Ela yn dod â'r tlws adref i Gymru
Llongyfarchiadau mawr i Ela Hâf Williams a gipiodd wobr Pencampwraig Tymblo dan 19 oed yn Rowndiau Terfynol cystadleuaeth Gymnasteg Ysgolion Prydain yn Stoke-on-Trent ar 3 Mai 2026.
“Aeth y diwrnod yn arbennig o dda,” meddai Ela. “Daeth popeth dw i wedi bod yn gweithio arno yn ystod yr hyfforddiant at ei gilydd yn berffaith.”
Yn ddiweddar, daeth Ela sy'n ddwy ar bymtheg oed ac yn dilyn cwrs Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yng Ngholeg Menai, yn bencampwraig Cymru mewn Tymblo a Foltio yn y Pencampwriaethau Gymnasteg yng Nghaerdydd ac mae hi bellach wedi dod a thlws Pencampwr Prydain adref i Gymru.
“Dydw i dal ddim yn gallu credu mai fi ydi Pencampwr Prydain,” ychwanegodd Ela.
Mae Ela yn bwriadu cymryd cam yn ôl o hyfforddi am y tro ac mae hi'n edrych ymlaen at ganolbwyntio ar hyfforddi a throsglwyddo ei sgiliau a'i gwybodaeth i'r genhedlaeth nesaf o gymnastwyr.
“Y bwriad ydi dod nôl iddi ym mis Ionawr 2027, mynd yn ôl i hyfforddi ac anelu at dreialon Gemau’r Ynysoedd yr haf canlynol, byddai hynny'n wych,” meddai.
Camp a hanner sy'n adlewyrchu ymroddiad, talent a gwaith caled Ela – yn ei chwaraeon a'i hastudiaethau.
Hoffech chi yrfa ym myd Chwaraeon? Mae yna amser o hyd i wneud cais i Grŵp Coleg Menai ar gyfer mis Medi 2026. Edrychwch ar y cyrsiau sydd ar gael ar ein gwefan a dechreuwch eich stori chwaraeon gyda ni: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/sport-and-outdoor-education