Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cymwysterau Proffesiynol

Cymwysterau Proffesiynol ar gyfer Dilyniant Gyrfa a Llwyddiant mewn Busnes

Datblygwch y wybodaeth, y sgiliau a'r gydnabyddiaeth broffesiynol sy'n angenrheidiol i lwyddo mewn sefydliadau modern drwy ennill cymwysterau proffesiynol yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

Mae ein cyrsiau'n cael eu cydnabod gan ddiwydiant ac yn cynnig cymwysterau proffesiynol sydd wedi'u cynllunio i gefnogi unigolion, cyflogwyr a sefydliadau i feithrin y sgiliau sydd eu hangen i gefnogi twf economaidd cynaliadwy ar draws y rhanbarth a thu hwnt.

P'un a ydych chi'n dechrau eich gyrfa broffesiynol neu'n symud ymlaen i swydd uwch, mae ein rhaglenni yn cynnig llwybrau clir ym maes cyfrifeg, adnoddau dynol, caffael, marchnata, rheoli prosiectau, ac arweinyddiaeth.

Mae ein cymwysterau proffesiynol yn cynnwys:

  • AAT – Cymwysterau Cyfrifyddu (Lefel 2-4)
  • ACCA – Cymhwyster Cyfrifeg Proffesiynol
  • CIPD – Rheoli Adnoddau Dynol a Phobl (Lefel 3 a 5)
  • CIPS – Caffael a'r Gadwyn Gyflenwi (Lefel 3–6)
  • CIM – Cymwysterau Marchnata (Lefel 3–6)
  • PRINCE2® - Rheoli Prosiectau
  • Agile – Rheoli Prosiectau
  • ILM – Arwain a Rheoli (Lefel 2-7)
  • ILM – Hyfforddi, Mentora a Goruchwylio (Lefel 3, 5, a 7)

Datblygiad proffesiynol sy'n cefnogi gyrfaoedd, sefydliadau ac economi gogledd Cymru:

  • Cymwysterau proffesiynol a gydnabyddir gan ddiwydiant ac a werthfawrogir gan gyflogwyr
  • Dysgu ar-lein hyblyg wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol
  • Tiwtoriaid arbenigol a chanddynt brofiad helaeth mewn diwydiant
  • Llwybrau dilyniant clir o lefel mynediad i lefel arweinyddiaeth strategol
  • Rhaglenni a gynlluniwyd i gefnogi unigolion a chyflogwyr
Baner fechan gyda logo Business@

Datblygu Sgiliau Hyblyg ar gyfer Sefydliadau Modern

Ynghyd â chymwysterau proffesiynol, rydym ni hefyd yn cynnig rhaglenni micro-ddysgu a gynlluniwyd i ddatblygu sgiliau'n gyflym yn y gweithle. Mae'r cyrsiau byr a phwrpasol hyn yn galluogi unigolion a sefydliadau i feithrin sgiliau’n gyflym mewn meysydd fel arweinyddiaeth, cymhwystra digidol, cynhyrchiant, a gwella busnes.

Mae micro-ddysgu'n ffordd hyblyg arall i sefydliadau wella sgiliau eu timau'n gyflym ac i unigolion ddatblygu sgiliau newydd yn eu swyddi presennol.

Logo ACCA Approved

Dod yn Weithiwr Proffesiynol ym maes Cyllid

ACCA – Cymhwyser Cyfrifeg Proffesiynol

Datblygwch yrfa lwyddiannus ym maes cyfrifeg, cyllid neu arweinyddiaeth fusnes gyda chymhwyser ACCA a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Rydym ni'n Bartner Dysgu i ACCA sydd wedi'i Gymeradwyo â Safon Aur am ansawdd ein haddysgu, ein cefnogaeth i fyfyrwyr a llwyddiant mewn arholiadau.

  • Cymhwyster proffesiynol a gydnabyddir yn rhyngwladol
  • Dysgu ar-lein hyblyg sy'n cyd-fynd â dyletswyddau gwaith
  • Tiwtoriaid sydd â phrofiad helaeth mewn diwydiant
  • Dilyniant o Lefel AAT 4 i statws Siartredig

Cychwynnwch eich taith gydag ACCA heddiw.

Dewch i wybod mwy
Logo AAT Approved

Dod yn Weithiwr Cyfrifyddu Proffesiynol

AAT – Lefel 2-4

Cymerwch y cam cyntaf tuag at yrfa lwyddiannus ym maes cyfrifyddu, cyllid a busnes gyda chymwysterau AAT.

P'un a ydych chi'n dechrau ar eich gyrfa, yn awyddus i symud ymlaen yn eich swydd bresennol, neu'n meithrin talent yn eich sefydliad, mae ein cymwysterau AAT Lefel 2-4 yn cynnig llwybr ymarferol i'r proffesiwn ariannol drwy gyrsiau rhan-amser neu brentisiaethau a ariennir gan AdAS.

Ni yw un o brif ddarparwyr hyfforddiant proffesiynol y rhanbarth ym maes cyfrifeg, ac yn ogystal â thiwtoriaid arbenigol rydym ni'n cynnig cefnogaeth ragorol i fyfyrwyr a chyfleoedd dilyniant clir.

  • Cymwysterau cyfrifyddu cydnabyddedig a werthfawrogir gan gyflogwyr
  • Cyfleoedd i astudio'n rhan-amser neu drwy brentisiaeth
  • Cyfleoedd ariannu drwy AdAS i ddysgwyr cymwys
  • Dilyniant o'r lefel sylfaenol i fod yn dechnegydd cyfrifyddu proffesiynol
  • Delfrydol i unigolion a chyflogwyr sydd am feithrin gweithwyr cyllid talentog

Cychwynnwch eich taith gydag AAT heddiw.

Dewch i wybod mwy
Logo 'CIPD Platinum Centre'

Adeiladu Gyrfa ym maes Rheoli Adnoddau Dynol a Phobl

CIPD – Tystysgrif Sylfaen Lefel 3 a Diploma Cyswllt Lefel 5

Datblygwch y wybodaeth a'r gydnabyddiaeth broffesiynol sydd eu hangen i adeiladu gyrfa lwyddiannus ym maes Adnoddau Dynol drwy gymwysterau CIPD.

P'un a ydych chi'n dechrau eich gyrfa ym maes AD neu'n symud ymlaen i swydd rheoli pobl fwy strategol, mae ein rhaglenni Lefel 3 a Lefel 5 yn darparu'r sgiliau y mae ar gyflogwyr eu hangen i reoli pobl yn effeithiol ac i gefnogi llwyddiant sefydliadol. Gallwch astudio'n rhan-amser gyda chyllid gan AdAS neu drwy brentisiaeth CIPD, gan roi i chi'r hyblygrwydd i ddysgu mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'ch gyrfa ac amodau eich cyflogaeth.

  • Cymwysterau adnoddau dynol a rheoli pobl a gydnabyddir yn fyd-eang
  • Dosbarthiadau ar-lein byw a hyblyg a gynlluniwyd ar gyfer gweithwyr proffesiynol
  • Dysgu gan ymarferwyr a thiwtoriaid profiadol ym maes adnoddau dynol
  • Dilyniant o wybodaeth lefel mynediad i reoli pobl yn strategol
  • Gwella eich cyfleoedd gyrfa ar draws pob sector

Datblygwch y sgiliau i arwain pobl a sefydliadau.

Dewch i wybod mwy
Logo CIPS

Adeiladu Gyrfa ym maes Caffael a Chadwyni Cyflenwi

Cymwysterau CIPS Lefel 3 – Lefel 6

Datblygwch y wybodaeth broffesiynol a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i lwyddo ym maes rheoli caffael a chadwyni cyflenwi gyda chymwysterau CIPS.

Cydnabyddir cymwysterau CIPS gan gyflogwyr ar draws y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang, ac maent yn darparu'r arbenigedd sydd ei angen i reoli prosesau pwrcasu, cysylltiadau â chyflenwyr, contractau, a chadwyni cyflenwi strategol.

P'un a ydych chi'n dechrau eich gyrfa broffesiynol ym maes caffael neu'n symud ymlaen i arwain cadwyni cyflenwi, mae rhaglenni CIPS Lefel 3 i Lefel 6 yn cynnig llwybrau clir i gydnabyddiaeth broffesiynol.

  • Cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol ym maes caffael a chadwyni cyflenwi
  • Dysgu ar-lein hyblyg a gynlluniwyd ar gyfer gweithwyr proffesiynol
  • Tiwtoriaid arbenigol sydd â phrofiad o gaffael a diwydiant
  • Dilyniant o Dystysgrif Uwch ar Lefel 3 i Ddiploma Proffesiynol ar Lefel 6
  • Meithrin sgiliau caffael strategol a sgiliau gwneud penderfyniadau masnachol
  • Arian ar gael gan y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol ar gyfer y Ddiploma Lefel 4 mewn Caffael a Chyflenwi a'r Ddiploma Lefel 5 Uwch mewn Caffael a Chyflenwi

Cychwynnwch eich taith gyda CIPS heddiw.

Dewch i wybod mwy
Logo CIM

Adeiladu Gyrfa ym maes Marchnata a Chyfathrebu Digidol

Cymwysterau CIM Lefel 3 – Lefel 6

Datblygwch y wybodaeth broffesiynol a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i lwyddo yn y maes marchnata modern gyda chymwysterau CIM.

Cydnabyddir cymwysterau CIM gan gyflogwyr ar draws y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, ac maent yn darparu'r arbenigedd sydd ei angen i gynllunio strategaethau marchnata, datblygu brandiau a rhedeg ymgyrchoedd digidol effeithiol.

P'un a ydych chi'n dechrau eich gyrfa farchnata neu'n symud ymlaen i swydd marchnata strategol, mae rhaglenni CIM o Lefel 3 i Lefel 6 yn cynnig llwybrau clir i gydnabyddiaeth broffesiynol.

  • Cymwysterau marchnata a gydnabyddir yn fyd-eang ac a werthfawrogir gan gyflogwyr
  • Dysgu ar-lein hyblyg a gynlluniwyd ar gyfer gweithwyr proffesiynol
  • Tiwtoriaid arbenigol sydd â phrofiad marchnata helaeth a phrofiad mewn diwydiant
  • Dilyniant o Dystysgrif Sylfaen Lefel 3 i Ddiploma Lefel 6
  • Arian ar gael gan y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol ar gyfer Tystysgrif Lefel 4 CIM mewn Marchnata Proffesiynol

Cychwynnwch eich taith gyda CIM heddiw.

Dewch i wybod mwy
Logo ILM

Cymwysterau Proffesiynol ar gyfer Arwain Pobl, Prosiectau a Sicrhau Perfformiad

Datblygu'r gallu i arwain, yr arbenigedd i gyflawni prosiectau a'r sgiliau hyfforddi i lwyddo mewn sefydliadau modern.

Mae'r llwybr datblygiad proffesiynol hwn yn cynnwys:

  • PRINCE2® - Rheoli Prosiectau
  • Agile - Rheoli Prosiectau
  • ILM - Arwain a Rheoli (Lefel 2–7)
  • ILM - Hyfforddi a Mentora (Lefel 3, 5, a 7)

Mae ein rhaglenni'n dwyn ynghyd cymwysterau rheoli prosiectau a gydnabyddir yn fyd-eang a fframweithiau arwain a hyfforddi blaenllaw yn y diwydiant i helpu gweithwyr proffesiynol a sefydliadau i gyflawni newid, i wella perfformiad ac i ddatblygu timau sy'n perfformio i lefel uchel.

  • Cymwysterau arwain a rheoli prosiectau a gydnabyddir gan y diwydiant
  • Sgiliau ymarferol ar gyfer rheoli pobl, prosiectau a newid sefydliadol
  • Dysgu hyblyg wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol
  • Yn ddelfrydol ar gyfer rheolwyr, arweinwyr tîm, rheolwyr prosiectau ac arweinwyr uchelgeisiol
  • Arian ar gael gan y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol ar gyfer llwybrau rheoli prosiect Prince2 ac Agile

Meithrin y gallu i arwain timau, cyflawni prosiectau a gyrru llwyddiant sefydliadol.

Dewch i wybod mwy