Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Building Skills, Building Community

Rydym yn taflu goleuni ar bŵer trawsnewidiol cyrsiau rhan-amser Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion. Mae'r myfyrwyr Gwaith Coed er Llesiant yn Porthi Dre, Caernarfon, yn dangos sut y gall dysgu sgil newydd newid bywyd.

Rhoddodd awyrgylch croesawgar y gweithdy Gwaith Coed er Llesiant, gyfle i un grŵp o ddysgwyr ddysgu sgiliau newydd yn ogystal â’u helpu i wella eu llesiant. Tra roeddent yn gweithio ar brosiectau adfer roeddent yn ymestyn eu rhwydweithiau cymdeithasol o fewn y cwrs a thu hwnt.

Wrth siarad am eu profiadau ar y cwrs, y geiriau a gododd dro ar ôl tro oedd “hyder”, “cynwysedig” a “chefnogol”.

Roedd Patrick yn cael trafferth gadael ei dŷ, ond o fewn tri mis, mae wedi datblygu sgiliau newydd mewn gwaith coed, wedi ymuno â chwrs coginio, ac yn gwneud mwy o wirfoddoli. Dywedodd Patrick: “Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd iawn i mi, ac mae mynychu’r sesiynau hyn a gwneud gwaith gwirfoddol wedi fy helpu i ddod drwyddi. Dwi'n teimlo'n fwy hyderus, a dwi'n hapus i allu helpu pobl eraill."

Mae'r tiwtoriaid yn teilwra'r sesiynau ar gyfer pob unigolyn fel y gallant ddysgu ar eu cyflymder eu hunain ond hefyd gael cyfleoedd i herio eu hunain. Roedd Alwyn yn treulio llawer o'i amser adref ar ei ben ei hun ar ôl datblygu epilepsi bron i flwyddyn yn ôl. Meddyliai na fyddai'n gallu mwynhau gwneud pethau yn yr awyr agored mwyach.

Drwy addasu cyflymder y sesiynau ar gyfer canolbwyntio ac egni Alwyn, a sicrhau bod seibiannau ychwanegol pan fo angen, daeth Alwyn yn aelod pwysig o’r grŵp. Yn fuan, roedd yn ymgymryd â thasgau mwy heriol ac yn cynnig helpu eraill. “Mae’r grŵp yma wedi fy helpu i deimlo’n rhan o bethau eto,” meddai.

O ganlyniad i'r cwrs sylweddolodd Evan y gall barhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau ar ôl dioddef o ataliad ar y galon a strôc, a effeithiodd ar ei olwg. Yn dilyn misoedd o deimlo wedi ei ynysu, roedd Evan yn bryderus ynglŷn â dod i'r sesiynau i ddechrau, ond mae bellach yn mynychu'r grŵp yn rheolaidd ac mae hyd yn oed yn cynghori ac yn cefnogi ei gyd-fyfyrwyr. “Y peth dw i'n fwyaf balch ohono ydy bod yn rhan o grŵp cyfeillgar sy’n helpu ac yn cefnogi ei gilydd,” meddai. “Drwy adfer hen ddodrefn a meinciau, dw i'n teimlo fy mod i'n rhoi bywyd newydd iddyn nhw,” ychwanegodd Evan.

Gall dysgu fel oedolyn agor drysau i fentrau newydd hefyd. Ymunodd Tina â'r cwrs Gwaith Coed er Llesiant yn dilyn cyfnod hir o adfer ar ôl anaf i'r ymennydd. Ar y dechrau roedd bod gyda phobl anghyfarwydd yn heriol, ond mae Tina bellach wedi cwblhau nifer o brosiectau adfer ac adeiladu ac wedi blodeuo’n aelod gwerthfawr a hyderus o’r grŵp.

Er nad oedd ganddi unrhyw brofiad blaenorol yn y pwnc, mae diddordeb Tina mewn gwaith coed yn cynyddu o hyd, ac mae'n rhan annatod o'i llesiant. Mae hi'n defnyddio ei thalentau greu eitemau defnyddiol iddi hi ei hun, ei ffrindiau a'i theulu.

Wrth wneud y cwrs, magodd Jac ddigon o hyder i ddechrau gwneud ceisiadau am waith â thâl, ac mae bellach wedi sicrhau ei gyfweliad cyntaf am swydd. Er bod gan Jac amhariad ar ei symudedd mae'n gallu cymryd rhan ym mhob un o'r prosiectau oherwydd y gweithle hygyrch lle mae'n bosibl eistedd i weithio.

Mae profiadau ein myfyrwyr Gwaith Coed yn dangos bod addysg oedolion yng Ngrŵp Llandrillo Menai nid yn unig yn cynnig sgiliau newydd a llwybrau i gyflogaeth, ond hefyd gymuned barod o bobl o'r un anian lle gallwch feithrin cysylltiadau.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn un o'n cyrsiau rhan-amser a dechrau eich stori eich hun gyda ni, ewch i'n gwefan i weld yr amrywiaeth o bynciau sydd ar gael: https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/adult-learners-part-time

Mae rhywbeth i bawb yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Beth am roi cynnig ar rywbeth gwahanol… pwy a ŵyr i ble y gall eich arwain!