Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dathlu canlyniadau rhagorol yng Ngholeg Llandrillo

Mae cannoedd o ddysgwyr o Goleg Llandrillo yn dathlu canlyniadau Safon Uwch a chanlyniadau cyrsiau galwedigaethol, wrth i nifer y rhai a gafodd y graddau uchaf gynyddu unwaith eto eleni.

Roedd cyfradd lwyddo dysgwyr Safon Uwch y Coleg ar gampysau Llandrillo-yn-Rhos a'r Rhyl yn 98.5%, a llwyddodd 80% i ennill graddau A* i C. ⁠Llwyddodd bron i 20% o'r holl ddysgwyr i gael gradd A* neu A.

Roedd canlyniadau'r dysgwyr galwedigaethol yn rhagorol hefyd, gyda 20% ohonynt yn ennill y graddau uchaf posibl sef Rhagoriaeth* neu Ragoriaeth.

Bydd y graddau gwych hyn yn galluogi dysgwyr i astudio mewn prifysgolion blaenllaw ledled Prydain, gan gynnwys prifysgolion sy'n perthyn i Grŵp Russell fel Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Birmingham, Prifysgol Leeds, Prifysgol Lerpwl, Prifysgol Manceinion, Prifysgol Nottingham, Prifysgol Sheffield a Phrifysgol Warwick.

Mae'r Coleg hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y dysgwyr sy'n dewis astudio ym mhrifysgolion Cymru, yn ogystal â'r rhai sy'n aros i ddilyn cyrsiau addysg uwch yn y coleg, yn mynd ymlaen i wneud prentisiaeth neu'n dechrau gweithio.

Meddai Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo: “Mae dysgwyr Coleg Llandrillo wedi llwyddo i gael canlyniadau eithriadol unwaith eto eleni, gyda nifer y graddau A*-A, graddau A*-E a phroffiliau Rhagoriaeth yn cynyddu o’i gymharu â’r llynedd.

“Dw i’n hynod falch o bob dysgwr am eu gwaith caled, yn enwedig o ystyried yr amgylchiadau heriol y maent wedi’u hwynebu. Dw i'r un mor falch o'n staff ymroddedig, mae eu cefnogaeth barhaus wedi helpu ein dysgwyr i wireddu eu potensial, waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau.”

Llwyddiannau'r dysgwyr Safon Uwch:

Ar gampws y Rhyl, cafodd Fathima Fairoos A* mewn Bioleg, A mewn Cemeg, a B mewn Ffiseg. Ei bwriad yw astudio Meddygaeth. Meddai Fathima:

"Roedd Chweched y Rhyl yn teimlo fel bod yn rhan o deulu, gyda phawb yn cefnogi ei gilydd bob dydd. Dw i wedi cael cefnogaeth ac anogaeth arbennig gan y tiwtoriaid drwy gydol fy amser yma ac maen nhw bob amser wedi fy ngwthio i wneud fy ngorau."

Hefyd o gampws y Rhyl, llwyddodd Joseph Steel i gael graddau AAB mewn Cemeg, Daearyddiaeth a Mathemateg. Mae Joseph am astudio BA mewn Cysylltiadau Rhyngwladol yn Llundain, ac meddai:

“Roedd gwneud fy Lefel A yng Ngholeg Llandrillo yn brofiad bythgofiadwy. Dw i wedi cael lot o hwyl yn astudio gyda thiwtoriaid gwych a chyfoedion anhygoel, sydd i gyd wedi fy helpu gyda fy astudiaethau a fy natblygiad.”

Astudiodd Maya Oakes ar gampws Llandrillo-yn-Rhos a chafodd A mewn Celf, B mewn Ffotograffiaeth ac A mewn Graffeg. Bydd Maya yn mynd i Brifysgol Salford i astudio Dylunio Graffig. Dywedodd Maya:

“Dw i wedi gwneud rhai o fy ffrindiau gorau yn y coleg ac wedi datblygu llawer fel person, gan fagu hyder yr un pryd. Roedd fy athrawon yn anhygoel ac fe wnaethant fy nghefnogi drwy gydol fy amser yn y coleg. Wrth edrych yn ôl ar fy nghyfnod yng Ngholeg Llandrillo, roedd astudio yma yn un o fy mhenderfyniadau gorau.”

Llwyddiannau dysgwyr y cyrsiau galwedigaethol Lefel 3:

Mae gan Jac Williams a ddilynodd gwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ar gampws Llandrillo-yn-Rhos ddau reswm dros ddathlu: yn ogystal â chael un radd Rhagoriaeth* a dwy radd Rhagoriaeth i fynd i astudio Plismona ym Mhrifysgol Bangor, mae wedi cael cynnig contract dwy flynedd gyda RGC! Dywedodd:

"Penderfynu dod i Goleg Llandrillo ydi un o'r dewisiadau gorau dw i wedi'i wneud erioed. Dw i wedi bod yn hapus iawn yma o'r dechrau un."

Cafodd Evie Walliker, o gampws Llandrillo-yn-Rhos hefyd, un radd Rhagoriaeth* a dwy radd Rhagoriaeth yn ei Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Busnes. Ers gadael y coleg, mae Evie wedi llwyddo i gael swydd llawn amser mewn gweinyddu:

“Dw i’n teimlo’n barod iawn ar gyfer y bennod nesaf, diolch i bopeth dw i wedi ei ddysgu yn ystod fy astudiaethau,” meddai Evie. “Dw i wedi mwynhau fy nghyfnod yn astudio yng Ngholeg Llandrillo ac mae wedi bod yn werthfawr

Mae'r cwrs wedi fy helpu i fagu hyder, datblygu sgiliau ymarferol, a pharatoi ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol. Dw i'n ddiolchgar am y gefnogaeth a'r arweiniad a ges i gan fy nhiwtoriaid,” ychwanegodd.

Cafodd Zack Arnold, myfyriwr o gampws y Rhyl, un radd Rhagoriaeth* a dwy radd Rhagoriaeth yn ei Ddiploma Estynedig Lefel 3 mewn Peirianneg. Mae Jack yn bwriadu symud ymlaen i Brentisiaeth Gradd. Canmolodd Jack staff y coleg, “Fe wnaethon nhw fy ngwthio i wneud pethau newydd a chystadlu mewn cystadlaethau.” Yn ystod ei gyfnod ar gampws y Rhyl, cystadlodd Zack yng nghystadleuaeth Ysbrydoli Sgiliau Cymru a Rownd Derfynol Genedlaethol WorldSkills 2025. Ychwanegodd Jack:

“Penderfynais mai’r coleg oedd y lle gorau i mi oherwydd y profiad ymarferol y mae’n ei gynnig. Rydych chi'n ennill profiad mewn llawer o wahanol feysydd peirianneg, yn hytrach na chanolbwyntio ar ddim ond un. Rydych chi'n cael dewis beth rydach chi'n ei fwynhau, ac roedd y llwybrau gyrfa gwahanol yn caniatáu i mi ddewis un ro'n i'n ei fwynhau'n arw, ac wedyn ro'n i'n gallu canolbwyntio ar y sgiliau hynny yn fy amser rhydd hefyd.”

⁠Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan lwyddiant ein dysgwyr? Mae yna amser o hyd i chi sicrhau eich lle yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Beth bynnag rydych chi am ei wneud, gall ein tîm roi cyngor ar bynciau Safon Uwch, cyrsiau galwedigaethol, prentisiaethau ac addysg uwch, gan eich helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.

Cysylltwch â ni heddiw neu dewch draw i un o'n campysau i gael gwybod rhagor.