Cymeradwyo’r cynlluniau ar gyfer Canolfan Ragoriaeth Albert Gubay ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl i hybu sgiliau, cefnogi uchelgeisiau sero net, ac adfywio’r economi leol
Mae Coleg Llandrillo wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer prosiect sylweddol a ariennir gan Sefydliad Elusennol Albert Gubay. Mae'r Ganolfan Ragoriaeth mewn Adeiladu a Pheirianneg Cerbydau Modur yn ddatblygiad newydd pwysig ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl.
Gyda buddsoddiad o dros £10 miliwn gan Sefydliad Elusennol Albert Gubay, mae'r datblygiad yn gam sylweddol ymlaen wrth fynd i'r afael â phrinder sgiliau yn lleol, cefnogi adfywio economaidd, a pharatoi gweithlu'r rhanbarth ar gyfer dyfodol cynaliadwy sero net.
Bydd Canolfan Ragoriaeth Albert Gubay yn ehangu'r ddarpariaeth hyfforddiant mewn meysydd y mae galw amdanynt fel gwaith saer, gwaith maen, plymio, sgiliau adeiladu gwyrdd, a chynnal a chadw cerbydau modur, gan alluogi mwy o bobl ifanc i gael addysg alwedigaethol o ansawdd uchel yn yr ardal.
Gan chwarae rhan ganolog yn adfywiad ehangach y Rhyl, bydd y buddsoddiad yn creu amgylchedd dysgu modern, sy'n canolbwyntio ar anghenion diwydiant. Y nod fydd codi dyheadau, gwella canlyniadau cyflogaeth, a chadw talent lleol. Bydd cynnwys gwyrddi, mannau cymdeithasol, a plaza i'r myfyrwyr yn gwella eu profiad o'r campws ac yn cryfhau ei rôl fel cyfleuster cymunedol.
Bydd y Ganolfan yn cynnig hyfforddiant uwch mewn cynnal a chadw cerbydau hybrid a cherbydau trydanol, ynghyd â darpariaeth arbenigol mewn technegau adeiladu carbon isel. Bydd dysgwyr yn cael profiad ymarferol mewn dulliau adeiladu cynaliadwy, gan gynnwys adeiladu gyda ffrâm bren a thechnolegau ynni adnewyddadwy fel gosod paneli solar - gan gefnogi anghenion y diwydiant yn rhanbarthol a thargedau sero net cenedlaethol.
Mae'r Ganolfan yn adeiladu ar gryfderau presennol y coleg, gan gynnwys ei ddarpariaeth hyfforddiant ym maes tyrbinau gwynt, gan sicrhau bod y Rhyl yn lleoliad blaenllaw ar gyfer datblygu sgiliau gwyrdd yng ngogledd Cymru.
Meddai Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo:
"Y bwriad ydi diwallu anghenion ein rhanbarth a'n cymunedau – heddiw ac yn y dyfodol. Bydd y Ganolfan Ragoriaeth nid yn unig yn ehangu cyfleoedd i ddysgwyr lleol, ond bydd hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth adfywio'r Rhyl drwy roi'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt i bobl. Hoffem ddiolch i Sefydliad Elusennol Albert Gubay am ei fuddsoddiad hynod hael, sydd wedi gwneud y datblygiad hwn yn bosibl."
Ychwanegodd: “Wrth i ni symud tuag at economi sero net, mae’r galw am sgiliau gwyrdd yn cynyddu. Bydd y cyfleuster hwn yn sicrhau bod ein dysgwyr ar flaen y gad yn y trawsnewidiad hwn, ac yn ennill yr arbenigedd sydd ei hangen mewn adeiladu cynaliadwy a thechnolegau cerbydau allyriadau isel. Rydyn ni'n falch o gefnogi twf lleol a blaenoriaethau cenedlaethol drwy'r datblygiad trawsnewidiol hwn."
Wedi'i henwi er cof am Albert Gubay, dyngarwr a dyn busnes llwyddiannus a aned yn y Rhyl, bydd y ganolfan yn adlewyrchu ei frwdfrydedd dros grefftau ymarferol - yn enwedig gwaith saer, gwaith maen, gwasanaethau adeiladu a chynnal a chadw cerbydau modur. O ystyried y diddordebau hyn a’i awydd i fuddsoddi mewn pobl a sgiliau sydd o fudd i ogledd Cymru, bydd gwaith y ganolfan newydd yn hynod addas.
Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau'r haf hwn, gyda'r ganolfan newydd yn agor i ddysgwyr yng ngwanwyn 2028.
Nod Sefydliad Elusennol Albert Gubay yw newid bywydau pobl sydd â'r angen mwyaf trwy ariannu prosiectau a redir gan elusennau yng Nghymru, Lloegr, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon.
Roedd Albert Gubay yn ddyn eithriadol; yn entrepreneur gwych a greodd ymerodraeth fusnes a oedd werth dros £700 miliwn. Daeth ei agwedd benderfynol, ei egni a'i angerdd dros greu gwaddol parhaol o addewid a wnaeth fel dyn ifanc, heb geiniog i'w enw, i roi hanner ei gyfoeth i wasanaethu Duw. Daeth y weledigaeth honno'n realiti, ond aeth gam ymhellach gan adael y rhan fwyaf o'i gyfoeth i Sefydliad Elusennol Albert Gubay fel bod achosion fel y rhai y mae Coleg Llandrillo yn eu cefnogi yn cael cymorth.