Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.

Rydym yn cynnig cyfle gwych i rywun ymuno â’n tîm fel y cogydd, gan helpu i baratoi a gweini bwyd i’n gwesteion a’n tîm. Rydym yn chwilio am rywun sy'n caru coginio ac sy'n gallu darparu ar gyfer grwpiau o hyd at 60 o bobl, sy'n hyblyg ac yn barod i weithio'n galed i gynnal safonau uchel o fewn yr amgylchedd arlwyo.

Prif Ddyletswyddau

  • Sicrhau safonau arlwyo uchel ochr yn ochr â rheoli ansawdd a dognau i'n gwesteion a staff.
  • Helpu i dderbyn archebion a chylchdroi stoc.
  • Cynnal safon uchel o ddiogelwch, glanweithdra a hylendid bwyd.
  • Sicrhau bod y gegin, yr ystafelloedd bwyta, y storfeydd a’r mannau golchi llestri yn cael eu cadw’n lân ac yn daclus (gan weithio gydag aelodau eraill o’r tîm)
  • Cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth, gwaith papur a chadw cofnodion sy'n gysylltiedig ag arlwyo.

Oriau
5 diwrnod yr wythnos – fel arfer Llun-Gwener – Efallai y bydd angen rhai penwythnosau.

Cyflog
Cyflog i'w drafod yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.
Isafswm cyflog fydd £22,308 Gros y flwyddyn

Gwyliau
Hawl i 28 diwrnod o wyliau gan gynnwys unrhyw wyliau cyhoeddus/banc y gallwch ddewis gwneud cais amdanynt. Bydd yr hawliau ar sail pro-rata i weithwyr rhan-amser. Yn ystod eich blwyddyn wyliau gyntaf bydd eich hawl yn gymesur â faint o amser sydd ar ôl yn y flwyddyn wyliau.

Ar ôl 2 flynedd o wasanaeth bydd gennych hawl i ddau ddiwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol. Ar ôl 4 blynedd o wasanaeth bydd gennych hawl i un diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol. Ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth bydd gennych hawl i un diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol. Bydd yr hawliau ar sail pro-rata i weithwyr rhan-amser.


Sut i wneud cais

E-bostwich holidays@minydon.com neu ffoniwch y Swyddfa 01341 250433


Manylion Swydd

Lleoliad

Arthog

Sir

Gwynedd

categori

Llawn Amser

Sector

Lletygarwch ac Arlwyo / Hospitality & Catering

Gwefan

https://minydon.com/jobs/

Dyddiad cau

27.09.24

Logo Ariennir gan Lywordaeth Cymru

Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.


Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?

Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?

Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.

Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:

  • Prentisiaethau
  • Swyddi llawn amser
  • Swyddi rhan-amser
  • Contractau cyfnod penodol

I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk.

Ffurflen Hysbysfwrdd Swyddi