Dathlu canlyniadau rhagorol Coleg Menai
Mae dysgwyr Coleg Menai yn dathlu heddiw wedi iddyn nhw gael canlyniadau rhagorol yn eu harholiadau Safon Uwch a'u cyrsiau galwedigaethol, ac wrth i nifer y rhai a gafodd y graddau uchaf gynyddu unwaith eto eleni.
Roedd 44% o ganlyniadau Safon Uwch y coleg yn raddau A* neu A, ac 81% yn raddau rhwng A* ac C. Roedd cyfradd lwyddo dysgwyr Safon Uwch y myfyrwyr ar gampws Llangefni yn 100%. Roedd canlyniadau'r dysgwyr galwedigaethol ar gampysau Bangor a Llangefni yn rhagorol hefyd, gyda 25% ohonynt yn ennill y graddau uchaf posibl sef Rhagoriaeth neu Ragoriaeth*.
Bydd y graddau gwych hyn yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen yn hyderus, boed hynny'n uniongyrchol i fyd gwaith, i brentisiaeth neu gwrs prifysgol. Bydd nifer helaeth yn mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion blaenllaw, gan gynnwys prifysgolion sy'n perthyn i Russell Group. Mae llawer o'r dysgwyr wedi dewis parhau â'u hastudiaethau ym Mangor, Wrecsam, neu brifysgolion eraill yng Nghymru, a bydd rhai yn dilyn cyrsiau addysg uwch yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
Dywedodd Dr Siôn Peters-Flynn, Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor, Grŵp Llandrillo Menai: “Rydym wrth ein boddau i weld ein dysgwyr mor hapus gyda’r hyn maen nhw wedi'i gyflawni. Braf iawn hefyd ydy gweld bod llawer ohonynt wedi cael y canlyniadau gorau posibl yn eu harholiadau Safon Uwch a'u cymwysterau galwedigaethol yma yng Ngholeg Menai.
Mae 40% o'r canlyniadau Safon Uwch yn radd A* neu A sy'n sylweddol uwch na'r cyfartaledd yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig. Mae'r canlyniadau hyn yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein staff, ac wrth gwrs, ein dysgwyr.
Rydyn ni'n dymuno'n dda i'r dysgwyr wrth iddyn nhw gamu ymlaen yn hyderus i'r dyfodol, boed hynny i addysg uwch, prentisiaeth neu swyddi llawn amser. Ar yr un pryd, rydyn ni'n edrych ymlaen dros y dyddiau nesaf at groesawu'r criw nesaf o ddysgwyr brwd."
Llwyddiant yn yr Arholiadau Safon Uwch
Ar gampws Llangefni, cafodd Llio Lowies A* mewn Bioleg, A* mewn Cemeg, ac A mewn Ffiseg. Mae Llio, a enwyd yn Fyfyriwr Safon Uwch y Flwyddyn yng Ngwobrau Myfyrwyr Coleg Menai 2026, yn bwriadu mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio meddygaeth. Meddai Llio,
“Fe wnaeth y tiwtoriaid yn y coleg fy helpu i fagu hyder. Roedden nhw’n barod iawn i helpu ac yn ffyddiog y baswn i'n llwyddo."
Llwyddodd Logan Lines, sydd hefyd yn fyfyriwr ar gampws Llangefni, i ennill graddau ardderchog, A* mewn Mathemateg, A mewn Bioleg ac A mewn Cemeg. Cam nesaf Logan ydy mynd i Goleg Prifysgol Llundain i astudio Gwyddorau Naturiol. Meddai Logan, sy'n ddiolchgar am y gefnogaeth gan ei thiwtoriaid:
“Dw i'n gwerthfawrogi popeth maen nhw wedi’i wneud i mi. Mi ges i'r gefnogaeth i wella ac anelu am y graddau uchaf."
Llwyddiant Cymwysterau Lefel 3
Cafodd Jess Clary, a ddilynodd gwrs Gwyddor Gymhwysol ar gampws Llangefni, dair gradd Rhagoriaeth. Mae Jess ar ei ffordd i Brifysgol Bangor i astudio Sŵoleg ac mae ganddi air o gyngor i'r myfyrwyr newydd fydd yn dechrau yn y coleg fis Medi:
"Pan fydd pethau'n edrych yn anodd, daliwch ati."
Dilynodd Jac Evans y cwrs Gwyddoniaeth Gymhwysol hefyd ac ennill dwy Ragoriaeth ac un Teilyngdod. Mae Jac yn edrych ymlaen rŵan at fynd i Brifysgol Brighton i astudio Ecoleg a Chadwraeth. Wrth drafod ei gyfnod yn y coleg, dywedodd Jac:
“Roedd yn wych.” Byddwn i’n bendant yn argymell coleg i unrhyw un. Hoffwn ddiolch i fy nhiwtoriaid - y bobl wnaeth y cyfnod yn y coleg mor arbennig.”
Llwyddodd Faith Robinson i ennill gradd A yn ei chwrs Gofal Plant Lefel 3. Mae Faith yn mynd i Brifysgol Edge Hill i astudio ar gwrs Blynyddoedd Cynnar.
Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan lwyddiant ein dysgwyr? Mae yna amser o hyd i chi sicrhau eich lle yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Beth bynnag rydych chi am ei wneud, gall ein tîm roi cyngor ar bynciau Safon Uwch, cyrsiau galwedigaethol, prentisiaethau ac addysg uwch, gan eich helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Cysylltwch â ni heddiw neu dewch draw i un o'n campysau i gael gwybod rhagor.