Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn-fyfyriwr yn Dychwelyd i Ysbrydoli Gwneuthurwyr Ffilmiau'r Dyfodol

Cafodd myfyrwyr y cwrs Cynhyrchu yn y Cyfryngau glywed gan Jack Roberts am ddatblygu gyrfa yn y byd ffilmiau ac am greu ei ffilm gyntaf sydd wedi ennill gwobrau.

Cafodd myfyrwyr y cwrs Cynhyrchu yn y Cyfryngau yng Ngholeg Llandrillo gyfle i gwrdd â'r cyn-fyfyriwr sydd wedi creu gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant. Mae wedi ysgrifennu, cyfarwyddo, golygu a rhyddhau ei ffilm lawn gyntaf yn ddiweddar, sef The Joy of Falling.

Siaradodd Jack Roberts, cyn-fyfyriwr ar y cwrs Lefel 3 mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau yng Ngholeg Llandrillo, am ei daith yn y byd ffilm ers gorffen yn y coleg yn 2018.

Siaradodd Jack, sy'n defnyddio'r ffugenw Edward Tramaseur ar gyfer ei waith ffilm, â'r myfyrwyr am bwysigrwydd meithrin cysylltiadau yn y diwydiant a gwneud ffilmiau am bethau rydych chi'n frwdfrydig amdanynt.

“Mae’n rhaid i chi greu eich cyfleoedd eich hun,” meddai Jack. “Gwneud pethau rydych chi'n mwynhau eu gwneud.”

Dechreuodd taith Jack i fod yn wneuthurwr ffilmiau ar ôl gwylio'r ffilm Hot Fuzz. Ysbrydolodd y ffilm ef i ymuno â'r heddlu yn y lle cyntaf, ond ar ôl ei gwylio droeon ac edrych yn fanwl y tu ôl i'r llenni, sylweddolodd mai yn y byd ffilmiau yr oedd am weithio.

Cafodd swydd fel golygydd fideo gyda’r asiantaeth Bearded Fellows ym Manceinion ar ôl gadael y brifysgol, ac mae'n creu ffilmiau yn ei amser hamdden.

Cymerodd dair blynedd i Jack gynilo'r gyllideb o £3 mil yr oedd ei hangen arno ar gyfer The Joy of Falling, gan gydweithio â ffrindiau o'r diwydiant i wireddu'r prosiect.

Cred Jack y daw ei lwyddiant o'r holl waith ymarfer a wnaeth y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Anogodd y myfyrwyr i logi'r offer sydd ar gael yn y coleg, gofyn am gyngor gan eu tiwtoriaid a rhoi cynnig arni, gan ddysgu beth sy'n gweithio a pha gyfeiriad yr hoffent fynd iddo'r un pryd.

“Y pethau gorau dw i wedi’u gwneud yn fy mywyd hyd yn hyn ydi’r prosiectau dw i wedi’u gwneud y tu allan i’r ystafell ddosbarth,” ychwanegodd. “Dw i wedi cael rhywfaint o lwyddiant gyda fy ffilm ond dechreuodd y cyfan yma yn y coleg.”

Jack gyda'i gyn-diwtoriaid, Hannah Owens (ar y chwith) ac Andrea Williams (ar y dde), y ddwy yn ddarlithwyr yn yr adran Cyfrifiadura a'r Diwydiannau Creadigol yng Ngholeg Llandrillo

Mae The Joy of Falling wedi cael ei dangos mewn sawl Gŵyl Ffilm, fel Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Cymru, lle cafodd ei henwebu am bum gwobr, gan ennill gwobr y Ffilm Hir Orau a’r wobr Sinematograffeg Orau.

Mae'r ffilm, sydd i'w rhyddhau ar Amazon Prime erbyn diwedd y flwyddyn, yn stori gariad wedi'i lleoli ym Manceinion, gyda'r prif gymeriadau'n wynebu dibyniaeth ac yn chwilio am gysylltiad mewn byd modern sy'n llawn prysurdeb.

Cafodd y myfyrwyr o Goleg Llandrillo glywed am y broses o wneud y ffilm, gan gynnwys yr uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau a brofodd Jack, ynghyd ag awgrymiadau am gastio a marchnata eich gwaith.

Pan ofynnwyd iddo ba gyngor y byddai'n ei roi iddo'i hun yn berson iau yn y coleg, meddai Jack: “Mwynhau mwy! Bechod na fuaswn i wedi bod yn fwy presennol ar y pryd. Rydych chi'n canolbwyntio gymaint ar beth sy'n dod nesaf, fel mynd i'r brifysgol, fel nad ydych chi'n mwynhau digon ar beth sy'n digwydd ar y pryd.”

Meddai un o gyn-diwtoriaid Jack, Hannah Owens, Arweinydd y Rhaglen Lefel 3 mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol yng Ngholeg Llandrillo: “Rydyn ni wrth ein bodd bod Jack wedi dod yn ôl i'r coleg i ddangos ei ffilm. Mae'n gamp anhygoel i rywun mor ifanc fod wedi ysgrifennu, cyfarwyddo ac ariannu ei gynhyrchiad ei hun. Rydyn ni mor falch o'i gyflawniadau a'i frwdfrydedd am y diwydiant. Rydyn ni'n siŵr y bydd yn mynd o nerth i nerth gan ei fod eisoes yn cynllunio ei gynhyrchiad mawr nesaf, ac edrychwn ymlaen at ei weld yn y dyfodol.”

Diolch yn fawr i Jack am ddod yn ôl i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilmiau. Mae'n hyfryd gweld beth mae ein cyn-fyfyrwyr yn ei wneud a dathlu eu llwyddiant gyda nhw.

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau ym maes y cyfryngau i bobl ifanc ac oedolion, o Lefel 2 i gyrsiau gradd BA. I gael gwybod rhagor ewch i: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/media-tv-and-film