Cynorthwyydd Cylch Meithrin Morfa Nefyn/Cylch Meithrin Assistant
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gymhorthydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg. Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar o leiaf Lefel 2 i ofalu am blant. Byddai profiad o weithio mewn cylch blaenorol o fantais, ond nid yn angenrheidiol.
Sut i wneud cais
Ffurflen gais ar gael trwy ebostio ysgrifenydd.cylchmorfa@gmail.com
Manylion Swydd
Lleoliad
Morfa Nefyn
Sir
Gwynedd
categori
Llawn Amser
Sector
Sector Gofal / Care Sector
Dyddiad cau
31.03.22
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk.
Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar: 08445 460 460 neu busnes@gllm.ac.uk