Y flwyddyn orau erioed i Grŵp Llandrillo Menai yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru
Enillodd dysgwyr a phrentisiaid Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor, Coleg Llandrillo a Busnes@LlandrilloMenai gyfanswm anhygoel o 50 o fedalau yn seremoni wobrwyo Cystadleuaeth Sgiliau Cymru neithiwr.
Roedd hyn yn fwy nag unrhyw goleg arall yng Nghymru, ac yn fwy nag y mae’r Grŵp wedi’i ennill erioed o’r blaen.
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo neithiwr (nos Fercher 18 Mawrth) ym Mhafiliwn Y Rhyl, ac ymunodd teuluoedd a darlithwyr â'r cystadleuwyr wrth iddynt gael eu cydnabod am eu cyflawniadau a’u gwaith caled.
Enillodd y dysgwyr llwyddiannus 19 medal aur mewn gwahanol gategorïau gan gynnwys Cynhyrchu Cyfryngau Digidol, Roboteg Ddiwydiannol, Plymio a Gwresogi a Datblygu Gwefannau.
Cipiodd dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai 6 medal arian yn ogystal, mewn categorïau yn amrywio o Gyfrifeg ac Awtomatiaeth i Beirianneg Fecanyddol CAD.
Enillodd y criw llwyddiannus 25 medal efydd hefyd, mewn categorïau o bob math gan gynnwys Celfyddydau Perfformio, Plastro, Ynni Adnewyddadwy a Thrwsio Cyrff Cerbydau.
Cynhaliwyd nifer o rowndiau terfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ar gampysau Grŵp Llandrillo Menai, a daeth cystadleuwyr o bob rhan o’r wlad ynghyd i gymryd rhan yn yr heriau a’r tasgau.
Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw codi proffil sgiliau yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid yng Nghymru herio, meincnodi a gwella eu sgiliau trwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws ystod o sectorau.
Rhwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr sy'n rhedeg y prosiect, mae wedi'i ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cynnwys cyfres o gystadlaethau sgiliau lleol, sy'n cyd-fynd â WorldSkills ac anghenion economi Cymru.
Meddai Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai:
"Rydym yn hynod falch o'n dysgwyr a'n prentisiaid am arddangos eu sgiliau ar lefel mor uchel ac am eu llwyddiant.
“Nid yn unig mae'r llwyddiant hwn yn dysteb i ymroddiad a thalent ein dysgwyr, mae hefyd yn dysteb i gefnogaeth, cyngor ac arbenigedd ein tiwtoriaid, aseswyr a phartneriaid yn y diwydiant, sy'n chwarae rôl hanfodol wrth eu paratoi i gyflawni hyd eithaf eu gallu.
Mae'r cystadlaethau hyn yn cyflawni mwy na rhannu gwobrau, maen nhw'n meithrin hyder ac uchelgais ac yn paratoi ein dysgwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus mewn nifer o ddiwydiannau gwahanol.
Y sgiliau a welwyd ar waith gan ein myfyrwyr talentog ydy'r union sgiliau y bydd galw mawr amdanynt yn yr ardal dros y ddegawd nesaf, wrth i brosiectau seilwaith sylweddol megis Porthladd Rhydd Ynys Môn, Ardal Twf AI, Awel y Môr a Wylfa ddatblygu ymhellach.
Rydym yn edrych ymlaen at weld nifer o'n dysgwyr llwyddiannus yn symud ymlaen i'r cam nesaf ac yn parhau i gynrychioli Grŵp Llandrillo Menai a Chymru hyd yn oed ar y llwyfannau mawr yn y dyfodol."
I gael rhagor o wybodaeth am Gystadleuaeth Sgiliau Cymru ac i gael cyfle i gynrychioli eich gwlad, ewch i https://inspiringskills.gov.wales/