Cyn-fyfyriwr o adran Chwaraeon Coleg Llandrillo yn rhedeg 5K bob dydd am 31 diwrnod i godi arian at elusen Children with Cancer UK
Gosododd Billy Patterson yr her o redeg 5K bob dydd ond gydag ambell i dro annisgwyl ar hyd y ffordd! O redeg ar hyd eiliau archfarchnadoedd a mynd i'r afael â'r stryd fwyaf serth yng Nghymru, i gwblhau 5K mewn bath, mae her Billy wedi codi dros £1,000 i'r elusen hyd yn hyn!
Dechreuodd Billy, y cyn-fyfyriwr Chwaraeon Lefel 2 o Goleg Llandrillo, sy'n 20 oed, redeg i helpu i wella ei ffitrwydd a'i iechyd meddwl ar ôl canfod ei hun mewn lle tywyll.
"Ro'n i mewn lle gwael yn feddyliol, ond mi wnes i lwyddo i ail afael yn fy mywyd, dechrau rhedeg, a phostio fideos amdano. “Mi roddodd hyn yr hwb ychwanegol i mi wneud yn well,” meddai Billy.
Wrth i'w iechyd ddechrau gwella, dechreuodd Billy, sy'n Achubwr Bywyd mewn Pwll Nofio, feddwl am ddefnyddio ei daith i helpu eraill.
“Gan fy mod i’n mwynhau rhedeg ac eisoes yn postio am hynny, meddyliais y gallwn i godi arian at elusen ar yr un pryd,” ychwanegodd.
“Ro'n i eisiau rhannu her, felly penderfynais wneud 5K bob dydd am 31 diwrnod,” meddai. “Ro'n i wedi gweld pobl eraill yn gwneud pethau tebyg ac wedi cael rhywfaint o ysbrydoliaeth o hynny. Ond ro'n i eisiau gwneud pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol! Roedd rhai o'r 5ks braidd yn wallgof. Dw i wedi gwneud un mewn bath, ac un arall lle ro'n i'n rhedeg o amgylch polyn lamp gyda mwgwd dros fy llygaid.”
Ar ddiwrnod 23 o'i her, daeth Billy yn ôl i gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos, i gwrdd â ffrindiau a'i gyn-diwtoriaid. Cafodd ddigon o gefnogaeth wrth iddo redeg o amgylch ystafell ddosbarth yn ystod tiwtorial, loncian o amgylch gêm tennis bwrdd, a rhedeg o amgylch y cae chwaraeon 3G sawl gwaith. Roedd myfyrwyr a staff yno i roi cymeradwyaeth iddo wrth iddo orffen rhedeg yn y Lolfa Chwaraeon.
Roedd angen i Billy hyfforddi'n galed ar gyfer yr her i wneud yn siŵr ei fod yn barod yn gorfforol ac yn feddyliol.
“Mi wnes i lawer o hyfforddi,” meddai. “Ro'n i’n defnyddio sesiynau yn y gampfa, a sesiynau rhedeg a sbrintiau i gael fy hun yn iach yn feddyliol ac yn gorfforol. Er hynny, roedd deffro yn y bore a chael fy hun yn barod bob dydd yn anodd.”
Ar ôl 31 diwrnod a 93 milltir o redeg, mae Billy wedi codi dros £1,000 i Children with Cancer UK ac mae ganddo fwy o heriau ar y gweill.
“Dwi wedi cynllunio un neu ddau o bethau, ond dwi’n eu cadw i mi fy hun am y tro,” meddai. “Mi fydda i'n cymryd wythnos o seibiant, ac yna gawn ni weld be sydd nesaf! Mae gen i syniadau mawr mewn golwg,” ychwanegodd.
Da iawn Billy, am ffordd wych o helpu eraill. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld beth ddaw nesaf!
Dydi hi ddim yn rhy hwyr i roi cyfraniad ar dudalen Just Giving Billy: https://www.justgiving.com/page/billy-patterson-1?utm_medium=FR&utm_source=TT
Os hoffech chi ddechrau eich stori chwaraeon eich hun gyda Grŵp Llandrillo Menai, sicrhewch eich lle ar gyfer mis Medi. Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau chwaraeon sydd ar gael: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/sport-and-outdoor-education