Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cipio'r wobr Aur: Myfyrwyr Coleg Llandrillo yn Sicrhau Buddugoliaeth yng Nghystadleuaeth Commis y Flwyddyn y Gogledd-orllewin

Yn ddiweddar, enillodd triawd o fyfyrwyr talentog cyrsiau lletygarwch ac arlwyo Coleg Llandrillo'r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Cogydd Commis y Flwyddyn Association Culinaire Française (ACF) Northwest.

Ar ddydd Llun, 30 Mawrth, cymerodd Molly Thallon a Millie Batterbee, ill dwy yn astudio Coginio Proffesiynol Lefel 3, ac Oskar Williams, myfyriwr Goruchwylio Gwasanaeth Bwyd Lefel 3, ran yn y gystadleuaeth ym Mwyty'r Academy ar gampws Coleg Cheshire South and West yn Crewe.

“Roedd y gystadleuaeth yn brofiad gwych, a fydda i byth yn ei anghofio,” meddai Molly. “Mae wedi fy helpu i gyda sgiliau ar gyfer fy ngyrfa.”

Wrth drechu timau o golegau eraill o bob cwr o Ogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr, enillodd y tîm y fedal aur a thlws, ynghyd â chanmoliaeth am ragoriaeth hefyd.

Yn y gystadleuaeth coginio/gweini, dangosodd y myfyrwyr 20 oed, gydweithio llyfn rhwng y gegin a blaen y tŷ, wrth iddynt gynllunio, creu bwydlen tri chwrs soffistigedig, ynghyd â moctels a gwin addas, a'i weini i gwsmeriaid byw.

“Mi roddodd y profiad yr her i ni fod yn greadigol a gallu dal i ganolbwyntio o dan bwysau,” meddai Millie.

Mae'r fuddugoliaeth yn dilyn wythnosau o hyfforddiant dwys yng nghegin safonol y diwydiant a'r bwyty yng Ngholeg Llandrillo, dan arweiniad Mike Evans a Mike Garner, tiwtoriaid Coleg Llandrillo.

“Mi wnaethon ni weithio’n galed iawn ar ein sgiliau cyfathrebu gyda Oskar, yr aelod o'r tîm ym mlaen y tŷ. Roedd hynny'n help mawr dw i'n meddwl,” meddai Molly.

Ychwanegodd Millie: “Er ein bod ni'n nerfus iawn i ddechrau, roedden ni’n teimlo ein bod ni wedi paratoi’n dda, diolch i’r hyfforddiant a’r gefnogaeth anhygoel gan ein tiwtoriaid.”

Profodd newid munud olaf i'r briff wydnwch a gallu'r myfyrwyr i addasu pan oedd yn rhaid i Oskar gerfio wrth y bwrdd o flaen cwsmeriaid – tasg nad oedd wedi paratoi ar ei chyfer.

"Roedd hynny'n fy nychryn braidd, ond mi es i ati a gweithio allan beth i'w wneud," rhannodd Oskar. "Pan ddywedon nhw fod ein coleg ni wedi ennill, ro'n i'n teimlo'n gyffrous iawn, ac yn meddwl bod fy hyfforddiant wedi talu ar ei ganfed o'r diwedd."

Allai tiwtoriaid y tîm ddim bod yn fwy balch o'r gwaith caled a'r ymroddiad maen nhw i gyd wedi'i ddangos wrth baratoi at gystadleuaeth, a'r agwedd broffesiynol a ddangoson nhw ar y diwrnod.

“Maen nhw wedi magu hyder ac wedi rhoi eu holl sgiliau ar brawf mewn amgylchedd cystadleuaeth lle mae llawer o bwysau, ac maen nhw wedi gwneud hyn i gyd gyda gwên,” meddai Mike Garner.

Bydd Molly, Millie ac Oskar yn mynychu Gwobrau a Chinio Gourmet Llywyddion ACF ar 7 Mai, lle byddant y tlws yn cael ei gyflwyno iddynt yn swyddogol.

Llongyfarchiadau i'r tri ar y cyflawniad gwych hwn!

Ydych chi'n gogydd ifanc neu'n awyddus i gael gyrfa ym myd gwaith blaen y tŷ? Edrychwch yma i weld y cyrsiau arlwyo a lletygarwch sydd ar gael gan Grŵp Llandrillo Menai: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/hospitality-and-catering

P'un a ydych chi'n gadael yr ysgol ac yn chwilio am y cam nesaf, eisiau newid gyrfa, neu'n awyddus i ddysgu sgiliau newydd, mae cwrs ar gael i bawb.