Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Nick Elphick, cyn-fyfyriwr o Goleg Menai, yn cerflunio un o sêr Monty Python i Fae Colwyn

Ychydig dros flwyddyn yn ôl, comisiynwyd y cerflunydd Cymreig Nick Elphick, sy'n gyn-fyfyriwr Coleg Menai, i greu cerflun efydd o'r diweddar Terry Jones, un o sêr Monty Python.

Ddydd Sadwrn 25 Ebrill, datgelwyd gwaith Nick i'r cyhoedd wrth i gefnogwyr Monty Python o bob cwr o'r byd gyrraedd Bae Colwyn i weld y deyrnged barhaol i Terry. Dadorchuddiwyd y cerflun gan ffrindiau a chyd-sêr Terry -Syr Michael Palin a Terry Gilliam.

Roedd Nick yn y digwyddiad, a oedd yn ddathliad o'r diweddar actor, yr awdur a'r hanesydd. Roedd nifer o bethau'n ymwneud â Monty Python yn rhan o'r diwrnod, gan gynnwys y Llychlynwyr ysbeilgar, marchogion yn taro cnau coco, "Gemau Olympaidd Gwirion," a hyd yn oed ail-greu'r "Spam Café" eiconig.

Lluniau: Paul Cooper

I Nick, mae'r prosiect hwn yn garreg filltir yn ei yrfa y gellir olrhain ei wreiddiau'n ôl i'w gyfnod yng Ngholeg Menai pan ddechreuodd ei daith fel cerflunydd. Mae Nick yn nodi'r cwrs Sylfaen Celf yn y coleg fel y pwynt hollbwysig a drawsnewidiodd ei lwybr fel artist.

"A dweud y gwir, dyma'r cwrs pwysicaf i mi ei wneud erioed! "Mi newidiodd fy mywyd," meddai Nick.

"Mi ddois i i'r coleg yn syth o'r ysgol eisiau bod yn arlunydd, ond mi adawais i'n gerflunydd", ychwanegodd.

“Roedd ein tiwtoriaid yn ein hannog i wneud llawer o arbrofi, gan ein gwthio ni a’n gyrru ni. Mi roddodd y cyfle i archwilio a mynegi fy hun mewn gwahanol gyfryngau sylfaen dda i mi, ac mi helpodd fi i ddarganfod i ba gyfeiriad ro'n i eisiau mynd iddo fo fel artist."

Taith y coleg i Brâg oedd yr ysbrydoliaeth olaf i Nick. Cafodd ei gyffwrdd gan gerfluniau hanesyddol y ddinas a chan ymweliad â gwersylloedd crynhoi cyfagos. Cyn gynted ag y daeth adref creodd ei gerflun cyntaf a dydy o ddim wedi difaru.

Er gwaethaf ei lwyddiant, gan gynnwys ymddangos ar raglenni teledu Salvage Hunters: The Restorers a Extraordinary Portraits , mae Nick, sy'n byw yn Llandudno, yn cyfaddef ei fod yn teimlo'n ychydig o "dwyllwr" ynglŷn â'r comisiwn. “Mae’n wallgof sut y daeth y cyfan i fodolaeth,” meddai.

Sylwodd Sally, merch Terry Jones, ar dalent Nick wrth ei wylio ar y teledu a chysylltodd ag ef i gynnig y comisiwn.

Gwnaed y cerflun yn bosibl gan yr ymgyrch "Python ar y Prom", a lansiwyd ym mis Medi 2024 gan Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy a phlant Terry. Derbyniwyd rhoddion gan gefnogwyr ledled y byd a chyrhaeddwyd y targed chwe mis yn ddiweddarach. Yna dechreuodd Nick ar y gwaith o gerflunio Terry, mewn efydd, fel ei gymeriad Monty Python eiconig, “The Nude Organist”.

“Roedd mor bwysig i mi gael gwên Terry yn iawn. Felly fe wnes i ddeg portread yn chwarae gyda gwahanol fynegiant. Dw i'n gobeithio fy mod i wedi gwneud cyfiawnder â fo.”

“Dw i'n teimlo mai fi ydy’r cerflunydd mwyaf lwcus erioed, yn y lle iawn, ar yr amser iawn, i ddod â Terry Jones yn ôl i ogledd Cymru.”

Mae Nick wedi cadw'i gysylltiadau â'r coleg. Yn ymwelydd rheolaidd, roedd yn rhan o'r arddangosfa yn Storiel ac yn Pontio ym Mangor i ddathlu pen-blwydd y cwrs Sylfaen Celf yng Ngholeg Menai yn 40 oed.

Dywedodd Owein Prendergast, Arweinydd y cwrs Sylfaen Celf: Roedd Nick yn fyfyriwr gyda ni yn ôl ar ddiwedd y nawdegau. Roedd ganddo synnwyr naturiol a greddfol o strwythur a ffurf, a chyn gynted ag y rhoddwyd lwmp o glai o'i flaen am y tro cyntaf roedd o'n rhagori. Mi greodd waith eithriadol yn ystod ei gyfnod yma, gan gynnwys cerflun gwych o'i dad fel angel, ynghyd â ffigur maint llawn o Branwen, o chwedlau'r Mabinogi, yn ystod cystadleuaeth gerflunio iâ ryngwladol yn y Ffindir. Rydym wedi mwynhau gwylio ei yrfa yn datblygu ac yn edrych ymlaen at weld beth fydd o'n ei wneud nesaf.”

Mae dyfodol Nick yn edrych yn ddisglair. Mae o newydd arwyddo cytundeb gyda'r BBC sy'n golygu y bydd yn gweithio'n llawn amser ar Extraordinary Portraits, ac mae ganddo waith comisiwn ar y gweill. Ond am rŵan mae gwaith Nick a darn o Monty Python wedi eu gosod am byth mewn efydd ym Mae Colwyn. ⁠

Os hoffech chi gael gwybod rhagor am gyrsiau celf Coleg Menai, ewch i: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/art-and-design-and-photography

Gallwch ddysgu rhagor am waith Nick ar ei wefan: https://nickelphicksculpture.co.uk/