Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Darlithydd Coleg Menai yn dyfarnu mewn gemau Cyfres WXV y Byd

Penodwyd Jenny Davies, Darlithydd Chwaraeon Coleg Menai yn Swyddog Adolygu Camchwarae (FPRO) mewn dwy gêm ryngwladol yn nhwrnamaint Rygbi Cyfres WXV y Byd.

Dewiswyd Jenny, sy'n dysgu ar gampws Llangefni, yn FPRO ar gyfer y gêm rhwng yr Alban a Chanada ddydd Sadwrn 12 Medi ac ar gyfer y gêm ar 20 Medi wrth i dîm merched Iwerddon wynebu tîm UDA.

Dechreuodd Jenny ddyfarnu yn 2018, ac mae hi wedi cael cyfle i deithio a dyfarnu mewn nifer o wahanol wledydd, yn cynnwys Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd a Sbaen mewn gêm ryngwladol rhwng timau merched Sbaen a Phortiwgal.

Yn dilyn hynny cafodd ei dewis gan World Rugby fel Swyddog Gêm Teledu ac FPRO eleni, a derbyn galwad gan Gyfres WXV y Byd - rhaglen rygbi merched rhyngwladol ble mae 12 tîm cenedlaethol gorau'r byd yn cystadlu mewn gemau cartref a gemau oddi cartref.

“Dyma gyfle gwych arall ac yn gam nesaf cyffrous yn fy ngyrfa fel dyfarnwr,” meddai Jenny.

Roedd yn gyfle i ddysgu gwersi gwerthfawr ac fe helpodd Jenny i ddatblygu sgiliau allweddol hefyd.

"Rydw i'n llawer mwy hyderus am fy ngallu i aros yn ddigyffro mewn sefyllfaoedd heriol ac rydw i wedi dysgu bod yn gyfforddus â bod yn anghyfforddus," meddai.

“Mae hefyd wedi rhoi’r cyfle i mi weithio ochr yn ochr ag unigolion elitaidd sy’n rhannu’r un brwdfrydedd, uchelgais ac angerdd â fi,” ychwanegodd.

"I mi mae gweithio mewn awyrgylch o'r fath yn rhoi hwb ac yn fy ysgogi, mae pawb yn ymdrechu i fod y gorau y gallant fod ac eisiau cyfrannu at wneud y gwaith yn llwyddiannus.”

Mae amgylchedd pwysau uchel elitaidd Cyfres WXV y Byd wedi atgoffa Jenny o faint mae hi'n mwynhau cael ei herio ar y lefel hon.

“Mae wedi aildanio'r awydd i barhau i ddatblygu, profi fy hun a chwilio am gyfleoedd i berfformio o dan bwysau, cyfrannu at dîm perfformio lefel uchel a pharhau i ymdrechu am ragoriaeth,” eglurodd.

Mae gan Jenny gyngor gwerthfawr i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn dod i astudio chwaraeon yn y coleg:

“Mae dewis y cwrs cywir yn bwysig, mi ddylai gefnogi eich uchelgeisiau a’ch nodau gyrfa yn y dyfodol.

“Mae dod i'r coleg yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd, meithrin hyder ac amgylchynu'ch hun gyda phobl sy'n rhannu uchelgais tebyg i chi. Mae hefyd yn rhoi mwy o annibyniaeth a chyfrifoldeb i chi.

“Byddwch yn barod i weithio’n galed, manteisiwch i’r eithaf ar bob cyfle a pheidiwch ag ofni gofyn am help pan fydd ei angen arnoch. Yn bwysicaf oll, mwynhewch y profiad a defnyddiwch yr amser i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol.”

Llongyfarchiadau Jenny, am brofiad gwych, rydym yn siŵr y bydd llawer rhagor o gyfleoedd cyffrous yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth am y chwaraeon ac ymarfer corff sydd ar gael ar ein campysau yng ngogledd Cymru, ewch i'n gwefan:https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/sport-and-outdoor-education

O bobl sy'n gadael yr ysgol i rai sy'n newid gyrfa, mae rhywbeth i bawb yng Ngrŵp Llandrillo Menai.