Staff Grŵp Llandrillo Menai'n codi bron i £8,000 i elusennau ar eu diwrnod gwirfoddoli blynyddol
O gerdded mynyddoedd i helpu mewn banciau bwyd, mae staff o bob safle wedi bod yn cefnogi amrywiaeth o elusennau lleol a chenedlaethol, gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru.
Ar 26 Mehefin, aeth staff allan i gerdded, beicio, chware golff, codi sbwriel, ac i fanciau bwyd a lleoliadau cymunedol eraill i wirfoddoli, gan godi arian hanfodol i elusennau lleol a chenedlaethol, yn cynnwys yr elusen a ddewiswyd gan y Grŵp eleni: Ambiwlans Awyr Cymru.
Gwnaethant hyn ar un o ddyddiau poethaf y flwyddyn, a chymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau, gan godi bron i £8,000.
Efallai eich bod wedi gweld Tim Peel, Rheolwr y Maes Rhaglen Peirianneg a Cherbydau Modur, a'i gydweithwyr o Goleg Llandrillo yn codi sbwriel ar Ffordd Doll y Gogarth yn Llandudno. Cynhaliwyd Diwrnod Golff Elusennol yn Llandrillo-yn-Rhos hefyd, gyda chystadlaethau fel yr agosaf i’r pin a phwy oedd yn gallu dreifio’r bêl yn fwyaf syth.
Draw ar Ynys Môn, rhoddodd staff Coleg Menai o’u hamser i helpu yn warws Banc Bwyd Caergybi.
Os oeddech chi’n cerdded ym Mharc Cenedlaethol Eryri, efallai eich bod wedi dod ar draws cydweithwyr o Goleg Meirion-Dwyfor yn beicio Llwybr Brailsford, sy'n 75 milltir o hyd.
Hefyd yn rhan o ymdrechion gwirfoddoli'r Grŵp eleni, ddechrau Gorffennaf cymerodd tîm o staff ran yn Her yr Arfordir drwy gymryd eu tro i redeg yr 82 milltir rhwng Bangor a Lerpwl. Hyd yn hyn maen nhw wedi codi swm anhygoel o £6,575.70 i Elusen Plant Alder Hey ac Awyr Las. Ewch i'n gwefan i ddarllen mwy am yr her: https://www.gllm.ac.uk/cy/newy...
Diolch yn fawr i staff Grŵp Llandrillo Menai am drefnu digwyddiadau a chymryd rhan yn ein Diwrnod Gwirfoddoli Staff 2026.