Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

O Fedal Aur WorldSkills i addysgu peirianwyr y dyfodol: dewch i gwrdd ag Osian Roberts, Darlithydd Peirianneg yng Ngholeg Menai

Mae Osian Roberts, cyn-brentis o Goleg Menai, wedi gwneud cylch llawn. Ar ôl mireinio ei sgiliau yn y diwydiant ac ennill cystadleuaeth genedlaethol, mae bellach yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr ar gampws y Coleg yn Llangefni.

Dechreuodd Osian, sy'n wreiddiol o Gaernarfon, ei daith yng Ngholeg Menai fel dysgwr. Astudiodd am Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) mewn Peirianneg Gyffredinol yn y coleg wrth weithio fel prentis rhaglennwr CNC a pheiriannydd yng nghwmni gweithgynhyrchu IAQ yng Nghaernarfon.

Diolch i'w ymroddiad i'w astudiaethau, ei sgiliau technegol a'i awydd am ragoriaeth, llwyddodd hefyd i ennill Medal Aur yng nghystadleuaeth CNC rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK.

Dywedodd Osian: "Mae addysgu ac ysbrydoli eraill wedi dod a balchder mawr i mi erioed. Pan o'n i'n brentis, ro'n i'n gyfrifol am addysgu prentisiaid newydd a myfyrwyr oedd ar brofiad gwaith. Roedd y cyfle i ddefnyddio fy mhrofiad blaenorol i addysgu yng Ngholeg Menai yn un rhy dda i'w golli."

Ers ymuno â'r tîm peirianneg fel darlithydd ym mis Ionawr 2024, mae Osian wedi bod yn rhannu ei wybodaeth am y diwydiant gyda myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai.

I Osian, yr agwedd fwyaf gwerth chweil ar addysg bellach (AB) yw gweld gwaith caled ei fyfyrwyr yn dwyn ffrwyth mewn amser real. Wrth siarad am ei brofiadau yn addysgu, mae un yn sefyll allan iddo, sef gwylio un o’i ddysgwyr yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Melino CNC Sgiliau Cymru bum awr o hyd.

"Roedd yn bleser pur gwylio'r dysgwr – roedd ei holl waith caled wedi talu ar ei ganfed," meddai Osian.

Wrth fynd ymlaen i drafod y peth gorau am addysgu dysgwyr addysg bellach, ychwanegodd: "Mae'n gyfuniad o lawer o ffactorau. Y cyfle i weithio gydag amrywiaeth o unigolion medrus iawn, i addysgu amrywiaeth o ddysgwyr o gefndiroedd gwahanol, i ddarparu addysgu galwedigaethol o ansawdd uchel, a heb sôn am gydbwysedd rhagorol rhwng bywyd a gwaith.”

Mae nod personol Osian fel addysgwr yn syml: "Pe bawn i'n gallu agor y drysau i unrhyw berson neu ddysgwr arall i roi'r cyfleoedd rydw i wedi'u cael iddyn nhw, yna byddwn i wedi gwneud gwaith da."

Cyngor gorau Osian i fyfyrwyr newydd sy'n dechrau ym mis Medi

Gyda'r flwyddyn academaidd newydd ar fin dechrau, mae gan Osian neges glir i ddarpar fyfyrwyr sy'n paratoi i gamu i'r campws:

Anelwch yn uchel: "Mae'r cyfleusterau a'r cyfleoedd sydd ar gael gyda'r Grŵp yn ddi-fai, felly manteisiwch i'r eithaf ar bopeth a gynigir i chi."

Manteisiwch ar gyfleoedd: "Rhowch gynnig ar bethau newydd, manteisiwch ar bob cyfle a ddaw i chi, ac efallai y byddwch chi'n darganfod posibiliadau nad oeddech chi erioed yn gwybod eu bod nhw'n bodoli."

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau gyrfa ymarferol yn y diwydiant? Cymerwch olwg ar ein cyrsiau a darganfyddwch ble gall hyfforddiant galwedigaethol eich arwain chi: https://www.gllm.ac.uk/course-...