Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Anrhydeddu Rebecca Day gyda Medal Arian gan Gwmni’r Brethynwyr

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn falch o ddathlu llwyddiant Rebecca Day, aelod o staff sydd wedi derbyn Medal Arian gan Gwmni’r Brethynwyr am ei hymchwil arloesol ar ddwyieithrwydd mewn unigolion sydd â Syndrom Rett.

Mae gan Gwmni’r Brethynwyr, un o Gwmnïau Lifrai hanesyddol Dinas Llundain, gysylltiadau cryf â Phrifysgol Bangor ers dros ganrif. Yn ogystal ag ariannu ysgoloriaethau a phrosiectau PhD, mae Cwmni'r Brethynwyr hefyd yn dyfarnu Medal Arian a Medal Efydd i fyfyrwyr ymchwil rhagorol yn y brifysgol bob blwyddyn.

Mae'r gwobrau clodwiw hyn yn ystyried ansawdd ymchwil ac addysgu’r myfyrwyr a’u gwasanaeth i’r brifysgol a’r gymuned.

Derbyniodd Rebecca Day, Swyddog Addysg Uwch ar gampws Coleg Llandrillo, y Fedal Arian am ei hymchwil arloesol yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ddwyieithrwydd mewn unigolion sydd â syndrom Rett, anhwylder niwrolegol genetig prin.

Rebecca gyda'r Meistr Frethynnwr Patrick Beddows. Llun gan: Prifysgol Bangor

Fel rhan o’i hymchwil, mae Rebecca wedi gwneud gwaith allgymorth gydag elusen RettUK, wedi cydweithio â'r Gymdeithas Ddysgedig, wedi gweithio gyda Senedd Cymru ac wedi ymgysylltu â'r cyfryngau a'r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth a chreu effaith gadarnhaol i bobl sy’n byw â syndrom Rett a chyflyrau datblygiadol eraill.

Meddai Rebecca: "Roedd yn anrhydedd derbyn Medal Arian y Brethynwyr am fy ymchwil ar ddwyieithrwydd yn syndrom Rett a dw i mor ddiolchgar i bawb sydd wedi gwneud y gwaith yn bosibl. Dw i hefyd yn ddiolchgar i Grŵp Llandrillo Menai am fy nghefnogi a rhoi cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith i mi, sy'n caniatáu i mi barhau â fy ymchwil ochr yn ochr â’m swydd i yma."

Ategodd Dr Eirini Sanoudaki, ei goruchwyliwr ym Mhrifysgol Bangor, effaith gwaith Rebecca, gan nodi nad oedd hi erioed wedi gweld ymchwilydd ôl-raddedig yn gwneud "cyfraniad mor eithriadol" drwy ymchwil effeithiol a gwasanaeth i’r gymuned.

Y Meistr Frethynnwr, Patrick Beddows oedd yn cyflwyno’r medalau yn y seremoni eleni, ac fe ganmolodd waith "pwysig" yr enillwyr.

Llongyfarchiadau, Rebecca, ar y gydnabyddiaeth haeddiannol hon!

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Addysg Uwch yng Ngrŵp Llandrillo Menai, ewch i: https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/degrees-higher-education