Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dathlu canlyniadau rhagorol yng Ngrŵp Llandrillo Menai

Mae 2,800 o ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai'n dathlu heddiw wedi iddyn nhw gael canlyniadau rhagorol yn eu harholiadau Safon Uwch a'u cyrsiau galwedigaethol, ac wrth i nifer y rhai a gafodd y graddau uchaf gynyddu unwaith eto eleni.

Roedd cyfradd lwyddo dysgwyr Safon Uwch y Grŵp cyfan yn 99.5%, a llwyddodd 81% i ennill graddau A* i C. Roedd 25% o'r holl raddau Safon Uwch yn A* neu A!

Roedd canlyniadau'r dysgwyr galwedigaethol yn rhagorol hefyd, gyda 24% ohonynt yn ennill y graddau uchaf posibl sef Rhagoriaeth neu Ragoriaeth*.

Bydd y graddau gwych hyn yn galluogi dysgwyr i astudio mewn prifysgolion blaenllaw ledled Prydain, gan gynnwys prifysgolion sy'n perthyn i Grŵp Russell fel Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Birmingham, Prifysgol Leeds, Prifysgol Lerpwl, Prifysgol Manceinion, Prifysgol Nottingham, Prifysgol Sheffield a Phrifysgol Warwick.

Mae'r Grŵp hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y dysgwyr sy'n dewis astudio ym mhrifysgolion Cymru, yn ogystal â'r rhai sy'n aros i ddilyn cyrsiau addysg uwch yn y coleg, yn mynd ymlaen i wneud prentisiaeth neu'n dechrau gweithio.

Meddai Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai:

"Rydyn ni'n hynod falch o'r hyn mae ein dysgwyr wedi'i gyflawni. Yn yr arholiadau Safon Uwch, gwelwyd cynnydd unwaith eto yn nifer y graddau uchaf, ac ar ben hynny roedd canlyniadau ein dysgwyr galwedigaethol yn gryf iawn hefyd. Dyma gamp anhygoel sy'n adlewyrchu gwaith caled ac uchelgais dysgwyr a staff y Grŵp."

"Ond mae mwy i'r diwrnod na dim ond graddau. Mae'r canlyniadau'n agor drysau i brifysgolion, prentisiaethau gradd, cyflogaeth, a chyrsiau pellach yma yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

"Gyda chynnydd yn nifer y dysgwyr sy'n dewis astudio ym mhrifysgolion Cymru, a XX dysgwr wedi sicrhau lle i astudio mewn prifysgolion sy'n perthyn i Grŵp Russell, mae'n wych gweld ein dysgwyr yn camu'n hyderus i'r dyfodol.

"Allai dim o hyn ddigwydd heb addysg a chefnogaeth o'r radd flaenaf. Hoffwn ddiolch i'r staff am yr ymroddiad maen nhw'n ei ddangos i'r dysgwyr bob dydd, ac i'r rhieni a'r gwarcheidwaid am roi cefnogaeth mor allweddol iddyn nhw.

"Rydyn ni'n awyddus i adeiladu ar y llwyddiant hwn a sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn cael y gefnogaeth, y cyfleoedd a'r anogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i wireddu eu potensial yn llawn.

"Llongyfarchiadau i'r holl ddysgwyr sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw. Beth bynnag fyddan nhw'n ei wneud nesaf, fe ddylen nhw fod yn andros o falch o'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni."

Llwyddiant yn yr Arholiadau Safon Uwch

Ar gampws y Rhyl, cafodd Fathima Fairoos A* mewn Bioleg, A mewn Cemeg, a B mewn Ffiseg. Ei bwriad yw astudio Meddygaeth. Meddai Fathima:

"Roedd Chweched y Rhyl yn teimlo fel bod yn rhan o deulu, gyda phawb yn cefnogi ei gilydd bob dydd. Rydw i wedi cael cefnogaeth ac anogaeth arbennig gan y tiwtoriaid drwy gydol fy amser yma ac maen nhw bob amser wedi fy ngwthio i wneud fy ngorau."

Cafodd Taylor Thomas oedd yn astudio ar gampws Dolgellau A* mewn Mathemateg, Ffiseg a Mathemateg Bellach. Bydd Taylor, sy'n ddeunaw oed heddiw, yn mynd i Brifysgol Bryste i astudio Mathemateg. Meddai Taylor:

"Dyma'r anrheg pen-blwydd 18 oed gorau erioed. Hoffwn ddiolch i bawb yn y coleg am eu cefnogaeth a'u hanogaeth."

Llwyddiant mewn Cymwysterau Lefel 3

Dilynodd Gwenllian Davies gwrs Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth ar gampws Glynllifon gan gael tair gradd Rhagoriaeth*. Meddai:

"Rydw i wedi mwynau'r cwrs yn fawr. Roedd o'r hyn ro'n i wedi'i ddisgwyl ac yn llawer mwy na hynny hefyd. Mi gawson ni fynd ar deithiau gwych, a chael profiadau anhygoel. Ar ôl gorffen yma, dw i'n mynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio Gwyddor Anifeiliaid am dair blynedd, ac yna'n gobeithio teithio'r byd."

Mae gan Jac Williams a ddilynodd gwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ar gampws Llandrillo-yn-Rhos ddau reswm dros ddathlu: yn ogystal â chael un gradd Rhagoriaeth* a dwy radd Rhagoriaeth i fynd i astudio Plismona ym Mhrifysgol Bangor, mae wedi cael cynnig contract dwy flynedd gyda RGC! Meddai:

"Penderfynu dod i'r coleg ydi un o'r dewisiadau gorau dw i wedi'i wneud erioed. Dw i wedi bod yn hapus iawn yma o'r dechrau un."

Cafodd Jess Clary, a ddilynodd gwrs Gwyddor Gymhwysol ar gampws Llangefni, dair gradd Rhagoriaeth. Mae Jess ar ei ffordd i Brifysgol Bangor i astudio Sŵoleg ac mae ganddi air o gyngor i'r myfyrwyr newydd fydd yn dechrau yn y coleg fis Medi:

"Pan fydd pethau'n edrych yn anodd, daliwch ati."

Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan lwyddiant ein dysgwyr? Mae yna amser o hyd i chi sicrhau eich lle yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Beth bynnag rydych chi am ei wneud, gall ein tîm roi cyngor ar bynciau Safon Uwch, cyrsiau galwedigaethol, prentisiaethau ac addysg uwch, gan eich helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.

Cysylltwch â ni heddiw neu dewch draw i un o'n campysau i gael gwybod rhagor.