Digwyddiad Morol 2026 Darpariaeth Ysgolion Conwy yn dod â'r Gymuned ynghyd
Cynhaliwyd Digwyddiad Morol Darpariaeth Ysgolion Conwy ar y Fenai eleni, gan roi cyfle i'r dysgwyr arddangos eu gwaith caled, sgiliau gweithio mewn tîm a'u creadigrwydd.
Daeth dau dîm o ddysgwyr o ysgolion lleol ynghyd ar ddydd Mercher 25 Mawrth ar ôl iddynt dreulio misoedd yn dylunio ac yn adeiladu eu cychod eu hunain yn rhan o'u cwrs yng Ngholeg Llandrillo. Roedd yn gyfle iddynt o'r diwedd i roi eu cychod ar brawf ar y dŵr - gan dynnu sylw at eu sgiliau ymarferol a'u gallu i weithio fel tîm.
Roedd yn wych gweld eu holl waith caled yn dwyn ffrwyth, wrth i'r ddau dîm lansio a llywio eu cychod yn llwyddiannus ar y dŵr. Roedd y prosiect hwn yn gyfle i ddysgwyr feithrin sgiliau a hyder yn y byd go iawn.
Roeddem hefyd yn falch o groesawu Maer Bae Colwyn, y Cynghorydd Jo Nuttall, a ddaeth draw i wylio'r gweithgaredd a chwrdd â'r dysgwyr.
Roedd awyrgylch hwyliog ar lan y Fenai, gyda staff, cefnogwyr ac aelodau’r gymuned yn cefnogi’r timau ac yn dathlu eu cyflawniadau. Roedd yn enghraifft wych o'r hyn y gellid ei gyflawni pan mae'r coleg ac ysgolion lleol yn gweithio gyda'i gilydd.
Dywedodd y Maer: “Roedd yn wych gweld crefftwaith y ddau gwch sy'n barod i'w hwylio ar y môr. Roedd hefyd yn arbennig gweld y myfyrwyr yn gweithio fel tîm ac yn dysgu sgiliau gydol oes.
Rydw i ar ddeall bod rhai o'r bobl ifanc hyn wedi goresgyn eu hofnau a'u hansicrwydd i gymryd rhan yn y digwyddiad. Dylen nhw fod yn hynod falch o’u cyflawniadau, fe wnaeth pob un o'r dysgwyr yn anhygoel o dda. Dylid talu clod i'r staff hefyd, roedden nhw'n amyneddgar dros ben. Roedd yn hyfryd gweld y genhedlaeth nesaf yn dysgu am y môr ac yn arddangos eu hangerdd. Fe gefais ddiwrnod wrth fy modd."
Da iawn i bawb a gymerodd ran ac am wneud y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant!