Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Llandrillo yn Dathlu Myfyrwyr Rhagorol 2025/26

Cynhaliodd y coleg ei Seremoni Gwobrwyo Cyflawnwyr blynyddol yn Venue Cymru i gydnabod dysgwyr sydd wedi rhagori yn ystod y flwyddyn academaidd.

Dathlodd Coleg Llandrillo lwyddiant myfyrwyr rhagorol 2025/26 yn ei Seremoni Flynyddol i Wobrwyo Cyflawnwyr.

Tom Booth gafodd ei enwi yn 'Gyflawnwr Cyffredinol y Flwyddyn', ar ôl iddyn nhw fynd drwy “newid personol a newid academaidd sylweddol” yn ystod eu taith drwy'r coleg.

Roedd o'n un o 20 o fyfyrwyr addysg bellach a gafodd gydnabyddiaeth yn y seremoni am ragori yn eu pynciau (gweler y rhestr lawn o enillwyr isod).

Mwynhaodd yr enillwyr araith gan Alex Marshall-Wilson, cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo sydd bellach yn chwarae yn Uwch Gynghrair Pêl-fasged Cadair Olwyn, wrth iddynt ddathlu eu llwyddiant gyda theulu a ffrindiau yn Llandudno.

Bob blwyddyn, mae darlithwyr yn enwebu myfyrwyr am wobr, a Phennaeth yr adran berthnasol wedyn yn dewis yr enillydd ar gyfer pob maes rhaglen. Cyflwynir tlws i bob enillydd yn y seremoni, cyn cyhoeddi enw Cyflawnwr Cyffredinol y Flwyddyn ar ddiwedd y noson.

Cofrestrodd Tom, enillydd cyffredinol eleni, ar y cwrs Mynediad i Addysg Uwch (Gofal Iechyd) flwyddyn yn ôl, gan obeithio dod yn barafeddyg.

Yn y seremoni ddydd Mawrth, dywedodd Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo, fod Tom wedi mynd trwy newid personol a newid academaidd sylweddol yn ystod ei gyfnod yn y coleg.

Ychwanegodd Paul: “Er gwaethaf profi galar dwys a gorfod dygymod â phwysau a chyfrifoldebau rhiant ar ei ben ei hun, penderfynodd y myfyriwr hwn barhau â’r flwyddyn, gan ddangos y dewrder a’r ffocws sy’n ofynnol gan barafeddyg.

“Maen nhw’n ymgorffori ysbryd Mynediad i Addysg Uwch. Mae nid yn unig yn bodloni’r meini prawf ar gyfer Cyflawnwr Cyffredinol y Flwyddyn, ond yn ei ddiffinio.

“Rydym yn hynod falch bod y dysgwr hwn wedi cael ei dderbyn i astudio Gwyddor Barafeddygol ym Mhrifysgol Wrecsam. Dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw yn eu hastudiaethau ac wrth gyflawni eu nod o ddod yn barafeddyg gyda'r Gwasanaeth Iechyd.”

Cyflwynwyd tlws Cyflawnwr Cyffredinol y Flwyddyn i Tom, ynghyd â thaleb gwerth £200 gan Brif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai, Aled Jones-Griffith.

Myfyriwr arall sy'n mynd ymlaen i'r brifysgol ydy Joseph Steel, a enillodd Wobr Cyflawnwr Lefel A y Flwyddyn. Bydd Joseph yn astudio Cysylltiadau Rhyngwladol.

Yn arweinydd clir o fewn cymuned Chweched Dosbarth y Rhyl, mae Joseph yn mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau yn gyson, gan gymryd rhan weithredol wrth groesawu myfyrwyr newydd a sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u cynnwys.

Hefyd ymhlith yr enillwyr roedd myfyrwraig o'r cwrs Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Lefel 3, Cara Mercier. Yn chwaraewr rygbi elitaidd, mae eu stori eleni yn un o ddycnwch a phenderfyniad. Drwy wrthod gadael i anaf ddiffinio eu terfynau, maen nhw wedi dangos lefel o aeddfedrwydd a disgyblaeth sy'n mynd y tu hwnt i chwaraeon.

Enillydd arall oedd Rhys Roberts, myfyriwr Teithio a Thwristiaeth Lefel 3, sydd wedi datblygu o fod yn fyfyriwr swil i fod yn unigolyn hyderus, galluog a pharod ar gyfer y diwydiant, gan adlewyrchu nid yn unig ragoriaeth academaidd ond hefyd twf personol rhagorol.

Yn ystod y seremoni llongyfarchwyd y myfyrwyr a enillodd fedalau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni, yn ogystal â'r rhai a gynrychiolodd Cymru yn y maes chwaraeon. Y myfyrwyr a dderbyniodd gapiau am eu cyflawniadau chwaraeon oedd: Sam Parry (pêl-droed) a Jac Williams (rygbi).

Yn ystod y seremoni, siaradodd Alex Marshall-Wilson â'r myfyrwyr am sut y gwnaeth ei gyfnod yng Ngholeg Llandrillo ei helpu i dyfu mewn hyder, yr effaith a gafodd cymryd rhan mewn chwaraeon ar ei fywyd, a'r hyn sydd ei angen i ddod yn athletwr elitaidd.

Astudiodd Alex Chwaraeon Lefel 3 yng Ngholeg Llandrillo cyn symud ymlaen i astudio Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Loughborough. Yn gyn-dderbynnydd Gwobr Dysgwr Addysg Bellach y Flwyddyn Coleg Llandrillo, mae Alex wrthi'n gweithio tuag at ei uchelgais o gynrychioli Prydain yng Ngemau Paralympaidd 2028 yn Los Angeles.

Wrth ddod â'r seremoni i ben, dywedodd Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: "Wel am noson arbennig! Yn sicr, mae wedi bod yn brofiad gwych i'r enillwyr ac yn noson i'w chofio i'w teuluoedd a'u ffrindiau.

"Mae gennym dros 30,000 o ddysgwyr ac rydym yn cael rhai o'r canlyniadau a'r cyfraddau llwyddo gorau yng Nghymru. Gall y rhai hynny ohonoch sydd wedi ennill gwobrau heno deimlo'n falch iawn eich bod wedi cael eich enwebu. Rydw i'n sicr y cewch chi i gyd ddyfodol llwyddiannus."

Dyma restr lawn o enillwyr Gwobrau Cyflawnwyr Coleg Llandrillo 2025/26:

Cyflawnwr Cyffredinol y Flwyddyn / [Mynediad i Addysg Uwch]: Tom Booth

Sgiliau Bywyd a Gwaith James Rollitt

Lefel A: Joseph Steel

Celf a Dylunio: Newt Brown

Busnes: Evie Walliker

⁠Gofal Plant : Cerys Moriarty

Cyfrifiadura: Kyle McEgan

Adeiladu: Daniel Sparrow

Peirianneg: Flynn Jones

ESOL: Minh Thuan Bui

⁠Gwallt a Harddwch: ⁠Kayleigh Blears

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Neve Williams

Lletygarwch ac Arlwyo: Poppy Doherty

Cyfryngau a Datblygu Gemau: Sion Thomas

Cerbydau Modur: George Atherton

Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio: Euan Roberts

Gwasanaethau Cyhoeddus: Katie Pugh

⁠Chwaraeon: Cara Mercier

Teithio a Thwristiaeth: Rhys Roberts

Dysgu Oedolion yn y Gymuned: Justine McKnight

Myfyriwr Cymraeg y Flwyddyn: Seren Daisy Williams

Grŵp Llandrillo Menai sy'n cynnig y dewis ehangaf o gyrsiau addysgol a chyrsiau hyfforddi yng ngogledd Cymru, o gyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau i gyrsiau Lefel A, graddau a chymwysterau proffesiynol.