Coleg Llandrillo'n croesawu aelodau newydd i'w Academi Bêl-droed
Cynhaliodd Coleg Llandrillo ddiwrnod rhagflas i aelodau newydd Academi Bêl-droed 2026/27.
Roedd y sesiwn yn gyfle i'r myfyrwyr ddod i adnabod ei gilydd a dysgu rhagor am yr Academi. Fe gawson nhw hefyd gyfle i weld cyfleusterau chwaraeon y coleg ac ymarfer gyda hyfforddwyr Clwb Pêl-droed Bae Colwyn ar gae 3G y campws.
Mewn partneriaeth â Chlwb Pêl-droed Bae Colwyn, lansiodd Coleg Llandrillo'r Academi Bêl-droed newydd ym mis Mai. Mae'r Academi'n agored i fechgyn 16-19 oed o unrhyw glwb, a bydd rhaglen benodol i ferched yn cael ei lansio yn 2027-28.
Yn ôl Mike Wilde, Cyfarwyddwr Pêl-droed CPD Bae Colwyn, "Bydd yr Academi Bêl-droed yng Ngholeg Llandrillo yn cynnig pecyn cynhwysfawr sy'n cynnwys hyfforddiant arbenigol, sesiynau cryfder a chyflyru, dadansoddiad o berfformiadau, a defnydd o gyfleusterau tan gamp. Drwy'r bartneriaeth â Chlwb Pêl-droed Bae Colwyn, bydd y myfyrwyr yn elwa ar gysylltiadau uniongyrchol â sefydliad blaengar, gan ddod yn gyfarwydd â phêl-droed dynion a llwybrau go iawn i'r gamp."
Bydd y bartneriaeth yn rhoi cyfle unigryw i bêl-droedwyr dawnus gyfuno eu haddysg â hyfforddiant o'r radd flaenaf a phrofiad o chwarae mewn gemau cystadleuol. Bwriad y rhaglen yw cefnogi datblygiad chwaraewyr, ar y cae ac yn y coleg, gan gynnig llwybr clir i lefelau uchaf y gêm ac ennill cymwysterau academaidd cydnabyddedig yr un pryd.
Eleni mae gan Grŵp Llandrillo Menai ddau dîm yn cystadlu ar lefel uchaf cynghrair ECFA, sef tîm o Goleg Llandrillo ac un o Goleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor ar y cyd. Bydd y tymor newydd yn dechrau ar 16 Medi mewn gêm gartref rhwng Coleg Llandrillo a Choleg Myerscough.
Dyma Sam Parry, un o fyfyrwyr y cwrs Lefel 2 mewn chwaraeon yn sôn am ei brofiad o fod yn rhan o'r Academi Chwaraeon:
Ewch i'r wefan i gael gwybod rhagor am Academïau Grŵp Llandrillo Menai a'r cyfleusterau chwaraeon tan gamp sydd ar gael yno: https://www.gllm.ac.uk/cy/college-life/student-life/gym-sports-academies