Llwyddiant i fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn Eisteddfod yr Urdd 2026!
O berfformiadau theatr gerdd i ysgrifennu creadigol a siarad cyhoeddus, dangosodd ein myfyrwyr eu doniau ar y llwyfan cenedlaethol.
Rydyn ni'n hynod falch o ddathlu llwyddiannau'r myfyrwyr a gystadlodd yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn eleni!
Dyma rai o enillwyr y Grŵp:
Coleg Menai
Anna Walker - Myfyriwr Celfyddydau Perfformio: Ar benwythnos agoriadol yr Eisteddfod cipiodd Wobr Callum Scott-Howells am ei pherfformiad o gân theatr gerdd! Dyma wobr a gyflwynir yn flynyddol gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i gydnabod perfformwyr eithriadol rhwng 19 a 25 oed. Fel rhan o'i gwobr, bydd Anna'n cael ei mentora gan rai o sêr Cymru ac yn cael cyfle i berfformio yn nigwyddiadau'r Urdd yn Japan yn ddiweddarach eleni.
Begw Hughes - Myfyriwr Celf: Y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth Ffasiwn, a'r ail wobr yn y gystadleuaeth Creu ac Addurno gyda Thecstilau a Ffabrig.
Gofal Plant - "Y Bedair Ffantastig" sef Elen Williams, Amelia Gould ac Emily-Louise Garden: Cyntaf am greu gêm i hybu defnydd y Gymraeg ymhlith plant blynyddoedd cynnar.
Moli Prendergast - Myfyriwr Celf: Y drydedd wobr yng nghystadleuaeth Artist Ifanc y Flwyddyn.
Coleg Meirion-Dwyfor
Cafodd myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau Safon Uwch yng Ngholeg Meirion-Dwyfor lwyddiant yn yr Eisteddfod hefyd, gan ddangos sgiliau penigamp mewn sawl disgyblaeth:
Lea Roberts: Y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth Ryddiaith am ysgrifennu stori fer ardderchog.
Hari Davies: Ail mewn cystadleuaeth Farddoniaeth am gerdd yn cyfleu hiraeth am Ynys Môn.
Neli, Erin, Beca ac Elliw: Trydydd mewn cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus. Rhoddodd y tîm talentog berfformiad hyderus gan ddangos gwaith tîm a sgiliau cyfathrebu o'r radd flaenaf.
Meddai Hari: "Roedd dod yn ail yn hollol anhygoel, gan mai dim ond ers ychydig fisoedd dw i wedi bod yn ysgrifennu cynghanedd. Ers dechrau yn nosbarth Twm Morys, dw i’n gweld cynganeddu, barddoniaeth, a'r Gymraeg mewn ffordd hollol newydd a rhyfeddol."
Meddai Siôn Peters-Flynn, Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor:
“Llongyfarchiadau mawr i bob un o’r myfyrwyr a gystadlodd yn Eisteddfod yr Urdd; mi wnaethon nhw weithio’n galed am wythnosau i baratoi. Mae'r ymrwymiad a'r brwdfrydedd maen nhw wedi'u dangos yn ysbrydoliaeth i bawb. Boed yn perfformio ar y llwyfan neu'n cystadlu yn y llu o gystadlaethau technegol a chreadigol sy’n rhan o’r Eisteddfod, rydyn ni'n hynod falch o'u gweld yn disgleirio ar lefel genedlaethol ac yn dathlu a chefnogi'r iaith a'i diwylliant."