Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Arhoswch yn lleol, Byddwch yn uchelgeisiol: Stori Amber - Llwyddiant mewn Addysg Uwch

Mae dewis ble i astudio ar ôl y coleg yn benderfyniad mawr, ond i Amber, aros yn lleol ar ei thaith Addysg Uwch (AU) yng Ngholeg Llandrillo oedd y dewis perffaith.

Mae dewis ble i astudio ar ôl y coleg yn benderfyniad mawr, ond i Amber, aros yn lleol ar ei thaith Addysg Uwch (AU) yng Ngholeg Llandrillo oedd y dewis perffaith.

Dechreuodd stori Amber pan gofrestrodd ar gwrs Lefel 3 mewn Datblygu Gemau ar ôl gadael yr ysgol.

Gan weithio ei ffordd trwy'r lefelau, mae hi bellach yn agos at gwblhau ail flwyddyn Gradd Sylfaen mewn Celf 3D a Datblygu Gemau, gan greu dyfodol cyffrous yn y diwydiant gemau.

Mae ei phrofiad yn dangos pa mor werthfawr y gall astudio'n agosach at adref fod, gyda'r gefnogaeth a'r hyblygrwydd sy'n dod o gwrs AU mewn coleg.

“Dewisais astudio yma oherwydd bod y tiwtoriaid yn adnabod fy nghryfderau ac yn gwybod sut i fy nghefnogi,” meddai.

Un o'r manteision mwyaf i Amber yw'r amrywiaeth o sgiliau y mae hi wedi gallu eu datblygu.

O godio, lluniadu, modelu 3D, goleuo i animeiddio, "Mae mor amrywiol," meddai Amber.

"Rydych chi'n meithrin cymaint o sgiliau gwahanol sy’n rhoi mwy o gyfleoedd i chi, yn hytrach na chanolbwyntio ar un peth fel sy’n digwydd weithiau mewn prifysgol draddodiadol."

Mae hi wedi gallu dysgu am wahanol feysydd fel dylunio rhyngwyneb y defnyddiwr, rhaglennu a datblygu creadigol - gan ei helpu i ddarganfod ble mae ei chryfderau a'i diddordebau.

Roedd Amber hefyd yn teimlo bod strwythur y dysgu yn fantais fawr. Gydag amserlen o “ddysgu mewn bloc”, mae gwersi’n cael eu grwpio gyda’i gilydd, gan leihau teithio diangen a helpu myfyrwyr i wneud y gorau o’u hamser.

Mae'r gefnogaeth gan diwtoriaid wedi bod yr un mor bwysig, tiwtoriaid sydd eisoes yn deall galluoedd y myfyrwyr ac sy’n gwybod sut i'w helpu i symud ymlaen. Mae'r dull personol hwn yn rhywbeth sy'n gwneud astudio AU yn y coleg yn brofiad unigryw a gwerth chweil.

Nesaf, mae Amber wedi rhoi ei bryd ar yrfa ym maes rhyngwyneb y defnyddiwr a modelu 3D, ac mae ganddi neges i ferched eraill sy'n ystyried dilyn ôl ei throed.

“Efallai ei fod yn ymddangos fel diwydiant sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion, ond mae mwy a mwy o ferched yn y maes,” meddai. “Pam na ddylai rhywun fel ni fod yn rhan o’r prosiectau hyn ac yn gwneud enw i ni ein hunain?”

Mae taith Amber yn enghraifft wych o sut y gall dysgu oedolion a chyrsiau AU yn y coleg agor drysau, gan gynnig sgiliau ymarferol, addysgu cefnogol a llwybrau clir i yrfaoedd yn y diwydiant.

Os ydych chi'n ystyried eich cam nesaf, boed hynny'n dod o hyd i'ch cwrs nesaf gyda ni, dychwelyd i addysg neu ddechrau gradd yn lleol, rŵan yw'r amser perffaith i weld beth sy'n bosibl.

I weld yr ystod o gyrsiau AU sydd ar gael ar draws Grŵp Llandrillo Menai, ewch i: https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/degrees-higher-education

Os ydych chi wedi bod allan o addysg ers tro ac yn poeni nad yw AU yn addas i chi, mae Coleg Llandrillo yn cynnal cwrs blasu sgiliau academaidd AM DDIM i'ch helpu i baratoi ar gyfer y cam ymlaen i AU. Mae angen i chi fod dros 21 oed a heb gymhwyster Lefel 4 eisoes i gymryd rhan.

Gallwch ymuno â'r cwrs ar ein campws yn y Rhyl ar y 1 a'r 2 Mehefin neu yn Llandrillo-yn-Rhos ar y 3 a'r 4 Mehefin. Bydd y cwrs deuddydd hwn, o 9am-3pm, yn eich helpu i fagu hyder ac yn edrych ar sgiliau allweddol fel llythrennedd digidol, ymchwil, cyfeirnodi, rhifedd a llythrennedd.

Oes gennych chi ddiddordeb? Anfonwch e-bost at Rebecca Day, y Swyddog AU, day2r@gllm.ac.uk i gofrestru neu gael rhagor o wybodaeth.