Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Meirion-Dwyfor yn dathlu llwyddiant myfyrwyr 2026

Ar gampws Dolgellau cynhaliodd y coleg ei seremoni flynyddol i gydnabod y dysgwyr hynny oedd wedi dangos rhagoriaeth yn ystod y flwyddyn academaidd.

Dathlodd Coleg Meirion-Dwyfor lwyddiant ei fyfyrwyr yn Seremoni Gwobrwyo Cyflawnwyr 2025/26.

Chloe Rowe, dysgwr Lefel A oedd ‘Myfyriwr y Flwyddyn’, tra cafodd 14 o'i chyd-fyfyrwyr hefyd wobr am ragori yn eu meysydd rhaglen (mae rhestr lawn o'r enillwyr i'w gweld isod).

Daeth yr enillwyr ynghyd ar gampws Dolgellau i ddathlu eu llwyddiant gyda theulu a ffrindiau.

Bob blwyddyn, gwahoddir darlithwyr o bob maes pwnc i enwebu myfyrwyr am wobr, a rheolwr y maes rhaglen sydd wedyn yn dewis yr enillydd ar gyfer y ddisgyblaeth honno.

Yna mae'r Pennaeth yn dewis enillydd gwobr Myfyriwr y Flwyddyn ar sail ei lwyddiant academaidd a'r hyn a gyflawnodd.

Cyflwynodd Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai wobr Myfyriwr y Flwyddyn i Chloe Rowe, ynghyd â thaleb gwerth £200.

Dywedodd ei bod yn “fyfyriwr eithriadol sydd wedi gwneud cynnydd rhagorol yn ei holl bynciau”.

Mae Chloe yn astudio Bioleg, Cemeg, Mathemateg a Bagloriaeth Cymru ar gampws Dolgellau ac yn debyg iawn o gael gradd A* ynddynt i gyd. Er ei bod yn byw gyda chyflwr meddygol hirdymor, mae hi wedi llwyddo i herio ei hun yn academaidd gan wneud yn well na'r disgwyl yn gyson.

Wrth gyflwyno'r wobr i Chloe, dywedodd Aled Jones-Griffith: “Rwyt ti'n fyfyriwr deallus, myfyrgar ac ystyriol sy'n cyfuno rhagoriaeth academaidd â gwyleidd-dra, dyfalbarhad a chwilfrydedd deallusol. Rydyn ni'n sicr y byddi di'n mynd ymlaen i gael llwyddiant mawr yn y dyfodol.”

Cyflwynodd Pennaeth Coleg Meirion-Dwyfor, Dr Siôn Peters-Flynn, dlws i enillydd pob maes rhaglen

Cyflwynodd hefyd Darian Chwaraeon Robin Llŷr Evans a Gwobr Goffa Glesni Davies. Caiff y ddwy wobr eu cyflwyno i ddysgwyr sydd wedi rhagori mewn chwaraeon, er cof am gyn-fyfyrwyr.

Yn y seremoni hefyd, cyflwynodd Dr Peters-Flynn gap i'r myfyriwr Chwaraeon Owen Roberts oedd wedi cynrychioli Cymru yn ystod y flwyddyn academaidd.

Wrth agor y seremoni, dywedodd Dr Peters-Flynn: “Braint i mi yw cael cyflwyno'r gwobrau nodedig hyn i griw o fyfyrwyr sydd wedi gweithio mor galed ac wedi dangos gymaint o ymroddiad yn ystod y flwyddyn.

“Mae'r enillwyr heno 'ma wedi cael eu henwebu am eu bod yn fyfyrwyr sydd wedi bod yn barod i fynd yr ail filltir, wedi goresgyn rhwystrau neu wedi rhagori yn eu pynciau. Dyna sy'n gwneud y gwobrau hyn yn rhai arbennig iawn ac mae hi'n fraint cael eu cyflwyno.”

Cymerodd Terry Tuffrey, cyn-fyfyriwr o'r adran Sgiliau Bywyd a Gwaith yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ran yn y seremoni.

Un o Flaenau Ffestiniog yw Terry a symudodd ymlaen i gwrs Camu i Waith yn y coleg gan dreulio dwy flynedd yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr. Bellach mae Terry'n gweithio i gwmni Tinopolis, yn wyneb cyfarwydd ar y teledu ac wedi cyflwyno rhaglen Heno fwy nag unwaith.

Dyma restr lawn o enillwyr Gwobrau Cyflawnwyr Coleg Meirion-Dwyfor 2025/26:

Lefel A (Gwyddorau) a Myfyriwr y Flwyddyn: Chloe Rowe

Lefel A (Dyniaethau): Cali Hughes

Celf a Dylunio: Daryna Bandurka

Busnes: Courtney Riches

Cyfrifiadura: Harri Gwyn Jones

Adeiladu: Kaylem Evans

Peirianneg: Sydney Meyerratken

Gwallt a Harddwch: Brooke Roberts

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ashanti Nabbidoust

Iechyd a Gofal gyda Gofal Plant: Lilly-May Adams

Lletygarwch ac Arlwyo: Eira Murray

Sgiliau Bywyd a Gwaith: Osian Williams

Myfyriwr Cymraeg y Flwyddyn: Elan Evans

Tarian Chwaraeon Robin Llŷr Evans: Owen Roberts

Gwobr Goffa Glesni Davies: Evie Holt

Cap i Gymru: Charlie Griffith

Capi Gymru: Owen Roberts

Grŵp Llandrillo Menai sy'n cynnig y dewis ehangaf o gyrsiau addysgol a chyrsiau hyfforddi yng ngogledd Cymru, o gyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau i gyrsiau Lefel A, graddau a chymwysterau proffesiynol.