Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwireddu breuddwyd: dau o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai wedi'u dewis i gynrychioli'r Deyrnas Unedig yn WorldSkills Shanghai 2026

Ym mis Medi eleni, bydd Yuliia Batrak a Madeleine Warburton yn cynrychioli'r Deyrnas Unedig yng nghystadlaethau WorldSkills 2026 yn Shanghai, Tsieina.

“Mi ddechreuodd y daith hon dair blynedd yn ôl gyda breuddwyd... mae'n teimlo'n wirioneddol anhygoel gweld y freuddwyd honno'n yn cael ei gwireddu.” - Yuliia

Mae WorldSkills, sy'n cael ei adnabod fel y "Gemau Olympaidd ar gyfer Sgiliau", yn gystadleuaeth lle mae prentisiaid a gweithwyr proffesiynol gorau'r byd yn mynd benben â'i gilydd mewn brwydr o sgil, manylder a dyfeisgarwch.

Fel rhan o Team UK, bydd y ddwy yn cystadlu yn erbyn y goreuon o dros 80 o wledydd, gan arddangos eu harbenigedd yn eu categorïau dewisol.

Bydd Yuliia, sy'n 20 oed, yn arddangos ei sgiliau yn y gystadleuaeth Gwasanaethau Bwyty. Mae Yuliia yn astudio ar gyfer Diploma Lefel 3 mewn Gweini Bwyd a Diod yn Broffesiynol ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos. Yn wreiddiol o Kyiv, Wcráin, mae hi wedi astudio yn y coleg ers 2022, ar ôl i'w theulu symud i Ogledd Cymru yn dilyn yr ymosodiad gan Rwsia.

“Dw i wrth fy modd ac yn teimlo ei bod yn anrhydedd cael fy newis i gynrychioli’r wlad yn y gystadleuaeth ryngwladol fwyaf ym maes gwasanaethau bwytai,” meddai Yuliia. “Dw i'n teimlo’n hynod ddiolchgar am y cyfle anhygoel yma.”

Yn ymuno â hi mae'r prentis Madeleine Warburton, hefyd yn 20 oed, yn cystadlu yn y categori Ynni Adnewyddadwy. Dechreuodd Madeleine ei Phrentisiaeth Technegydd Tyrbinau Gwynt Alltraeth ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl yn 2023.

Dywedodd Madeleine: “Mae cael fy newis i gynrychioli’r Deyrnas Unedig yn WorldSkills Shanghai 2026 yn anrhydedd mawr, a dw i'n hynod falch o fod yn gwneud hyn fel prentis RWE gyda chefnogaeth fy nhiwtoriaid yng Ngholeg Llandrillo yn y Rhyl.”

Wedi'u dewis, eu mentora a'u hyfforddi ar gyfer y tîm gan WorldSkills UK, mae Yuliia a Madeleine bellach yn perthyn i grŵp o gystadleuwyr sydd ar frig eu meysydd. Mae eu llwyddiant yn adlewyrchu'r sylfaen gref maen nhw wedi'i hadeiladu yng Ngholeg Llandrillo a'r gefnogaeth a'r arweiniad gan eu tiwtoriaid, ac yn enghraifft wych o'r safonau uchel mewn sawl diwydiant a osodwyd gan Grŵp Llandrillo Menai.

Mae WorldSkills yn cael ei gydnabod yn fyd-eang fel y meincnod eithaf ar gyfer rhagoriaeth mewn sgiliau, lle mae gwledydd yn mynd benben i brofi eu gallu i bweru diwydiannau'r dyfodol a thwf economaidd.

Mae cael dau fyfyriwr wedi’u dewis i gynrychioli’r Deyrnas Unedig ar y llwyfan byd-eang hwn yn dangos fod y Grŵp, fel canolfan ar gyfer addysg a hyfforddiant yng Ngogledd Cymru, yn meithrin y genhedlaeth nesaf o arbenigwyr byd-eang.

Gyda'r disgwyl i ddigwyddiad eleni yn Shanghai ddenu 250,000 o ymwelwyr, gan gynnwys arweinwyr diwydiant o bob cwr o'r byd, bydd rôl y Grŵp wrth godi enw da Gogledd Cymru am ragoriaeth alwedigaethol yn cael sylw cadarn.

Ychwanegodd Madeleine: “Mae gen i ddiddordeb brwd mewn ynni adnewyddadwy a’r rôl y mae gwynt alltraeth yn ei chwarae wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd, a gobeithio bod fy nhaith yn dangos i bobl ifanc eraill fod cyfleoedd anhygoel yn y diwydiant hwn.”

Mae Yuliia a Madeleine wedi bod yn paratoi ar gyfer y foment hon ers tro. Yn symud ymlaen trwy gystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol WorldSkills UK, ac yna hyfforddiant arbenigol dwys yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Yn y misoedd olaf cyn mynd i Shanghai, bydd y ddwy yn mynd drwy baratoadau arbenigol pellach i sicrhau eu bod nhw'n barod i gystadlu ar y lefel uchaf posibl.

“Mi ddechreuodd y daith hon dair blynedd yn ôl gyda'r freuddwyd o gyrraedd Shanghai, ac mae'n teimlo'n wirioneddol anhygoel gweld y freuddwyd honno'n cael ei gwireddu,” meddai Yuliia.

Ychwanegodd Madeleine, “Dw i'n edrych ymlaen at fynd allan i Shanghai i arddangos fy sgiliau!”

Meddai Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo: “Rydym yn hynod falch o gyflawniad rhagorol Yuliia a Madeleine. Mae cael eu dewis i gynrychioli'r Deyrnas Unedig yn WorldSkills - gan gystadlu yn erbyn goreuon y byd - yn dyst i'w talent, eu hymroddiad a'u gwydnwch.

“Mae’r llwyddiant hwn yn adlewyrchu nid yn unig eu hymrwymiad unigol, ond hefyd y datblygiad sgiliau, yr addysgu, a’r gefnogaeth eithriadol sy'n cael ei roi gan ein staff yn y coleg. Mae'n dangos safon wych yr addysg alwedigaethol a thechnegol rydym yn ei darparu yma yng Ngogledd Cymru, sy'n galluogi ein dysgwyr i gystadlu - a llwyddo - ar lwyfan byd-eang.

“Dymunwn bob llwyddiant i Yuliia a Madeleine yn Shanghai. Rydym yn hyderus y byddant yn perfformio'n eithriadol o dda, ac y bydd y profiad hwn yn fan cychwyn nid yn unig ar gyfer y gystadleuaeth, ond ar gyfer y gyrfaoedd cyffrous a dylanwadol sydd o'u blaenau.”

Ychwanegodd Yuliia: “Diolch yn fawr iawn i WorldSkills UK ac i Goleg Llandrillo am eu cefnogaeth barhaus a’u ffydd ynof i drwy gydol y daith hon. Dw i'n benderfynol o wneud fy ngorau glas ac yn gobeithio dychwelyd i'r coleg gyda medal i wneud pawb yn falch.

“Dw i'n edrych ymlaen at yr hyn sydd o’n blaenau, ac yn barod i wneud fy ngorau glas.”

Cynhelir WorldSkills Shanghai 2026 rhwng 22 a 27 Medi a bydd tua 1,500 o bobl ifanc o dros 80 o wledydd yn cystadlu.

Dymunwn bob lwc i Yuliia a Madeleine!