Biniau yn Blastig Newydd
Sut ddaeth hen finiau Grŵp Llandrillo Menai yn adnoddau newydd.
Pan gyrhaeddodd cannoedd o finiau ailgylchu plastig campysau Grŵp Llandrillo Menai ddiwedd eu hoes, doedd eu taflu i safleoedd tirlenwi ddim yn opsiwn. Ni ellid ailddefnyddio nag ail-bwrpasu’r biniau a oedd wedi'u difrodi, ond roedd y plastig ei hun yn llawer rhy werthfawr i'w wastraffu.
Er mwyn dod dros y broblem, aeth y Grŵp i bartneriaeth a chwmni Parry & Evans, arbenigwyr ailgylchu lleol o Ogledd Cymru. Rhoddodd hyn gyfle i'r biniau gael dechrau newydd, a hynny wrth gadw'r milltiroedd cludiant yn isel a chefnogi'r economi leol ar yr un pryd.
Y daith o'r campysau i fod yn gynnyrch newydd
Casglwyd yr hen finiau ac aethpwyd â nhw i safle cwmni Parry & Evans yng Nglannau Dyfrdwy. Aeth y biniau drwy brosesau ailgylchu arbenigol lle cawsant eu rhwygo'n fân a'u glanhau, ac yna eu prosesu'n belenni plastig crai o ansawdd uchel. Yna, gall y pelenni hyn gael eu hail gyflwyno yn uniongyrchol i'r farchnad gweithgynhyrchu plastig i'w troi'n gynhyrchion newydd sbon.
Drwy ddewis partner lleol, llwyddodd y Grŵp i symleiddio proses heriol, cadw allyriadau trafnidiaeth i lawr, a rhoi'r economi gylchol ar waith. Mae hyn yn cadw deunyddiau'n gweithio yn hytrach na'u bod yn y ddaear.
Amgylchedd gwyrddach ar y campws
Dywedodd Sharon Bowker, Uwch Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Grŵp Llandrillo Menai:
“Mae rheoli campysau’n dod â heriau gwastraff yn naturiol, ond mae dod o hyd i atebion cynaliadwy wrth wraidd sut rydym ni'n gweithredu. Trodd ein partneriaeth â Parry & Evans yr her fawr o waredu gwastraff yn stori o lwyddiant amgylcheddol go iawn. Drwy ailgylchu’n lleol a throi hen offer yn ddeunydd crai, rydym yn cymryd cam ymarferol arall tuag at ein nodau cynaliadwyedd ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ledled Gogledd Cymru.”
Dim ond un o nifer o ffyrdd y mae Grŵp Llandrillo Menai yn cyflawni ei Gynllun Strategol yw'r prosiect hwn. Drwy ein hymrwymiad i 'Ein Rôl mewn Cymru Gynaliadwy,' mae'r Grŵp yn parhau i ddangos sut y gall penderfyniadau bob dydd ym maes caffael a gwastraff greu dyfodol mwy gwyrdd i'n campysau a'u cymunedau lleol.