Yn ddiweddar, cynhaliwyd seremoni wobrwyo ar gampws y coleg ym Mangor i ddathlu llwyddiant yr interniaid a gefnogir.
Archif
Mehefin
Cynhaliodd y coleg ei Seremoni Gwobrwyo Cyflawnwyr blynyddol yn Venue Cymru i gydnabod dysgwyr sydd wedi rhagori yn ystod y flwyddyn academaidd.
Tîm Gofal Anifeiliaid Glynllifon yn dathlu cystadlu am y tro cyntaf gyda'u geifr Boer wedi iddyn nhw oresgyn pob disgwyliad yn Sioe Frenhinol y Tair Sir.
Cynhaliwyd y seremoni ar y campws diwydiannau'r tir i gydnabod cyflawniadau dysgwyr yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26.
Yn ddiweddar, dathlodd Coleg Llandrillo gyflawniadau ei raddedigion Rhaglen Interniaeth a Gefnogir, gan nodi diwedd blwyddyn arall i'r rhaglen arloesol.
Ar ymweliad diweddar â champws Coleg Menai yn Llangefni, cyfarfu cynrychiolwyr o NRS (Nuclear Restoration Services) â'r staff a'r criw presennol o brentisiaid sy'n gweithio ar safleoedd y grŵp yng ngogledd Cymru. Bwriad yr ymweliad oedd cryfhau'r bartneriaeth bresennol rhwng Coleg Menai ac NRS, gan chwilio am gyfleoedd pellach i ddatblygu prentisiaethau a'r gweithlu yn y rhanbarth.
Mae Jodie Roberts, myfyrwraig ar y cwrs Sylfaen mewn Celf a Dylunio wedi creu argraff gyda'i phrosiect blwyddyn olaf, sef morfil dau fetr o hyd o'r enw Humphrey a grëwyd yn gyfan gwbl o blastig wedi'i ailgylchu.
Yn ddiweddar, cododd Cerys Williams £1,400 i elusen iechyd meddwl Mind. Trefnodd y fyfyrwraig sy'n dilyn cwrs Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddigwyddiad codi arian cymunedol yn ei hardal leol, gan gynnwys gemau bingo a raffl.
Mae Coleg Llandrillo yn falch iawn o Celyn a Bethan Edwards, myfyrwyr ar gyrsiau arlwyo. Maen nhw wedi sicrhau'r pedwerydd safle yn gyffredinol, ac wedi ennill gwobr goginio fawreddog yn Rownd Derfynol Genedlaethol Cogydd Bwyd Môr y Flwyddyn.
Cafodd myfyrwyr cwrs Technoleg Cerddoriaeth Lefel 3 Coleg Menai ym Mangor gipolwg ar fywyd yn y diwydiant cerddoriaeth pan wnaethon nhw weithio gyda Celt, y band roc Cymraeg, yn stiwdio gerddoriaeth wych y coleg.
Daeth teulu, ffrindiau, staff y coleg a chydweithwyr o RWE ynghyd i ddathlu llwyddiant saith ar hugain o brentisiaid sy’n dechrau ar eu gyrfaoedd ym maes Tyrbinau Gwynt Alltraeth.
Gosododd Billy Patterson yr her o redeg 5K bob dydd ond gydag ambell i dro annisgwyl ar hyd y ffordd! O redeg ar hyd eiliau archfarchnadoedd a mynd i'r afael â'r stryd fwyaf serth yng Nghymru, i gwblhau 5K mewn bath, mae her Billy wedi codi dros £1,000 i'r elusen hyd yn hyn!
Mae Elain Haf Walker yn fyfyriwr ar y cwrs Celf a Dylunio lefel 3, ac yn ddiweddar arddangosodd ei gwaith yn @109 - gofod creadigol ar Stryd Fawr Bangor.
O berfformiadau theatr gerdd i ysgrifennu creadigol a siarad cyhoeddus, dangosodd ein myfyrwyr eu doniau ar y llwyfan cenedlaethol.
Mae Coleg Llandrillo wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer prosiect sylweddol a ariennir gan Sefydliad Elusennol Albert Gubay. Mae'r Ganolfan Ragoriaeth mewn Adeiladu a Pheirianneg Cerbydau Modur yn ddatblygiad newydd pwysig ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl.
Mae Ruben Schlegel Evans, sy'n fyfyriwr ar gwrs lefel 1 mewn Arlwyo, wedi profi nad oes angen blynyddoedd o brofiad arnoch i sefyll allan yn y gegin.
Mae Ashton Allen, myfyriwr Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth Lefel 3 o Goleg Llandrillo, wedi llwyddo i godi £800 i elusen er cof am ei llysdad, Bayley, a fu farw o gyflwr ar ei ysgyfaint y llynedd.