
Bu myfyrwyr yn rheoli gofal dyddiol y geifr, gan sicrhau eu bod yn derbyn diet cytbwys o borthiant a dwysfwydydd o ansawdd uchel, yn ogystal â chynnal gwiriadau iechyd rheolaidd a thocio carnau, drwy gydol y flwyddyn. Wrth i dymor y cystadlu agosáu, trodd y myfyrwyr eu ffocws at baratoi’n drylwyr ar gyfer y sioe. Roedden nhw’n trin y geifr bob dydd i feithrin ymddiriedaeth, gan eu dysgu i gerdded yn dawel ar dennyn a sefyll yn gywir i’w harchwilio, a'u cyflwyno i wahanol amgylcheddau'n efelychu awyrgylch prysur sioe amaethyddol.
Drwy’r profiad ymarferol hwn, datblygodd y myfyrwyr sgiliau amhrisiadwy mewn rheoli da byw, gan sicrhau bod y geifr Boer yn iach, yn gyhyrog, ac yn cael eu cyflwyno i’r safon gorau posibl.
Sêr nodedig yn denu sylw
Talodd y gwaith paratoi diflino hwn ar ei ganfed yn y cylch, gyda sêr nodedig Glynllifon yn cipio'r sylw:
Enillodd Elis, myn gafr tri mis oed, ddosbarth hynod gystadleuol yn cynnwys 18 myn gafr. Aeth ymlaen i gael y gilwobr mynnau geifr ac Isbencampwr Gwryw yn gyffredinol.
Gwnaeth Ceri, benyw ifanc drawiadol, ymdrechu'n galed mewn cystadleuaeth anhygoel o anodd i sicrhau'r ail wobr.
Roedd cael llwyddiannau o'r fath yn eu sioe gyntaf erioed yn uchafbwyntiau emosiynol i'r adran gyfan.
"Dw i'n dal i wenu, hyd yn oed rwan," meddai Sian. "Roedd cael dyfarniad Isbencampwr Gwryw gyda Glynllifon Elis, gafr wedi'i eni a'i fagu yn y coleg, yn ein sioe gyntaf yn rhywbeth gwirioneddol arbennig." Roeddwn i'n teimlo'n hynod falch ac yn freintiedig i gynrychioli Glynllifon yn y cylch yn dangos ymdrechion y myfyrwyr fu'n gweithio'n ddiflino drwy gydol y flwyddyn."
Dyfodol disglair o'u blaenau
Hoffai tîm Glynllifon ddiolch o galon i Bwyllgor ac aelodau Cymdeithas Geifr Boer Prydain am eu cymorth, eu cefnogaeth a'u croeso cynnes amhrisiadwy i'r cylch cystadlu. Diolch yn fawr iawn hefyd i Mr Johan Strauss am ei feirniadaeth adeiladol ynghylch stoc Glynllifon ac am gymryd rhan mewn trafodaeth agored ac addysgiadol ynghylch dyfodol bridio geifr.
Mae'r ymddangosiad cyntaf hwn yn nodi dechrau pennod newydd gyffrous i raglen amaethyddol y coleg. Fel y nododd Sian:
"Mae'r llwyddiant hwn yn adlewyrchu'r ymrwymiad, y gwaith tîm, a'r angerdd a ddangoswyd gan bawb. Mae'r llwyddiant hwn yn rhoi hyder a chyffro mawr i ni ynghylch dyfodol geifr Boer y coleg a'r hyn y gellir ei gyflawni yn y blynyddoedd nesaf."
Llongyfarchiadau i'r staff a myfyrwyr Gofal Anifeiliaid ar ddechrau gwych i'w taith gystadleuol!