Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwobr Arbennig a Dosbarth Meistr gan Panasonic i Ddathlu Llwyddiant Coleg Llandrillo yng Nghystadleuaeth Zest Quest Asia

Yn dilyn llwyddiant myfyrwyr Lletygarwch ac Arlwyo Coleg Llandrillo yng nghystadleuaeth Zest Quest Asia 2026 daeth Panasonic Professional Kitchen i'r coleg i gyflwyno eu gwobr iddynt yn swyddogol ac i gynnal dosbarth meistr arbennig.

Mae Tesni Young (18), Hugo Loh (17), ac Arthur Kinnerley-Williams (17) yn fyfyrwyr ar y cwrs Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol a hwy oedd y tîm cyntaf o golegau Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth goginio Zest Quest Asia yn gynharach eleni.

Dros ddeuddydd o gystadlu brwd yn erbyn saith coleg arlwyo blaenllaw o bob cwr o'r Deyrnas Unedig, cipiodd y tri talentog ddwy wobr:

  • Y Defnydd Gorau o Bopty Cyfunol Cyflym Panasonic

  • Y Defnydd Gorau o Saws Wystrys Lee Kum Kee

Bellach mae'r Popty Microdon Cyfunol Panasonic NE-C1275 – sef yr union fodel a ddefnyddiodd Tesni, Hugo ac Arthur i wneud argraff ar y beirniaid yn y rownd derfynol – wedi cyrraedd campws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn Rhos.

I ddathlu bod y wobr wedi cyrraedd, daeth Scott Kedwards, Arweinydd Coginio Ewropeaidd yn Panasonic Professional Kitchen i adran arlwyo Coleg Llandrillo i roi dosbarth meistr i'r myfyrwyr.

Yn y sesiwn ryngweithiol, rhannodd Scott ei wybodaeth am y diwydiant ynghyd ag awgrymiadau a thechnegau masnachol gan annog y myfyrwyr i fod yn greadigol yn y gegin ac i ddatblygu eu sgiliau coginio.

Golyga'r popty newydd gan Panasonic fod y myfyrwyr yn gallu hyfforddi ar yr un math o offer ag a ddefnyddir mewn ceginau proffesiynol ledled y wlad.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ym maes Lletygarwch ac Arlwyo?

Ewch i'r wefan i weld yr amrywiol gyrsiau coginio proffesiynol sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai ac i gael golwg ar ein cyfleusterau hyfforddi modern: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/hospitality-and-catering