Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwybodaeth Bwysig - Dyddiad Cynefino a Dechrau (Glynllifon)

Diolch i chi am ddewis astudio yn y coleg. Rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed i wneud yn siŵr y byddi di'n cael profiadau rhagorol yn y coleg mewn amgylchedd croesawgar a fydd yn rhoi blaenoriaeth i dy anghenion. ⁠

Mae'r dudalen hon yn amlygu'r dyddiadau a'r camau allweddol y mae angen i chi eu dilyn nesaf.

Dyddiadau Pwysig:

Cam 1: ⁠Dyddiadau Digwyddiadau Sicrhau dy Le: ⁠Dydd Iau 20 Awst a dydd Gwener 21 Awst: 10am i 4pm

Unwaith y byddi di wedi derbyn canlyniadau dy arholiadau TGAU, tyrd i'r coleg ar un o'r dyddiau sydd wedi cael eu neilltuo i ti sicrhau dy le ar y cwrs rwyt ti wedi'i ddewis. Dyma dy gyfle i rannu dy ganlyniadau â ni ac i sicrhau dy fod yn bodloni'r gofynion mynediad ar gyfer dy gwrs. ⁠Os nad ydi dy raddau cystal â'r hyn roeddet ti wedi'i obeithio, paid â phoeni. Bydd ein tiwtoriaid a'r tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr ar gael i gynnig cyngor, i edrych ar dy ddewisiadau, ac i dy helpu i ddod o hyd i'r ffordd orau ymlaen.

Os na elli di ddod i'r digwyddiad Sicrhau dy Le, cysyllta â ni ar y dyddiau hynny drwy ffonio 01286 830 261 neu anfon neges e-bost i glynllifon@gllm.ac.uk

Rydym ni yma i dy helpu i gamu ymlaen yn hyderus.

Cam 2: Dyddiad Dechrau yn y Coleg: Dydd Mercher 2ail o Fedi

Bydd y cyfnod cynefino â'r cwrs a'r campws yn cael ei gynnal dros ddau ddiwrnod:

  • Bydd y gwersi'n dechrau i holl ddysgwyr Lefel 1, Lefel 2 a Lefel 3 (Blwyddyn 1) ddydd mercher 2ail o Fedi.
  • Bydd y gwersi'n dechrau i holl ddysgwyr Lefel 3 Blwyddyn 2 ddydd Llun 7ed o Fedi.
  • ⁠Rhaid i holl ddysgwyr Blwyddyn 1 sy'n dilyn cwrs Lefel 1, Lefel 2 neu Lefel 3 ac sydd wedi talu blaendal am lety yng Nglanrafon gyrraedd yno ddydd Mawrth yr 1af o Fedi ⁠rhwng 1pm a 3.30pm.
  • Gall dysgwyr Lefel 3 Blwyddyn 2 sy'n dychwelyd i hostel Glanrafon am yr ail flwyddyn gyrraedd ar bore Dydd Llun yr 7fed o Fedi.

Yn ystod y cyfnod cynefino byddi'n cyfarfod â'r tiwtoriaid, yn cael cyflwyniad i'r cwrs, ac yn cael dy amserlen ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Byddi hefyd yn cael gwybodaeth bwysig am yr offer neu'r deunyddiau y bydd eu hangen arnat ti ar dy gwrs, yn ogystal â sut i fanteisio ar y gefnogaeth fydd ar gael i ti yn ystod y flwyddyn.

⁠Bydd gwasanaeth cludiant y coleg yn rhedeg o'r un lleoliadau ar yr amseroedd arferol. ⁠Cer i'r tudalennau Cludiant ar wefan y coleg:

  • I wirio amser a lleoliad y man casglu agosaf atat ti
  • l gael gwybod sut i wneud cais am docyn bws cyn dechrau yn y coleg

Edrychwn ymlaen at dy groesawu ac at dy helpu i gael y dechrau gorau posibl yn y coleg!

Beth Fydd Angen i Ti ei Ddod i'r Sesiynau Cynefino:

  • Y papurau neu'r tystysgrifau swyddogol sy'n dangos dy ganlyniadau yn yr arholiadau (os nad wyt ti eisoes wedi gwneud hynny)
  • ⁠Llythyr neu gyfriflen sy'n dangos dy gyfeiriad llawn, yn cynnwys cod post a rhif ffôn
  • Ffi o £30.00 am adnoddau (arian parod, ⁠ siec, neu gerdyn debyd - mae bob dysgwr yn talu'r ffi hon a bydd yn talu costau cynhyrchu cardiau adnabod ac argraffu gwaith) ⁠ ⁠ ⁠⁠
  • Llythyr yn dy hysbysu o'th hawl i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) neu Grant Dysgu Addysg Bellach Llywodraeth Cymru, os yw'n berthnasol
  • Tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), os yw'n berthnasol
  • Arian i brynu cinio a diodydd, neu becyn bwyd
  • Papur a beiro

Preswylwyr Hostel Glanrafon

Bydd angen i ti wneud yn siŵr dy fod yn dod â'r hyn sydd ei angen. Unwaith y bydd dy le yng Ngholeg Glynllifon wedi cael ei gadarnhau, anfonir llythyr atat ti a fydd yn cynnwys manylion pellach. Os oes arnat ti angen rhagor o wybodaeth, cysyllta â: glynllifon@gllm.ac.uk. Mae gwybodaeth hefyd ar gael ⁠trwy - https://www.gllm.ac.uk/hostel-...

Gwybodaeth Ychwanegol:

  • Mae cymorth ariannol ar gael i brynu eitemau a dillad sy'n hanfodol ar gyfer cyrsiau. Darperir rhagor o wybodaeth yn ystod y cyfnod cynefino
  • Gallai dysgwyr oedd yn cael cinio ysgol am ddim fod yn gymwys i gael lwfans dyddiol ar gyfer pryd bwyd. I gael rhagor o wybodaeth, cysyllta â'r Gwasanaethau i Ddysgwyr neu anfona neges e-bost at finance@gllm.ac.uk
  • Os wyt ti'n ystyried newid dy gwrs neu os wyt ti'n poeni na fyddi di'n bodloni'r gofynion mynediad, paid â phoeni. Mae ein tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr yma i helpu. Mae ein Cynghorwyr Myfyrwyr profiadol ar gael i drafod dy ddewisiadau gyda thi ac i dy helpu i ddod o hyd i'r llwybr sy'n iawn i ti.

Pob lwc gyda dy ganlyniadau. Rydym ni'n edrych ymlaen yn fawr at dy groesawu i Goleg Glynllifon ddiwedd Awst ac at dy helpu i gymryd dy gam nesaf tuag at wella dy ddyfodol. I gael rhagor o fanylion am ein cyrsiau, ein gwasanaethau cefnogi, a phopeth sydd angen i ti ei wybod cyn dechrau, cer i gllm.ac.uk.

Os oes gen ti unrhyw gwestiynau, mae croeso i ti gysylltu trwy glynllifon@gllm.ac.uk. Rydym ni yma i helpu!