Gwybodaeth Bwysig - Cynefino a Dyddiad Dechrau
Diolch i chi am ddewis astudio yn y coleg. Mae'r dudalen hon yn amlygu'r dyddiadau a'r camau allweddol y mae angen i chi eu dilyn nesaf.
Rydym ni'n deall bod yna lawer o bethau i'w cofio, ond paid â phoeni, rydym ni yma i helpu.
Dyddiadau Pwysig - Dysgwyr Blwyddyn 1:
Cam 1: Dyddiadau Digwyddiadau Sicrhau dy Le: Dydd Iau 20 Awst a dydd Gwener 21 Awst: 10am i 4pm
Unwaith y byddi di wedi derbyn canlyniadau dy arholiadau TGAU, tyrd i'r coleg ar un o'r dyddiau sydd wedi cael eu neilltuo i ti sicrhau dy le ar y cwrs rwyt ti wedi'i ddewis. Dyma dy gyfle i rannu dy ganlyniadau â ni ac i sicrhau dy fod yn bodloni'r gofynion mynediad ar gyfer dy gwrs. Os nad ydi dy raddau cystal â'r hyn roeddet ti wedi'i obeithio, paid â phoeni. Bydd ein tiwtoriaid a'r tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr ar gael i gynnig cyngor, i edrych ar dy ddewisiadau, ac i dy helpu i ddod o hyd i'r ffordd orau ymlaen.
Rydym ni yma i dy helpu i gamu ymlaen yn hyderus.
Cam 2: Dyddiad Cychwyn dysgwyr Addysg Bellach yn y Coleg: Dydd Iau 27 Awst
Bydd y cyfnod cynefino â'r cwrs a'r campws yn cael ei gynnal dros ddau ddiwrnod: 27 o Awst a 28 o Awst o 9yb. Yn ystod y cyfnod cynefino byddi'n cyfarfod â'r tiwtoriaid, yn cael cyflwyniad i'r cwrs, ac yn cael dy amserlen ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Byddi hefyd yn cael gwybodaeth bwysig am yr offer neu’r deunyddiau y bydd eu hangen arnat ti ar dy gwrs, yn ogystal â sut i fanteisio ar y gefnogaeth fydd ar gael i ti yn ystod y flwyddyn.
Bydd gwasanaeth cludiant y coleg yn rhedeg o'r un lleoliadau ar yr amseroedd arferol. Cer i'r tudalennau Cludiant ar wefan y coleg:
- I wirio amser a lleoliad y man casglu agosaf atat ti
- I gael gwybod sut i wneud cais am eich tocyn bws cyn dechrau yn y coleg
Edrychwn ymlaen at dy groesawu ac at dy helpu i gael y dechrau gorau posibl yn y coleg!
Dyddiadau Pwysig - Dysgwyr Blwyddyn 2:
Bydd y coleg yn ailagor i ddysgwyr yr ail flwyddyn (Lefel 3 Blwyddyn 2 ac A2) ddydd Mawrth 1af o Fedi 2026. Byddi di'n cyfarfod â thîm addysgu'r cwrs ac yn dechrau ar gyfnod cynefino'r 2il flwyddyn.
Dyddiadau Pwysig - Dysgwyr Glynllifon:
Mae gwybodaeth am y cyfnod cynefino a'r dyddiad cychwyn i ddysgwyr Glynllifon i'w gweld yma.
Beth Fydd Angen i Ti ei Ddod i'r Sesiynau Cynefino:
- Y papurau neu'r tystysgrifau swyddogol sy'n dangos dy ganlyniadau yn yr arholiadau (os nad wyt ti eisoes wedi gwneud hynny)
- Llythyr neu gyfriflen sy'n dangos dy gyfeiriad llawn, yn cynnwys cod post a rhif ffôn
- Ffi o £30 am adnoddau (arian parod, siec, neu gerdyn debyd – mae bob dysgwr yn talu'r ffi hon a bydd yn talu costau cynhyrchu cardiau adnabod ac argraffu gwaith)
- Llythyr yn dy hysbysu o'th hawl i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) neu Grant Dysgu Addysg Bellach Llywodraeth Cymru, os yw'n berthnasol
- Tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), os yw'n berthnasol
- Arian i brynu cinio a diodydd, neu becyn bwyd
- Papur a beiro
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Mae cymorth ariannol ar gael i brynu eitemau a dillad sy'n hanfodol ar gyfer cyrsiau. Darperir rhagor o wybodaeth yn ystod y cyfnod cynefino
- Gallai dysgwyr oedd yn cael cinio ysgol am ddim fod yn gymwys i gael lwfans dyddiol ar gyfer pryd bwyd. I gael rhagor o wybodaeth, cysyllta â'r Gwasanaethau i Ddysgwyr neu anfona neges e-bost i finance@gllm.ac.uk
- Os wyt ti'n ystyried newid dy gwrs neu os wyt ti'n poeni na fyddi di'n bodloni'r gofynion mynediad, paid â phoeni. Mae ein tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr yma i helpu. Mae ein Cynghorwyr Myfyrwyr profiadol ar gael i drafod dy ddewisiadau gyda thi ac i dy helpu i ddod o hyd i'r llwybr sy'n iawn i ti.
Pob lwc gyda dy ganlyniadau. Rydym ni'n edrych ymlaen yn fawr at dy groesawu i Goleg ddiwedd Awst ac at dy helpu i gymryd dy gam nesaf tuag at wella dy ddyfodol.
I gael rhagor o fanylion am ein cyrsiau, ein gwasanaethau cefnogi, a phopeth sydd angen i ti ei wybod cyn dechrau, cer i gllm.ac.uk.
Os oes gen ti unrhyw gwestiynau, mae croeso i ti gysylltu trwy generalenquiries@gllm.ac.uk
Rydym ni yma i helpu!