Blwyddyn newydd, dechrau newydd...

Mae gennym ddewis helaeth o gyrsiau llawn amser a rhan-amser yn dechrau fis Ionawr.

Mae gennym ni rywbeth at ddant pawb – p'un ai a ydych am wella eich sgiliau a'ch gwybodaeth neu am ddod o hyd i hobi newydd.

Student survey stock photo for PR USE THIS

Cyrsiau Llawn Amser

Mae ein rhaglenni llawn amser yn cynnwys prif gymhwyster galwedigaethol ynghyd â sgiliau hanfodol i ddatblygu’ch rhifedd a'ch llythrennedd.

Coleg Llandrillo:

Coleg Menai:

Os ydych yn gwybod pa gwrs llawn amser yr ydych am wneud cais amdano, gallwch wneud cais ar-lein yn uniongyrchol o'r dudalen sy'n rhoi gwybodaeth i chi am y cwrs.

I Stock 1307666905 Large

Cyrsiau Rhan-amser

Mae’n cynnwys gwybodaeth am yr amrediad eang o gyrsiau hamdden, cyrsiau proffesiynol a chyrsiau gwella gyrfa sy’n dechrau fis Medi. Ymhlith y pynciau a gynigir, mae:

  • Celf a Dylunio
  • Busnes a Chyfrifyddu
  • Cyfrifiadura
  • Adeiladu
  • Cwnsela
  • Saesneg a Mathemateg
  • Lletygarwch
  • Ieithoedd
  • Datblygiad Personol
  • A llawer rhagor...

Lawrlwythwch eich copi o'r prosbectws.

Gallech hefyd fod yn gymwys ar gyfer ystod eang o gyrsiau hyfforddi rhan-amser sy'n cael eu hariannu trwy'r rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol. Rhagor o wybodaeth am Gyfrifon Dysgu Personol a gwirio a ydych yn gymwys.

I Stock 875247422

Cyrsiau Addysg Uwch wedi'u Hariannu

Gallech fod yn gymwys i ddilyn cwrs a bydd y ffioedd yn cael eu talu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Mae gennym y modiwlau canlynol yn dechrau ym mis Ionawr:

Busnes a Rheoli

  • Marchnata Digidol – Dechrau dydd Mawrth 17 Ionawr (15 wythnos, 1:30 - 3:15pm)
  • Cyfraith Cyflogaeth i Reolwyr – Dechrau dydd Mawrth 17 Ionawr (15 wythnos, 11:15am – 1:15pm)

Y Celfyddydau Creadigol a'r Celfyddydau Perfformio

  • Actio o flaen Camera – Dechrau dydd Mawrth 17 Ionawr (15 wythnos, 11am – 2pm)
  • Golygu a Ffurfio Dilyniannau (creu Photobooks) – Dechrau dydd Llun 16 Ionawr (15 wythnos, 9 - 11am)

Hyfforddiant Athrawon

  • Paratoi i Addysgu – Dechrau dydd Mawrth 17 Ionawr (10 wythnos, 6 – 9pm)

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost i generalenquiries@gllm.ac.uk

I fod yn gymwys ar gyfer y cyllid, rhaid i chi fodloni un o'r meini prawf isod.

Cyrsiau Addysg Uwch wedi'u Hariannu - Cymhwysedd

Rhaid i fyfyriwr sydd wedi cofrestru ar gwrs perthnasol:

  1. Gael eu hystyried yn gymwys i gael arian yn ôl y diffiniad a ddarperir yn arolwg HESES (Higher Education Students Early Statistics) Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

neu

  1. Fod yn hanu o Gymru (fel arfer byddai darparu cyfeiriad yng Nghymru yn cael ei ystyried yn dystiolaeth ddigonol bod myfyriwr yn hanu o Gymru)

a bodloni un neu ragor o'r amodau canlynol:

  1. Mae'r myfyriwr neu deulu'r myfyriwr yn derbyn:
    1. Credyd Cynhwysol neu'i ragflaenydd
    2. Lwfans Ceisio Gwaith
    3. Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  2. Mae'r myfyriwr yn derbyn:
    1. Lwfans gofalwyr neu gredyd gofalwyr
    2. Premiwm anabledd neu gymorth ariannol arall sy'n gysylltiedig ag anabledd
    3. Budd-dal profedigaeth
  3. Bod o grŵp na ystyrir ei fod yn cael ei gynrychioli'r ddigonol mewn addysg uwch, e.e.:
    1. myfyrwyr o bob oed o'r ddau chwartel isaf ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019
    2. myfyrwyr o bob oed o ardaloedd o'r DU sydd â chyfranogiad isel mewn Addysg Uwch fel y'u mesurir gan gyfran yr oedolion oedran gweithio sydd â chymwysterau AU yng nghyfrifiad 2011 (dau chwartel isaf)
    3. ymadawyr gofal neu fyfyrwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal
    4. myfyrwyr ag anableddau
    5. myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig
    6. myfyrwyr LHDTC+
    7. ffoaduriaid a cheiswyr lloches
    8. myfyrwyr â chyfrifoldebau gofalu
    9. myfyrwyr sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.