Dafydd Evans yn derbyn cymrodoriaeth am ei gyfraniad oes at addysg cyfrwng Cymraeg
Mae Dafydd Evans, cyn Brif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai, wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniad eithriadol at y Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg.
Cyflwynwyd y Gymrodoriaeth i Dafydd yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar 24 Mawrth i gydnabod ei gyfraniad eithriadol at addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg bellach.
Pan oedd wrth y llyw yng Ngrŵp Llandrillo Menai roedd Dafydd yn lladmerydd cryf dros addysg, hyfforddiant a datblygu sgiliau, ac yn rhoi pwyslais cryf ar gefnogi twf economaidd gogledd Cymru. Gwasanaethodd hefyd fel Cadeirydd Colegau Cymru, lle chwaraeodd ran allweddol wrth gynrychioli'r sector ar lefel genedlaethol.
Grŵp Llandrillo Menai yw un o'r darparwyr addysg bellach mwyaf yng Nghymru. Mae'n gwasanaethu miloedd o ddysgwyr ar draws gogledd Cymru ac yn flaenllaw wrth ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, yn enwedig mewn meysydd galwedigaethol a thechnegol.
Cyflwynwyd y Gymrodoriaeth i Mr Evans gan Angharad Roberts, aelod o Fwrdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chyfarwyddwr yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
Talodd Angharad Roberts, Cyfarwyddwr Datblygu Dwyieithrwydd, Adnoddau Dysgu a Sgiliau Grŵp Llandrillo Menai deyrnged i ddylanwad Dafydd:
"I Dafydd mae'r iaith yn rhan hollbwysig o bob datblygiad yn y rhanbarth. Wrth wasanaethu gogledd Cymru – a thrawsnewid campysau Grŵp Llandrillo Menai yn gyfleusterau o'r radd flaenaf – deallodd fod rhaid darparu addysg yn iaith y cartref, iaith y gymuned, ac iaith y gweithle.
"Fe sicrhaodd mai'r Grŵp oedd â'r dewis ehangaf o hyfforddiant dwyieithog yng Nghymru, gan sefydlu diwylliant lle gallai'r Gymraeg ffynnu mewn cyd-destunau technegol a galwedigaethol. Ond mae ei ddylanwad wedi ymestyn y tu hwnt i'r gogledd. Fel Cadeirydd Colegau Cymru camodd ar y llwyfan cenedlaethol, gan sicrhau nad eilbeth oedd y Gymraeg a bod ganddi ran amlwg ym mhob trafodaeth ar draws y sector cyfan. Llongyfarchiadau, Dafydd!"
Gan siarad ar ôl derbyn y gymrodoriaeth, dywedodd Dafydd Evans:
"Anrhydedd o’r mwyaf yw derbyn y fath gydnabyddiaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
"Does dim amheuaeth fod y Coleg wedi cael dylanwad hynod o bositif ar y sector addysg bellach ac yn benodol ar gyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau.
“Mae wedi bod yn bleser llwyr bod yn rhan o’r daith."