Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Alys a Chloe a'u cyfnod yng Nghaergrawnt gyda Rhwydwaith Seren

Yn ddiweddar, mynychodd Alys Atkin a Chloe Zarate, myfyrwyr Safon Uwch o Goleg Meirion-Dwyfor, ysgol breswyl nodedig ym Mhrifysgol Caergrawnt gyda Rhwydwaith Seren.

“Roedd yn brofiad anhygoel… mi ges i f'ysbrydoli i fynd ati i geisio cyflawni'r nod a dweud fy mod i'n astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt," meddai Chloe.

Mae'r cyrsiau preswyl hyn yn rhai anodd iawn i gael lle arnynt, a dim ond myfyrwyr sy'n anelu at gael y graddau uchaf sy'n cymryd rhan.

Dilynodd Alys gwrs hanes yn ystod ei chyfnod yng Nghaergrawnt.
Dim ond rhwng 5 a 10 myfyriwr oedd ar bob cwrs, "Mi gawson ni lawer o sylw gan y darlithwyr", dywedodd Alys, sy'n dilyn cyrsiau Lefel A Mathemateg, Mathemateg bellach, Cemeg a Hanes yng Ngholeg Meirion Dwyfor.

"Rhan gorau'r daith i mi oedd cael blas ar fywyd mewn prifysgol nodedig a chael cyfle i grwydro yn y ddinas," meddai. Mae Rhwydwaith Seren, menter a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, yn gweithio gyda'r myfyrwyr mwyaf disglair ym maes addysg bellach ac ysgolion ledled Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu potensial academaidd, ac yn eu cynorthwyo i ymgeisio i fynd i brifysgolion blaenllaw yng Nghymru, y DU neu dramor.

Dilynodd Chloe, 16 oed, y cwrs Gwyddorau Dynol, Cymdeithasol a Gwleidyddol yng Nghaergrawnt.

Mae hi'n dilyn cyrsiau lefel A Hanes, Mathemateg a Saesneg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor. Mi wnaeth Chloe fwynhau'r 'llety' a'r 'bwyd' ynghyd ag ymweld â cholegau eraill yn cynnwys Coleg Magdalene a Choleg Caergrawnt.

⁠"Mi aethon ni daith o amgylch y ddinas a champysau colegau eraill, mi welon ni drwy hynny sut mae'r lleoliadau yn cysylltu â'i gilydd," ychwanegodd Chloe.

“Roedd yn brofiad anhygoel… mi ges i f'ysbrydoli i fynd ati i geisio cyflawni'r nod a dweud fy mod i'n astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt," meddai Chloe.

Mae'r dyfodol yn ddisglair i fyfyrwyr Seren. Mae Alys yn gobeithio astudio mathemateg ym mhrifysgol Caeredin. Mae Chloe, sydd ddim yn siŵr pa bwnc y mae hi am ei astudio eto, hefyd yn bwriadu mynd i'r brifysgol ond mae ganddi gynlluniau i gymryd blwyddyn i ffwrdd yn gyntaf i "ddysgu rhagor am y byd".

"Mi fydda i'n gweithio'n galed i gael y graddau gorau posib er mwyn sicrhau bod gen i gymaint o ddewisiadau â phosib yn y dyfodol”, meddai Chloe.

Meddai Fflur Rees Jones, Pennaeth Cynorthwyol Coleg Meirion-Dwyfor: “Llongyfarchiadau mawr i Alys a Chloe ar eu cyflawniadau academaidd gwych hyd yma. Rydym yn siŵr bod pethau gwych i ddod iddynt ac rydym yn ddiolchgar iawn am y cyfleoedd a ddaw i'r myfyrwyr drwy Rwydwaith Seren.”

I ddysgu rhagor am gyrsiau lefel A, Grŵp Llandrillo Menai, ewch i: https://www.gllm.ac.uk/courses...