Dechreuwch eich gyrfa ym myd ffitrwydd ar Ddiwrnod Cenedlaethol Ffitrwydd
Dathlwch Ddiwrnod Cenedlaethol Ffitrwydd trwy ddatblygu eich diddordeb mewn chwaraeon! Efallai mai'r Dystysgrif Active IQ Lefel 2 mewn Hyfforddi Ffitrwydd, sy’n dechrau ym mis Ionawr, fydd eich cam cyntaf i yrfa gyffrous ym maes iechyd a ffitrwydd.
P'un a ydych chi'n breuddwydio am fod yn Hyfforddwr Campfa cymwys neu eisiau dechrau eich taith tuag at gyrsiau lefel uwch a graddau gwyddor chwaraeon, mae'r cwrs ymarferol hwn yn rhoi popeth sydd ei angen arnoch i lwyddo.
Pam Dewis y Cwrs Hwn?
100% wyneb yn wyneb ac ymarferol: Anghofiwch y dysgu ar y sgrin. Hyfforddwch mewn amgylchedd campfa gyda thiwtoriaid arbenigol sy'n eich cefnogi bob cam o'r ffordd wrth i chi feistroli anatomeg, maeth a chyflwyno ymarfer corff.
Dim arholiadau allanol llawn straen: Dangoswch beth allwch chi ei wneud drwy sesiynau ymarferol, arsylwadau byw ar yr hyfforddi, a phortffolio o'ch gwaith eich hun.
Llwybrau gyrfa clir: Gorffennwch y cwrs yn barod i gael eich cyflogi fel Hyfforddwr Campfa, neu symudwch ymlaen yn syth i gymwysterau Chwaraeon Lefel 3 a Graddau Sylfaen yng Ngholeg Llandrillo.
I bwy mae’n addas?
Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn, wrth eich bodd yn gweithio gyda phobl, ac eisoes ag ychydig o brofiad gydag ymarferion campfa a phwysau rhydd, rydych chi'n barod i ddechrau. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw lefel sylfaenol o ffitrwydd a sgiliau cyfathrebu – byddwn ni'n dysgu'r gweddill i chi!
Gwnewch y Diwrnod Cenedlaethol Ffitrwydd hwn yn ddechrau eich taith newydd. Rydyn ni'n derbyn ceisiadau rŵan ar gyfer y Dystysgrif Active IQ Lefel 2 mewn Hyfforddi Ffitrwydd. Ewch i'n gwefan i gael gwybod rhagor a sicrhau eich lle: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/level-2-certificate-in-fitness-coaching