Grŵp Llandrillo Menai ar y brig yng Nghymru am foddhad myfyrwyr am y drydedd flwyddyn yn olynol
Am y drydedd flwyddyn yn olynol Grŵp Llandrillo Menai oedd yr uchaf yng Nghymru am Foddhad Cyffredinol yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr Addysg Uwch.
Cafodd y Grŵp sgôr o 94% gan fyfyrwyr oedd yn astudio ar draws ei gampysau yn siroedd Gwynedd, Conwy a Môn; roedd hyn 1% yn uwch na'r meincnod cenedlaethol a 5% yn uwch na'r llynedd.
Bob blwyddyn, mae'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn casglu barn myfyrwyr ar ansawdd eu cyrsiau addysg uwch. Mae hyn yn helpu darpar fyfyrwyr i wneud dewisiadau, yn darparu data i gynorthwyo prifysgolion a cholegau i wella profiadau myfyrwyr, ac yn cefnogi atebolrwydd cyhoeddus.
Mae pob prifysgol yn y Deyrnas Unedig yn cymryd rhan yn yr arolwg, ynghyd â nifer o golegau addysg bellach, ac mae'r cyfraddau ymateb yn uchel bob amser.
Ymhlith y cryfderau a amlygwyd gan fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn arolwg 2026 mae ansawdd yr addysgu, y gefnogaeth academaidd sydd ar gael i'r dysgwyr, llais cryf myfyrwyr y Grŵp, a threfniadaeth a rheolaeth y cyrsiau Addysg Uwch:
Yn yr adran 'Yr Addysgu ar fy Nghwrs', sgoriodd y Grŵp yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol, gyda 98% yn cytuno, 7% yn uwch na'r cyfartaledd, bod y staff addysgu yn gwneud eu cyrsiau'n ddiddorol.
O ran y gefnogaeth, roedd 100% o'r rhai a gymerodd ran yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth academaidd oedd ar gael.
Mae 'llais cryf' myfyrwyr y Grŵp yn amlwg gan fod y sgôr 8% yn uwch na'r cyfartaledd, gyda 93% o'r myfyrwyr yn nodi bod eu barn yn cael ei werthfawrogi.
Yn adran 'Trefniadaeth a rheolaeth', roedd yr ymatebion cadarnhaol i'r cwestiwn 'Pa mor drefnus yw eich cwrs?' 9% yn uwch na'r cyfartaledd.
Dywedodd Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: "Unwaith eto rydyn i'n falch o fod ar y brig yng Nghymru am Foddhad Cyffredinol yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, ac rydyn ni'n ddiolchgar i’n dysgwyr am rannu eu profiadau.
"Wrth i ni barhau i ehangu ac ymestyn ein darpariaeth addysg uwch, mae'n hynod galonogol bod dysgwyr yn gwerthfawrogi ansawdd ein cyrsiau lefel prifysgol a'n cefnogaeth academaidd, sydd ymhlith y gorau yng Nghymru.
"Mae’r canlyniadau hyn yn rhoi dealltwriaeth dda i ni o sut mae ein myfyrwyr yn teimlo am eu profiadau addysg uwch, ac rydw i wrth fy modd bod dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai yn mynegi barn mor gadarnhaol am y ddarpariaeth a gynigiwn.
"Mae’r canlyniadau’n dysteb i waith caled ein staff a'u buddsoddiad yn ein myfyrwyr. Yn ogystal â bod yn dalentog ac ymroddedig, maen nhw i gyd wedi cael profiad mewn diwydiant ac mewn gwirionedd ein staff yw ased mwyaf Grŵp Llandrillo Menai."
Mae Grŵp Llandrillo Menai’n cynnig cyrsiau prifysgol mewn dros 30 maes pwnc. Cyflwynir y rhan fwyaf o'r cyrsiau yn y ganolfan brifysgol arbenigol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, gyda llawer hefyd yn cael eu cyflwyno ar gampysau Bangor, Dolgellau, Llangefni a'r Rhyl.
Ydych chi'n awyddus i ymestyn eich gorwelion drwy barhau i astudio? Mae amser o hyd i chi wneud cais am y rhaglenni gradd sy'n dechrau fis Medi. I weld ein dewis o gyrsiau, ewch i'n gwefan: https://www.gllm.ac.uk/cy/cour..., neu anfonwch neges e-bost i graddau@gllm.ac.uk i drafod gyda chynghorydd.