Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dathlu canlyniadau rhagorol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor

Mae dysgwyr Coleg Meirion-Dwyfor yn dathlu heddiw wedi iddyn nhw gael canlyniadau rhagorol yn eu harholiadau Safon Uwch a'u cyrsiau galwedigaethol, ac wrth i nifer y rhai a gafodd y graddau uchaf gynyddu unwaith eto eleni.

Roedd cyfradd lwyddo dysgwyr Safon Uwch campysau'r coleg yn Nolgellau a Phwllheli yn 100%, a llwyddodd bron i 85% i ennill graddau A* i C. Yn wir, roedd 27% o'r canlyniadau yn raddau A* ac A. Roedd canlyniadau'r dysgwyr galwedigaethol yn rhagorol hefyd, gyda 30% ohonynt yn ennill y graddau uchaf posibl sef Rhagoriaeth neu Ragoriaeth*.

Bydd y graddau gwych hyn yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen yn hyderus, boed hynny'n uniongyrchol i fyd gwaith neu i brentisiaeth neu gwrs prifysgol. Bydd nifer helaeth yn mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion blaenllaw, gan gynnwys prifysgolion sy'n perthyn i Grŵp Russell. Mae llawer o'r dysgwyr wedi dewis parhau â'u hastudiaethau ym Mangor, Wrecsam, Aberystwyth a phrifysgolion eraill yng Nghymru, a bydd rhai yn aros i ddilyn cyrsiau addysg uwch yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

Meddai Dr Siôn Peters-Flynn, Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor sy'n rhan o golegau Grŵp Llandrillo Menai: "Mae'n wych gweld gwaith caled ein dysgwyr dros y ddwy flynedd diwethaf yn dwyn ffrwyth. Braf iawn hefyd yw gweld bod llawer ohonynt wedi cael y canlyniadau gorau posibl yn eu harholiadau Safon Uwch a'u cymwysterau galwedigaethol.

"Mae 58% o'r canlyniadau Safon Uwch yn radd B neu uwch, sy'n uwch na'r cyfartaledd yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig. Mae 29% o'r canlyniadau galwedigaethol yn raddau Rhagoriaeth* a Rhagoriaeth. Rwy'n siŵr y bydd ein dysgwyr yn ymuno â mi i ddiolch i'r staff am y gefnogaeth a'r arweiniad sydd wedi eu helpu i gael canlyniadau mor gampus.

"Rydyn ni'n dymuno'n dda i'r dysgwyr wrth iddyn nhw gamu ymlaen yn hyderus i'r dyfodol, boed hynny i addysg uwch, prentisiaeth neu gyflogaeth lawn amser. Ar yr un pryd, rydyn ni'n edrych ymlaen dros y dyddiau nesaf at groesawu'r criw nesaf o ddysgwyr brwd."

Llwyddiant yn yr Arholiadau Safon Uwch

Cafodd Taylor Thomas oedd yn astudio ar gampws Dolgellau A* mewn Mathemateg, Ffiseg a Mathemateg Bellach. Bydd Taylor, sy'n ddeunaw oed heddiw, yn mynd i Brifysgol Bryste i astudio Mathemateg. Meddai Taylor:

"Dyma'r anrheg pen-blwydd 18 oed gorau erioed. Hoffwn ddiolch i bawb yn y coleg am eu cefnogaeth a'u hanogaeth."

Ar gampws Dolgellau hefyd cafodd Brendan Hansford A yng nghymhwyster Bagloriaeth Cymru, A mewn Mathemateg, B mewn Ffiseg a B mewn Cemeg. Mae Brendan ar ei ffordd i Brifysgol Caerwysg i astudio peirianneg.

Ar gampws Pwllheli, cafodd Mei Madryn Roberts A* mewn Cymraeg, A mewn Cymdeithaseg ac A mewn Seicoleg. Mae Mei, cyn-ddisgybl yn Ysgol Botwnnog, ar ei ffordd i Brifysgol Caerdydd i astudio Cymraeg. Meddai Mei:

"Mi ges i flas arbennig ar y cwrs Safon Uwch Cymraeg gan ei fod mor amrywiol. Yn lwcus iawn mi ges i fynd i weld cynhyrchiad o Un Nos Ola Leuad yn y theatr ac mi ddaeth hynny â'r llyfr yn wirioneddol fyw i mi."

Cafodd Dafydd Gwyn, un arall o ddysgwyr campws Pwllheli a chyn-ddisgybl yn Ysgol Eifionydd, A* mewn Cemeg, A mewn Mathemateg ac C mewn Bioleg. Meddai Dafydd:

"Dw i wedi cael amser gwych yn y coleg, ond yn barod rŵan i symud ymlaen i Brifysgol Caerdydd i astudio Cemeg Feddyginiaethol. "

Llwyddiant mewn Cymwysterau Lefel 3

Cafodd Osian James, cyn-ddisgybl yn Ysgol Glan y Môr, dair gradd Rhagoriaeth* yn ei gwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon. Astudiodd Osian ar gampws Pwllheli a bydd yn mynd ymlaen i Brifysgol Caerdydd i astudio Hyfforddi Chwaraeon.

Dilynodd Aimee Plester (A* A* C) a Seren Wyn Jones (A* A C) ill dwy'r cwrs Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal ar gampws Dolgellau ac mae'r ddwy hefyd ar eu ffordd i Brifysgol Bangor i wneud cwrs Nyrsio.

Yn Nolgellau hefyd cafodd Eilyr Williams radd Rhagoriaeth yn ei gwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Peirianneg.

Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan lwyddiant ein dysgwyr? Mae yna amser o hyd i chi sicrhau eich lle yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Beth bynnag rydych chi am ei wneud, gall ein tîm roi cyngor ar bynciau Safon Uwch, cyrsiau galwedigaethol, prentisiaethau ac addysg uwch, gan eich helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.

Cysylltwch â ni heddiw neu dewch draw i un o'n campysau i gael gwybod rhagor.