Myfyrwyr o Goleg Meirion-Dwyfor yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf yn y Clwb Codio
Yn ddiweddar, daeth disgyblion o ysgolion cynradd lleol, a ddysgodd sut i godio gyda myfyrwyr Lefel 3 mewn Technoleg Gwybodaeth yng Ngholeg Meirion-Dwyfor eleni, yn ôl i arddangos eu sgiliau mewn cystadleuaeth flynyddol.
Croesawyd 98 o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 o safleoedd cynradd Ysgol Bro Idris i gampws Dolgellau, wrth iddynt ddod at ei gilydd i ddathlu blwyddyn o ddysgu yng Nghystadleuaeth flynyddol y Clwb Codio.
Gan weithio mewn parau, dyluniodd a chreodd y disgyblion eu gemau cyfrifiadurol rhyngweithiol eu hunain, a gafodd eu beirniadu ar sail creadigrwydd, sgiliau technegol, y profiad chwarae a phrofiad cyffredinol y defnyddiwr.
Daeth y gystadleuaeth i ben gyda seremoni wobrwyo i ddathlu'r creadigrwydd, y gwaith tîm a'r gallu technegol a ddangoswyd gan y codwyr ifanc, gyda thabledi ac offer TG ymhlith y gwobrau a gyflwynwyd i'r timau a sgoriodd uchaf.
Drwy gydol y flwyddyn academaidd hon, cynhaliodd y myfyrwyr Lefel 3 mewn Technoleg Gwybodaeth sesiynau Clwb Codio wythnosol i ddisgyblion yr ysgol gynradd, gan eu cyflwyno i godio drwy gymuned ddi-elw Scratch.
Mae rhaglen y Clwb Codio yn gyfle gwerthfawr i'r disgyblion ysgol gynradd a myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor. Tra bod y disgyblion iau yn datblygu sgiliau codio, creadigrwydd, sgiliau datrys problemau a gwaith tîm, mae’r dysgwyr Lefel 3 mewn Technoleg Gwybodaeth yn ennill profiad trwy gynllunio a chyflwyno sesiynau, mentora dysgwyr iau a helpu i drefnu'r gystadleuaeth flynyddol. Mae'r prosiect hefyd yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr gan gynnwys cyfathrebu, arwain, trefnu a hunanhyder.
Gan adeiladu ar lwyddiant y rhaglen gydag Ysgol Bro Idris, mae sesiynau’r Clwb Codio wedi parhau i dyfu eleni. Mewn ymateb i ddiddordeb cynyddol gan ysgolion lleol, mae sesiynau ychwanegol wedi'u cyflwyno i fwy na 70 o ddisgyblion o ysgolion cynradd eraill yr ardal, gan alluogi hyd yn oed mwy o bobl ifanc i gael profiad o godio mewn ffordd hwyliog a difyr.
Meddai Sioned William, Darlithydd Technoleg Gwybodaeth o Goleg Meirion-Dwyfor:
“Mae'r Clwb Codio yn parhau i fod yn gyfle gwych i bobl ifanc ddatblygu sgiliau codio mewn amgylchedd hwyliog, creadigol a chefnogol.
Mae'r gystadleuaeth flynyddol bob amser yn uchafbwynt, gan roi cyfle i ddisgyblion ddathlu popeth maen nhw wedi'i ddysgu drwy gydol y flwyddyn. Mae hefyd wedi bod yn hyfryd gweld y diddordeb cynyddol yn y cynllun.
Dw i'n hynod falch o'n myfyrwyr Lefel 3 mewn Technoleg Gwybodaeth, mae eu brwdfrydedd a'u hymrwymiad wedi gwneud y rhaglen yn gymaint o lwyddiant. Nid yn unig y maen nhw wedi cefnogi dysgwyr iau i ddatblygu sgiliau newydd ond maen nhw hefyd wedi ennill profiad gwerthfawr drwy gynllunio, addysgu a threfnu’r prosiect.”
Dywedodd Alister, myfyriwr Lefel 3 mewn Technoleg Gwybodaeth:
“Roedd paratoi ar gyfer y Clwb Codio a gweithio gyda’r disgyblion yn heriol i mi a llawer o fy nghyfoedion, ond roedd gweld y plant yn magu hyder a'u holl frwdfrydedd yn gwneud y gwaith caled yn werth chweil. Roedd yn brofiad gwerthfawr iawn a dw i'n falch o fod wedi bod yn rhan ohono.”
Yn dilyn blwyddyn lwyddiannus arall, mae Coleg Meirion-Dwyfor yn gobeithio parhau i ddatblygu rhaglen y Clwb Codio, gan roi cyfle i hyd yn oed mwy o bobl ifanc yr ardal ddatblygu sgiliau digidol wrth ddarparu profiad gwerthfawr o arwain ac addysgu i'r myfyrwyr.
Os ydych chi'n fusnes neu'n sefydliad lleol sy’n awyddus i gefnogi datblygiad y rhaglen yn y dyfodol trwy nawdd, gan helpu i ymestyn ei chyrhaeddiad a chreu hyd yn oed mwy o gyfleoedd i bobl ifanc yr ardal, byddai'r coleg wrth ei fodd yn clywed gennych chi. Gallwch gysylltu ar y wefan: https://www.gllm.ac.uk/cy/contact-us .
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa yma maes Technoleg Gwybodaeth? Dydi hi ddim yn rhy hwyr i ddechrau eich stori yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ym mis Medi. Ewch draw i'n gwefan i weld yr ystod o gyrsiau sydd ar gael gan Grŵp Llandrillo Menai a gweld pa ddrysau y gallent agor i chi. https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/computing-digital-technologies