Cyflogwyr
Yma yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym yn helpu busnesau i gryfhau drwy ddatblygu sgiliau, cefnogi recriwtio, a darparu hyfforddiant wedi'i deilwra. P'un a ydych chi'n fasnachwr unigol, neu'n gyflogwr sy'n uwchsgilio'ch tîm presennol, yn recriwtio talent newydd, neu'n archwilio prentisiaethau, rydym yma i gefnogi eich sefydliad bob cam o'r ffordd.
Sut Rydym yn Cefnogi Cyflogwyr a Pherchnogion Busnesau
Rydym yn darparu hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar gyflogwyr yn ein tri choleg, Coleg Llandrillo, Coleg Menai, a Choleg Meirion-Dwyfor, ac yn ein canolfannau arbenigol yn Llanelwy, Bangor, Llangefni a Glynllifon, gan gynnig amrywiaeth eang o ddewisiadau hyblyg:
- Cyrsiau byr a micro-ddysgu i ddiwallu anghenion hyfforddi uniongyrchol
- Datblygiad proffesiynol rhan-amser wedi'i deilwra o amgylch ymrwymiadau gwaith
- Rhaglenni ar bob lefel, o gyrsiau cyflwyno hyd at gymwysterau lefel gradd
- Prentisiaethau a hyfforddiant seiliedig ar waith i adeiladu gweithlu'r dyfodol
P'un a ydych chi'n fusnes bach neu'n sefydliad mawr, rydym yn darparu'r sgiliau, yr arbenigedd a'r gefnogaeth i'ch helpu i ffynnu mewn byd cystadleuol.
Cymwysterau Proffesiynol
Mae ein cyrsiau'n cael eu cydnabod gan ddiwydiant ac yn cynnig cymwysterau proffesiynol sydd wedi'u cynllunio i gefnogi unigolion, cyflogwyr a sefydliadau i feithrin y sgiliau sydd eu hangen i gefnogi twf economaidd cynaliadwy ar draws y rhanbarth a thu hwnt.
Cyrsiau byr
Rydym yn cynnig dewis helaeth o gyrsiau busnes a chyrsiau arbenigol byr, nad ydynt fel arfer yn para mwy na 5 diwrnod.
Micro-ddysgu
Darganfyddwch ffordd newydd o ddysgu gyda'n sesiynau hyfforddi micro-ddysgu - sesiynau effeithiol a gynlluniwyd ar gyfer busnesau a gweithwyr proffesiynol prysur ledled gogledd Cymru a'r gogledd orllewin.
Hyfforddiant rhan-amser
Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau i gyflogwyr a pherchnogion busnes, yn cynnwys hyfforddiant perthnasol i'w diwydiant a chyrsiau ar gyfer datblygiad proffesiynol, a gallwch ddilyn y cyrsiau yn rhan-amser ochr yn ochr ag ymrwymiadau eich gweithle.
I archebu, cysylltwch â ni ar 08445 460 460 neu busnes@gllm.ac.uk. Gellir archebu a thalu am nifer o'n cyrsiau ar-lein.
Gwasanaethau Arbenigol
Cyngor a chefnogaeth arbenigol i'ch helpu i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau arloesol, o weithgynhyrchu i fwyd ac i ynni.
Ariannu
Mae gennym wahanol fathau o gyfleoedd cyllido i gefnogi cyflogwyr a gweithwyr i hyfforddi
Pam gweithio gyda ni
Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, ein tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr yw'r pwynt cyswllt cyntaf i fusnesau ledled Gogledd Cymru.
Cysylltwch â ni
Gall ein tîm o Ymgynghorwyr Datblygu Busnes ymroddedig eich cefnogi gyda'ch anghenion hyfforddi.
Newyddion diweddaraf / Gweld holl newyddion
Staff Grŵp Llandrillo Menai Grŵp Llandrillo Menai yn gwneud y Ras Arfordirol i Ofalu er budd elusen
Mae un ar ddeg aelod o staff Grŵp Llandrillo Menai yn paratoi i wthio eu hunain i'r eithaf trwy gymryd rhan mewn her elusennol a drefnwyd i godi arian i Ysbyty Plant Alder Hey ac Ysbyty Gwynedd.
Dydi hi byth yn rhy hwyr: Newid gyrfa yn arwain at wobrau i Catrina Sheltinga
Doedd Catrina Sheltinga, sy'n nyrs filfeddygol, ddim wedi disgwyl y byddai'n gallu gweithio yn y diwydiant milfeddygol. Ond mae bellach wedi cael ei chydnabod â'r anrhydeddau uchaf ar ôl dychwelyd i addysg yn ddiweddarach yn ei bywyd.
Gwobr Nyrsio Milfeddygol Genedlaethol i Hyfforddwr o Glynllifon
Rydym ni wrth ein bodd fod Laura Lacey, aelod ymroddedig o'r tîm yng Glynllifon, wedi ennill gwobr Addysgwr Nyrsio Milfeddygol 2026 CQ (Central Qualifications).