Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn-fyfyrwyr yn dychwelyd i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid benywaidd yn nigwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Merched Coleg Llandrillo

Cafodd myfyrwyr yng Ngholeg Llandrillo brynhawn o straeon ac ysbrydoliaeth gan ferched sydd wedi mentro a llywio dyfodol eu diwydiannau, cyn Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth.

"If they don't give you a seat at the table, bring a folding chair," meddai Shirley Chisholm, gwleidydd Americanaidd a ddaeth y ddynes ddu gyntaf i gael ei hethol i Gyngres yr Unol Daleithiau ym 1968.

Yn ysbrydoli ein myfyrwyr presennol i greu eu sedd eu hunain wrth y bwrdd roedd pedair siaradwraig ragorol sydd wedi creu, datblygu a rhedeg eu busnes lleol eu hunain yn y sectorau celf, lles cyfannol, STEM a mentrau cymdeithasol. Roedd y siaradwyr yn cynnwys dwy gyn-fyfyrwraig o Grŵp Llandrillo Menai, sef yr athrawes yoga a'r hyfforddwraig llesiant, Nia Evans, a sylfaenydd Prom Ally CIC, Ally Louise, ac roedd y darlunydd o Gymru, Niki Pilkington, a'r cyn-wyddonydd ac athrawes gemeg, Awen Ashworth yno hefyd.

O'r chwith i'r dde, Swyddog Menter Grŵp Llandrillo Menai, Karen Aerts; Niki Pilkington; Nia Evans; Ally Louise; Awen Ashworth; a Sasha Kenney

Cyflwynwyd y digwyddiad gan Sasha Kenney, Model Rôl i raglen Syniadau Mawr Llywodraeth Cymru sy'n defnyddio rhwydwaith o entrepreneuriaid i ysbrydoli pobl ifanc mewn ysgolion a cholegau ledled y wlad.

Dywedodd Sasha: "Roedd cynnal y digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Merched hyn, a chyflwyno pedair merch fusnes lleol nodedig yn brofiad hynod galonogol. Fe wnaeth eu straeon ein hatgoffa nad yw llwyddiant yn ymwneud â datblygu busnesau yn unig, yn hytrach mae'n ymwneud â chodi eraill, chwalu rhwystrau, a chreu gwaddol sy'n grymuso'r genhedlaeth nesaf o ferched yn lleol ac yn fyd-eang".

Meddai Ally Louise, sylfaenydd Prom Ally: "Roeddwn yn ôl yn fy man cychwyn, wedi mynd y cylch llawn wrth i mi siarad â'r myfyrwyr yn yr un lle ag yr oeddwn i'n ei fynychu yn fy arddegau.

Mi wnes i fwynhau cwrdd â'r merched ysbrydoledig eraill ar y panel a chlywed eu holl straeon anhygoel am y busnesau y maen nhw wedi'u sefydlu.”

Cafodd y myfyrwyr gyfle i sgwrsio â'r siaradwyr ar ôl eu cyflwyniadau, a chael awgrymiadau ar sut i oresgyn y rhwystrau y mae merched yn aml yn eu hwynebu, gan sôn am hyder, bod â ffydd ynoch chi eich hun a phwysigrwydd cefnogi ei gilydd ar hyd y ffordd.

Os gwnaethoch chi golli ein digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Merched, gallwch chi wylio ein siaradwyr yma o hyd:

Cyflwyniad - https://www.youtube.com/watch?v=jrq_52iEGls&feature=youtu.be

Niki Pilkington - https://www.youtube.com/watch?v=WoS_wZb2I_U

Ally Louise - https://www.youtube.com/watch?v=2fQEPOMGXYU

Nia Evans - https://www.youtube.com/watch?v=6MzbOTrceN4

Awen Ashworth - https://www.youtube.com/watch?v=cl7JG8JXz3k

Sesiwn Holi ac Ateb - https://www.youtube.com/watch?v=vAaNjBF_M8I