Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Sophie o Goleg Llandrillo yn Cynrychioli Gofalwyr Ifanc ar Lwyfan y Byd yn Berlin

Yn ddiweddar teithiodd Sophie Ehlke-West sy'n fyfyriwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'r Almaen i gyd-gyflwyno sgwrs a gweithdai yng Nghynhadledd Ryngwladol Gofalwyr Ifanc 2026.

Roedd Sophie sy'n bedair ar bymtheg oed ymhlith y naw a ddewiswyd gan Credu, elusen sy'n cefnogi gofalwyr ifanc yng ngogledd Cymru, i gyd-gyflwyno sgwrs a gweithdai i gynrychiolwyr, ymchwilwyr ac arweinwyr prosiect o bob cwr o'r byd.

Taith, rhaglen gyfnewid ryngwladol ar gyfer dysgu, oedd yn ariannu'r ymweliad a chafodd Sophie a gweddill y criw gyfle i eirioli ar ran gofalwyr ifanc eraill, gan leisio barn a chodi ymwybyddiaeth.

Gan annerch cynulleidfa o dros 300 o ymarferwyr, ymchwilwyr a llunwyr polisïau o bob cwr o'r byd, siaradodd Sophie a'i chyd-ofalwyr am raglen cyfranogiad ieuenctid a mentora cyfoedion Credu.

Cymerodd Sophie ran hefyd mewn arwain gweithdai i gynrychiolwyr, gan rannu ei phrofiadau uniongyrchol a chanolbwyntio ar sut mae gofalwyr ifanc eisiau cael eu gweld a'u trin, fel "oedolion" a "gyda pharch".

"Yn aml, rydyn ni’n gwybod mwy nag y mae pobl yn ei feddwl," ychwanegodd Sophie.

"Roedd yn brofiad gwahanol iawn i’r hyn dw i wedi arfer ag o. Roedd yn rhyfedd bod mewn ystafell yn llawn oedolion sy'n gwrando arnoch chi gan mai fel arall mae hi fel arfer."

Gofynnodd un cynrychiolydd, a oedd yn awyddus i sefydlu ei raglen ei hun i ofalwyr ifanc, i Sophie am syniadau ar sut orau i gefnogi pobl ifanc oedd a chyfrifoldebau gofalu.

"Trodd yn drafodaeth hir a defnyddiol iawn," meddai Sophie.

Mae gofalu am aelodau o'i theulu wedi rhoi profiadau gwerthfawr i Sophie. Ar ôl helpu i ofalu am ei dau frawd o oedran ifanc, gwnaeth Sophie ddefnydd cadarnhaol o'r profiad drwy hyfforddi i fod yn fentor cyfoedion gyda Credu.

"Rydyn ni'n cael hyfforddiant gan Credu i allu cefnogi gofalwyr ifanc eraill yn ein siroedd," esboniodd. "Mi all pobl ifanc eraill ddod aton ni os nad ydyn nhw'n teimlo'n gyfforddus yn siarad ag oedolyn. Efallai fod hynny’n haws iddyn nhw am ein bod yn deall eu profiadau."

Wrth drafod pwysigrwydd cynrychiolaeth gan bobl ifanc sydd â phrofiad personol mewn digwyddiadau fel y gynhadledd yn Berlin, meddai Sophie, "Mae'n creu cyfleoedd i'r genhedlaeth nesaf o ofalwyr ifanc gael yr help a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Mae'n helpu i godi ymwybyddiaeth ac yn helpu hefyd i sicrhau rhagor o gyllid, sy'n golygu gallu cynnal mwy o deithiau preswyl a chyfleoedd i ofalwyr ifanc."

Profiadau Sophie fel gofalwr ifanc a'i hawydd i wneud gwahaniaeth a'i harweiniodd i astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Llandrillo. "Dw i wedi bod yn gofalu am bobl o oedran ifanc iawn," meddai. "Dyna wnaeth danio'r diddordeb yn y sector, a dw i'n awyddus i ddeall sut mae'r system yn gweithio a beth sydd angen newid fel fy mod i, gobeithio, yn gallu gwneud gwahaniaeth."

Cynllun Sophie ar gyfer y dyfodol yw mynd ymlaen i ddilyn cwrs Lefel 3 yng Ngholeg Llandrillo, ac yn y pen draw hoffai yrfa fel nyrs neu yn y sector cartrefi gofal.

Mae gan Sophie gyngor adeiladol i ofalwyr ifanc eraill sy'n ystyried addysg bellach am y gefnogaeth sydd ar gael yng Ngholeg Llandrillo:

"Mi faswn i'n dweud wrthyn nhw fod yn agored gyda'u tiwtoriaid am eu sefyllfa. Mae fy nhiwtor i wedi bod yn gydymdeimladol iawn, ac mae 'na bethau i'w cael yn y coleg i'ch cefnogi chi. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae 'na gefnogaeth ar gael, felly does dim rhaid poeni am orfod ymdopi â phopeth ar eich pen eich hun."

Os ydych chi'n meddwl y gallai gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol fod yn addas i chi, ewch i'n gwefan i weld yr amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael:

https://www.gllm.ac.uk/courses...

Gallwch hefyd ddod i Ddigwyddiad Agored cyntaf y flwyddyn i gael gwybod rhagor am y coleg gan y myfyrwyr presennol a'r tiwtoriaid: https://www.gllm.ac.uk/events