Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

O’r Dosbarth i Fyd Gwaith: Dysgwyr o Goleg Menai’n Cwrdd ag Arbenigwyr Busnes

Mewn digwyddiad diweddar cafodd myfyrwyr cyrsiau Busnes a Theithio a Thwristiaeth Coleg Menai gyfle i feithrin cysylltiadau â busnesau lleol a chenedlaethol, gan ddysgu sgiliau defnyddiol gan arbenigwyr yn eu maes.

Roedd y digwyddiad ar gampws Coleg Menai ym Mangor yn cyfuno Panel Ieuenctid Banc Lloegr â sgwrs gan un o Fodelau Rôl Syniadau Mawr Cymru.

Dan arweiniad Ian Derrick, asiant Banc Lloegr yng Nghymru, rhoddodd y Panel Ieuenctid well dealltwriaeth i'r dysgwyr o rôl y banc canolog a'i bolisïau. Mae'r Paneli Ieuenctid hyn yn ffordd i Fanc Lloegr gyflawni'r nod o gyrraedd rhanddeiliaid ehangach, drwy sgwrsio â phobl ifanc ledled y Deyrnas Unedig ⁠ ⁠, a chasglu gwybodaeth gan bobl ifanc sy'n berthnasol i'w polisïau.

Canolbwyntiodd trafodaeth Panel Ieuenctid Coleg Menai ar farchnad lafur gogledd-orllewin Cymru. Hwyluswyd y drafodaeth gan Amy Faulkner a Tendai Chipangura, Dadansoddwyr Addysgol gyda Banc Lloegr, gan roi profiad i ddysgwyr o banel proffesiynol a chyfle iddynt fynegi eu barn.

Meddai Ian Derrick: “Roedd yr holl fyfyrwyr yn frwdfrydig ac yn dangos diddordeb, ac yn fodlon rhannu â ni pa mor anodd yw cael gwaith rhan-amser i fodloni gofynion eu cwrs, a'u pryderon ynghylch pa mor hawdd fydd cael gwaith llawn amser yn lleol ar ôl gorffen eu hastudiaethau.”

Ychwanegodd Tendai Chipangura: “Mae clywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc yng ngogledd-orllewin Cymru yn hanfodol i waith Banc Lloegr ledled y DU Drwy ymgysylltu â dysgwyr yn eu cymunedau lleol, rydyn ni'n cael darlun clir sy'n ein helpu i ddeall yr economi, a hefyd yn annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn sgyrsiau am eu dyfodol.”

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw Syniadau Mawr Cymru, sy'n annog pobl ifanc i ddatblygu sgiliau menter. Rhwydwaith amrywiol o entrepreneuriaid a pherchnogion busnesau o Gymru sy'n ysbrydoli pobl ifanc drwy rannu eu teithiau busnes personol yw'r modelau rôl.

Siaradodd yr entrepreneur lleol a'r Model Rôl i Syniadau Mawr Cymru, Ffion Jones, â'r dysgwyr am ei phrofiadau fel unig fasnachwr yn salon ewinedd a harddwch Ciwticwls yn Llandygai. Cafodd y dysgwyr gyfle i'w holi a chawsant awgrymiadau gwych gan Ffion ynglŷn â sefydlu a rhedeg eich busnes eich hun.

Dywedodd Guto Jones, trefnydd y digwyddiad a darlithydd yn yr adran Fusnes yng Ngholeg Menai: “Mae dysgu gan y byd go iawn yn hanfodol i ddysgwyr ein cyrsiau busnes, teithio a thwristiaeth. Mae'r amrywiol ddigwyddiadau rydyn ni'n eu cynnal drwy gydol y flwyddyn academaidd yn un o'r ffyrdd niferus y mae ein dysgwyr yn cael rhwydweithio â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant a dysgu ganddyn nhw, gan eu helpu i fagu hyder a meistroli sgiliau a fydd yn eu paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.