Campysau'r Coleg i gynnal diwrnodau hwyl i'r gymuned
Ddydd Sadwrn 9 Mai, bydd Grŵp Llandrillo Menai yn agor ei ddrysau i groesawu cannoedd o bobl i'w ddiwrnodau hwyl i'r gymuned.
Bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal yn:
Coleg Llandrillo - Campws Llandrillo-yn-Rhos: Dydd Sadwrn 9 Mai, 10am – 2pm
Coleg Meirion-Dwyfor - Campws Pwllheli: Dydd Sadwrn 9 Mai, 11am – 2pm
Mae'r diwrnodau'n llawn gweithgareddau hwyliog AM DDIM i blant ac oedolion o bob oed!
Bydd gweithgareddau ymarferol ac arddangosiadau yn rhoi blas ar y cyrsiau amrywiol sydd ar gael ar draws y Grŵp, ynghyd â digonedd o stondinau a gemau gan fusnesau ac elusennau lleol.
Ewch i'n campws ym Mhwllheli i gwrdd â Keith Brymer Jones a Marj Hogarth sy'n cymryd seibiant o adnewyddu Capel Salem i ymweld â'r diwrnod i'r gymuned yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.
Byddwch yn greadigol ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos, lle cewch greu potiau bach crochenwaith, blychau adar, a hyd yn oed eich moctel eich hun.
Bydd dewis o fwyd a diod blasus ar gael ar y ddau gampws.
Dewch draw i weld cyfleusterau arloesol y Grŵp, cwrdd â staff, gofyn cwestiynau a chael cyngor gwerthfawr ar yrfaoedd.
Mae'r diwrnodau hwyl i'r teulu yn wych os ydych yn:
Ddisgybl ysgol sydd eisiau trafod eich camau nesaf
Rhiant sydd eisiau ymweld â'r campws i weld y cyfleusterau a siarad â staff
Trigolion lleol sydd â diddordeb yn yr hyn sydd gan y coleg a gwasanaethau lleol i'w gynnig
Pobl sy'n chwilio am waith neu'n ystyried dechrau gyrfa newydd
Ac wrth gwrs... teuluoedd sydd am gael diwrnod llawn hwyl!
Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich gweld chi yno!