Dirprwy Rheolwr Maes Rhaglen – Iechyd a Gofal
Pwrpas y swydd -
Byddwch yn cefnogi ‘r gwaith o gyflwyno cwricwlwm Iechyd a Gofal o ansawdd uchel ym mhob llwybr dysgu rydym ni’n ei gynnig yn y maes - mae hyn yn cynnwys ein darpariaeth Addysg Bellach lawn amser a rhan amser, addysg uwch a’r cwricwlwm 14 - 19. Wedi’ch lleoli ar ein campysau yn Llandrillo-yn-rhos a’r Rhyl, y ddau â chyfleusterau rhagorol, byddwch yn cynorthwyo’r Rheolwr Maes Rhaglen (RMR) i oruchwylio rheolaeth y cwricwlwm a rheolaeth weithredol ar draws sectorau arbenigol fel Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant a Chwnsela. Ym mhob disgyblaeth ceir ystafelloedd sydd wedi’u cynllunio’r bwrpasol ar gyfer addysg arbenigol a dysgu ymarferol, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i ragoriaeth.
Yn y rôl ganolog hon, gyda rheolwr maes rhaglen byddwch yn ysbrydoli ac yn arwain tîm ymroddedig o Ddarlithwyr, Aseswyr, a Thechnegwyr i gyflwyno addysgu deniadol, cynhwysol, a dwyieithog sy'n cefnogi pob dysgwr i gyrraedd ei botensial llawn. Wedi'i wreiddio'n gadarn yn ein gwerthoedd o gydraddoldeb, gonestrwydd, ymddiriedaeth, tegwch, ac uchelgais, byddwch yn meithrin diwylliant o gydweithio a gwelliant parhaus, gan sicrhau bod eich tîm yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi, ei herio, a'i ysgogi i gynnal y safonau uchaf mewn addysg a hyfforddiant galwedigaethol.
Gan adeiladu ar sylfaen gref cyflawniadau'r gorffennol, byddwch yn cefnogi cynllunio a datblygu'r cwricwlwm i sicrhau bod pob rhaglen yn parhau i fod yn gyfredol, yn berthnasol i'r diwydiant, ac wedi'i theilwra i anghenion unigryw pob llwybr—gyda llygad craff ar gynaliadwyedd ariannol i sicrhau llwyddiant hirdymor.
Yn ganolog i'ch rôl fydd cefnogi'r PAM i reoli dangosyddion perfformiad allweddol fel presenoldeb, cadw, a chyflawniad. Byddwch yn harneisio mewnwelediadau sy'n seiliedig ar ddata i wella profiad y dysgwr yn barhaus a meithrin llwyddiant. Ochr yn ochr â chefnogi'r cwricwlwm, byddwch yn cefnogi'r PAM i oruchwylio prosesau sicrhau ansawdd hanfodol—gan gynnwys gwirio mewnol, amserlennu, a chynllunio asesiadau—gan weithio'n agos gyda thimau cymorth i sicrhau bod pob dysgwr yn derbyn yr arweiniad a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Noder os gwelwch yn dda - cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon ddechrau mis Medi 2026
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/291/26
Cyflog
£52,332 - £55,753 flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Y Rhyl
- Llandrillo-yn-Rhos
Hawl gwyliau
- 37 diwrnod y flwyddyn (1 Medi - 31 Awst)
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
10 Awst 2026
12:00 YH
(Ganol dydd)
Lawrlwythiadau
Sut i wneud cais
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.
- Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
- Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw. - Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk
Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.
Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.
Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.
Pam gweithio i ni?
Diffiniadau o sgiliau iaith
Canllawiau i Ddarlithwyr
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Swyddi eraill
Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai.
Achrediadau Cyflogaeth
Datganiad Gwrth-hiliaeth
Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym yn rhoi blaenoriaeth i'r egwyddorion sylfaenol o Degwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE) ym mhob agwedd ar waith y sefydliad. Rydym yn gadarn yn ein hymrwymiad i feithrin gweithle lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i rymuso.
Rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn falch o fod yn gymuned lle gall pob unigolyn ffynnu a chyflawni ei botensial. Safwn yn gadarn yn erbyn pob math o hiliaeth, gwahaniaethu, a rhagfarn.
Fel cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir ac yn ymroddedig i sicrhau proses recriwtio gynhwysol a diragfarn.
Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE)
- Mae tegwch wrth wraidd ein gweithrediadau, gan sicrhau triniaeth ddiduedd ar bob lefel.
- Mae parch yn arwain ein rhyngweithiadau, gan feithrin diwylliant o empathi.
- Nid nod yn unig yw cydraddoldeb, ond safon ofynnol, gan hyrwyddo cyfle cyfartal waeth beth fo'i gefndir.
- Mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu, gan gydnabod cryfder ein gwahaniaethau a sut y gallant ein gyrru ymlaen.
- Mae cynhwysiant yn ffynnu trwy ddeialog agored a llwybrau hygyrch i bob llais.
- Mae ymgysylltu yn hanfodol, gan ein bod yn cynnwys cyflogeion yn weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau, gan greu ymdeimlad o berthyn.
Trwy addysg barhaus, ymwybyddiaeth, a mentrau ymroddedig, rydym yn hyrwyddo FREDIE i greu gweithle cytûn a ffyniannus i bawb.
I drafod mater cydraddoldeb ac amrywiaeth, e-bostiwch gt.williams@gllm.ac.uk